主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Yng Ngolau'r Lleuad
Trin a thrafod Caradog Prichard
Sylwadau Glyn Evans ar Yng Ngolau'r Lleuad - Ffaith a Dychymyg yng Ngwaith Caradog Prichard gan Menna Baines. Gomer. 拢19.99.

Gellir maddau i rywun am ddweud yn ystrydebol inni fod yn disgwyl am flynyddoedd am lyfr am Caradog Prichard ac wele'n awr ddau yn cyrraedd, fel bysus, efo'i gilydd!

O fewn wythnosau i'w gilydd cyhoeddwyd bywgraffiad darluniadol rhagorol John Elwyn Hughes, Byd a Bywyd Caradog Prichard a beirniadaeth lenyddol drwyadl Menna Baines.

Clawr y llyfr Er mor wahanol y ddau lyfr maent ill dau yn gaffaeliad er, rhaid cydnabod, mai cyfrol John Elwyn Hughes fydd fwyaf poblogaidd oherwydd ei natur.

Yr oedd y dyrfa yn Neuadd Ogwen noson ei chyhoeddi yn awgrym o sut y byddai pethau.

Mae Menna Baines gyda'i dadansoddi ysgolheigaidd, treiddgar, a'i llygaid ar fath arall o gynulleidfa ac yr ydym yn ffodus i ddwy gynulleidfa gael eu digoni i'r fath raddau gyda dewis o pa un o'r ddwy fws i deithio arnynt.

Bydd amryw am deithio ar y ddwy wrth gwrs ond mae'n deg dweud y bydd pawb a ddewis fws Menna Baines am deithio ar un John Elwyn Hughes hefyd.

Fydd y gwrthwyneb ddim yn wir.

Llun anghyfarwydd
Ni wn ai o ddamwain y dewisodd Menna Baines lun hytrach yn anghyfarwydd o Caradog Prichard i'w osod ar glawr ei chyfrol yn hytrach nag un o'r rhai mwyaf arferol ohono - ond y mae hynny yn cyfleu natur yr astudiaeth sy'n dangos corneli dieithr o fywyd llenor yr oeddem yn meddwl ein bod yn ei adnabod yn iawn.

Y gwir amdani yw nad oeddem ni'n adnabod Caradog Prichard gystal ag yr oeddem ni'n meddwl - hyd yn oed y rhai hynny ohonom a ddarllenodd ei hunangofiant, Afal Drwg Adda.

Trwythodd Menna Baines ei hun nid yn unig hwnnw ond ymchwiliodd yn eang hefyd - does ond eisiau pori yn y nodiadau ar ddiwedd pob pennod i werthfawrogi rhychwant ei darllen.

Gwerth arbennig y gyfrol hon yw ei bod yn priodi'r dyn a'i greadigaethau llenyddol mewn ffordd sy'n hoelio sylw darllenydd.

Taflu goleuni
Bydd Yng Ngolau'r Lleuad yn oleuni llachar i fyfyrwyr sydd am astudio gwaith Caradog Prichard - bydd hefyd yn ysgogiad i eraill ddychwelyd at y gweithiau hynny a'u darllen mewn goleuni newydd.

Nid yn unig mae'n gyfraniad i ysgolheictod ond diwalla ddiddordeb creiddiol pobl yn ei gilydd.

Ffodus yn ei gwrthrych
Bu'n ffodus yn ei gwrthrych, wrth gwrs, gan nad creadur syml, hawdd ei ddarlunio Garadog Prichard.

Yr oedd, yn wir, amryw byd ohono yn ei glai, a rhai o brofiadau ysgytwol bywyd wedi ystumio'r clai hwnnw. Dyn mewn gwewyr sy'n ymffurfio ger ein bron.

Ar gychwyn cyntaf y gyfrol dengys Menna Baines ei bod yn amhosib trafod cynnyrch llenyddol Caradog Prichard heb s么n hefyd am "ei stori bersonol ac amgylchiadau ei fywyd" ac i'r diben hwnnw mae'n pwyso'n drwm ar Afal Drwg Adda am yr wybodaeth ganolog.

Bu hefyd yn pori ymhlith llythyrau, erthyglau ac yn y blaen am wybodaeth a thystiolaeth ychwanegol er mwyn datgymalu'r plethiad o ffaith a dychymyg sy'n treiddio drwy ei holl waith

"Peth bwriadol," meddai wrth drafod yr enwocaf o'i weithiau, y nofel Un Nos Ola Leuad, "oedd penderfynu cymysgu ffaith a ffuglen.".

Daw i'r casgliad:
"Beth bynnag oedd prosesau creu Un Nos Ola Leuad, a pha mor ymwybodol bynnag oedd yr awdur ohonynt, canlyniad y cwbl oedd clamp o nofel - un hudol yn ei darlun o blentyndod ac ysgytiol yn ei phortread o chwalfa'r byd hwnnw; ysgytiol hefyd yn y modd y mae chwalfa bersonol y prif gymeriad yn cael eu hadleisio mewn chwalfa gymdeithasol ehangach . . ."

Profiad o golled
Ychwanega mai'r hyn sy'n sylfaenol nid yn unig i'r nofel hon ond i holl waith Caradog Prichard yw'r "profiad o golled".

Mae teitlau'r penodau yn awgrymu pa mor gymhleth y cymeriad dan sylw; Euogrwydd, Alltudiaeth a Gwallgofrwydd Hunanladdiad a Byd Arall yn dair pennod hawdd ymgolli ynddynt.

Y tu allan i Gymru
Ac yntau wedi treulio'r rhan fwyaf o'i fywyd y tu allan i Gymru nid yw'n syndod darllen fod alltudiaeth yn "un o them芒u mawr" ei waith.

"Er treulio ymhell dros hanner ei oes y tu allan iddi, ni allodd erioed lawn ddygymod 芒'i alltudiaeth," meddai Menna Baines gan ychwanegu fod llawer o'r hyn a sgrifennodd yn "un ymdrech fawr . . . i ddod i delerau 芒'i alltudiaeth."

Rhybuddia: "Heb ddeall pwysigrwydd y thema hon, prin y gellir dechrau deall y dyn na'i waith. Lle bynnag y trown mae hi yno . . . "

Ac mae'n dangos hefyd fod yr alltudiaeth hon yn rhywbeth llawer mwy cymhleth nag un o ddyn yn methu 芒 dychwelyd i'w gynefin oherwydd gofynion gwaith mewn lle arall.

Mwy dyrys fyth
Os perthynai dryswch a chymhlethdod i'w alltudiaeth - "y freuddwyd am ddychwelyd i Gymru ochr yn ochr 芒'r penderfyniad i beidio bob tro y daw cyfle" - pa faint mwy dyrys ei ymgodymu a chwestiynau mawr "gwallgofrwydd, hunanladdiad a byd arall"?

Bydd y sawl sy'n gyfarwydd ag Un Nos Ola Leuad yn gyfarwydd hefyd ag effaith ysgytwol gwallgofrwydd y fam ar y bachgen. Ac i Caradog Prichard, saerniwr y stori, "rywle y tu 么l i'r cyfan y mae pryder fod gwallgofrwydd yn gyflwr sy'n cael ei etifeddu."

Ac fe ddioddefai ei hun gyflyrau meddwl difrifol:

"gwyddom fod Caradog wedi mynd yn gynyddol ddibynnol ar gyffuriau gwrthweithio iselder ysbryd tua diwedd ei oes," meddai Menna Baines.

Dianc trwy ladd
Ychwanegwyd at y trybestod meddyliol gan y cwestiwn a yw "dioddefaint ambell gyflwr meddyliol yn gyfryw ag i gyfiawnhau dihangfa rhag y byd hwn trwy hunanladdiad i fyd arall tybiedig well"?

Gyda Charadog Prichard dengys ein bod mewn byd "ac iddo wead tyn iawn a hynny oherwydd "i ddychymyg Caradog gael ei feddiannu . . . gan un trywydd meddwl, trywydd na allai yn ei fyw mo'i adael".

Adnabod y dyn
Yr hyn yr ydym yn chwilio amdano mewn cyfrol fel hon, wrth gwrs, yw ateb i'r cwestiwn, Beth sy'n gyrru'r dyn. Weithiau gall yr ateb fod yn glir ac yn eglur. Mewn achosion mwy diddorol, fel ag yn achos Caradog Prichard, mae cymaint o haenau ei bod yn anodd gweld un darlun clir.

Cymwynas Menna Baines, yn y cyd-destun hwn, yw iddi nid yn unig adnabod ar ein rhan yr haenau hyn ond ddod a hwy at ei gilydd ac wrth symud ei chwyddwydr gael y cyfan i ryw gymaint o ffocws.

A'r darlun a gawn yw un o ddyn a llenor wedi ei ysu gan euogrwydd a theimlad o golled - ac o ddyn yn ceisio dod i delerau 芒 phrofiadau personol dirdynnol.

Marwolaeth ei fam
Gesyd yn y canol, mai yr un peth trymaf ei ergyd yn ei fywyd oedd gwallgofrwydd ei fam;
"Profiad mwy ysgytwol hyd yn oed, gellir tybio, na phetai hi wedi marw'n ifanc".

"Y golled hon, yn ddiau, a'i hysgogodd i archwilio mewn rhyddiaith a barddoniaeth . . . them芒u byd y meddwl," meddai.

Yr hyn sy'n gwneud y llyfr hwn yn ddeniadol yw ei gyfuniad o ysgolheictod a difyrrwch.

Y mae Yng Ngolau'r Lleuad yn drwyadl ac yn ddarllenadwy. Nid gormod fyddai dweud fod Menna Baines eisoes wedi hwyluso gwaith beirniaid Llyfr y Flwyddyn.

Adolygiad ar
  • Gwales

Cysylltiadau Perthnasol
Byd a Bywyd Caradog Prichard


cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy