主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Dafydd Iwan
Bywyd mewn lluniau
Glyn Evans yn edrych ar y gyfrol Dafydd Iwan - Bywyd mewn lluniau / A life in pictures. Golygydd, Llion Iwan. Gwasg Gomer. 拢8.99.

Clawr y llyfr Mae'n braf weithiau dod i adnabod person cyhoeddus yn well - trwy luniau.

Er bod Dafydd Iwan ei hun yn disgrifio casgliad hwn o luniau ohono fel "rhywbeth sydd fawr mwy nag albwm o luniau" fe fydd yna ddiddordeb mawr y gyfrol hon o luniau a olygwyd gan ei fab, Llion Iwan.

"Roedd palu trwy gannoedd o luniau dros y misoedd diwethaf yn arbennig o ddiddorol imi, wrth gael cwrdd eto ag aelodau o'r teulu a hen ffrindiau a rhannu ambell i daith i bedwar b芒m byd," meddai.

Dafydd y canwr "Dysgais dipyn ac roedd yn fodd i weld maint ei ddiddordebau a'i waith, ei amrywiol deithiau a hyd yn oed ambell fenter i fyd y theatr," meddai

Ac yntau wedi bod yn berson mor gyhoeddus ers cymaint o flynyddoedd yng Nghymru bydd y gyfrol o ddiddordeb i ddarllenwyr hefyd ac yn fodd i gwblhau yr hyn 芒 gred Dafydd Iwan sy'n "ddarlun anghyflawn" ohono yng ngolwg llawer iawn o bobl.

"Bydd rhai yn fy ngweld fel rhyw fath o arwr (Duw a'n helpo) ac eraill yn fy ngweld fel dihiryn eithafol a chul; rhai yn credu bod folk singer yn ddisgrifiad digonol ohonof, a llawer wrth gwrs - hyd yn oed yng Nghymru - yn meddwl dim o gwbwl," meddai.

Mae'r wybodaeth am y lluniau - sy'n ymestyn o Ddafydd yn grwt ysgol ym Mrynaman i Ddafydd yn annerch cynhadledd y Blaid eleni - yn ddwyieithog.

Hynny "am fod rhywun yn dod yn fwyfwy ymwybodol o'r bwlch enfawr sydd rhwng y diwylliant Cymraeg a'r di-Gymraeg yng Nghymru," meddai.

Ymgyrch arwyddion ffyrdd"Ac rwy'n berffaith sicr fod yn rhaid i'r Cymry Cymraeg a'r di-Gymraeg fel ei gilydd, wneud mwy o ymdrech i gau'r bwlch," ychwanega.

Dywed fod i'r bwlch hwn ei gryfder a'i wendid:
"Ar un wedd, y bwlch hwn sydd wedi cadw'r Gymraeg yn fyw - am ei bod yn gallu sefyll ar ei thraed ei hun, yn annibynnol, a hynny'n ein galluogi i greu byd cyfan Cymraeg ar wah芒n.

"Ond mae'r cryfder yn gallu troi'n wendid, a bellach mae angen inni wrth gefnogaeth y di-Gymraeg," meddai.

Ychwanega fod dyletswydd ar y Cymraeg eu iaith ddeall yn well "sut brofiad yw body n Gymry heb iaith - ac o wneud hynny, lwyddo'n well i'w denu if yd yr iaith a'i diwylliant."

Rhybuddia fod yn rhaid "cloddio llai o ffosydd, codi llai o furiau, ac adeiladu mwy o bontydd" gan ddweud mai hynny sydd wrth wraidd dwyieithrwydd y gyfrol hon.

Wrth gyflwyno'r gyfrol dywed Llion Iwan i'w golygu fod yn fodd iddo ddod i adnabod ei dad yn well.

"Gobeithio y bydd lluniau'r gyfrol hon yn fodd i eraill ddod i'w adnabod ychydig yn well hefyd," meddai.

Yn yr ysgolYmhlith y lluniau cynharaf y mae un, nodweddiadol o'r cyfnod, ohono yn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Brynaman tua 1948.

Mewn un arall mae gyda'i frawd h欧n, Huw Ceredig cyn geni ei ddau frawd arall.

Gydag un ohono yn rhoi potel i oen llywaeth yn Nantyfyda mae'r wybodaeth ychwanegol:
"Ar dir Nantyfyda yr oedd murddun Esgair Llyn a enwogwyd gan Dafydd ar y d么n The Fields of Athenry."

Fel y byddai rhywun yn disgwyl, mae'n debyg, y lluniau cynharaf ac yn enwedig rhai dyddiau cythrwfl y Chwech a'r Saithdegau yw'r rhai difyrraf gyda'r hud ychwanegol yn perthyn iddyn nhw o fod yn agoriad llygaid i rai ac yn sbardun atgofion i eraill.

Gwybodaeth ar Gwales



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy