主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Dal i Frygowthan
Ysgrifau difyr i genedl drist
  • Adolygiad Glyn Evans o Dal i Frygowthan gan William Owen. Gwasg y Bwthyn. 拢6.99.

Gair a ddefnyddir ar Ynys M么n am falu awyr, baldorddi, rwdlian ac yn y blaen ydi brygowthan.
Brygowthwr ydi'r sawl sy'n brygowthan.

Gair arall tebyg ydi paldaruo.

Mae'r awdur yn defnyddio brygowthan fel rhyw dynnu coes o hunan ddirmyg.

Mae cymaint sglein ar y sgrifennu, fodd bynnag, yr ydych yn gwybod nad ydi o'n ei feddwl ond y mae'n rhywbeth y mae'n dueddol o'i wneud yn ei holl gyfrolau.

Nifer o gyfrolau
Ac mae yna nifer ohonyn nhw erbyn hyn ers iddo ddechrau cyhoeddi ddiwedd chwedegau yr ugeinfed ganrif.

Yr ysgrif gofiannol a'i ddarluniau geiriol o gymdeithas wledig y pumdegau a'i chymeriadau yw ei arbenigedd - dawn a welwyd ar ei gorau mewn cyfrolau fel Robin Rengan Las a'i Debyg, Y Llanc Nad yw Mwy a Tawelu'r Ysbrydion.

Atgyfnerthir yr ymhyfrydedd mewn cefndir gwledig ac mewn Cymraeg tafodieithol, graenus, mewn teitlau eraill fel Codi Canol Cefn, Llacio'r Gengal a Rhwbath at yr Achos.

Dydi rhywun ddim yn synnu o gwbl darllen yn Dal i Frygowthan mai Laurie Lee - awdur Cider With Rosie - yw un o'i hoff awduron gan fod iddynt lawer sy'n gyffredin o ran cefndir, anian a gafael - delynegol ar adegau - ar eiriau.

Mae ei deyrnged hael a difyr i Lee yn gyflwyniad haeddiannol i'r awdur hwnnw.

Llythyr Huw Puw
Tebyg mai pan yw'n darlunio pobl y mae William Owen ar ei orau ac er nad oes cymaint o hynny yn y gyfrol ddiweddaraf hon y mae i hon hefyd ei datgeliadau - a byddai ambell un ohonom o'r farn iddi fod werth ei chyhoeddi dim ond er mwyn cael i olau dydd lythyr a sgrifennwyd at Bob Owen Croesor gan J. Glyn Davies (awdur Cerddi Huw Puw) fis Tachwedd 1950.

Yn wir, byddai cyfrol o ddim ond llythyrau o'r fath yn win i feddwi arno.

Cofio Gwenllian
Mae 23 o ysgrifau yma i gyd gan gychwyn gydag un yn disgrifio ymweliad 芒 Sempringham yn ne ddwyrain Llundain lle cludwyd y dywysoges Gwenllian yn faban yn fuan wedi marwolaeth ei thad, Llywelyn Ein Llyw Olaf, i'w chadw yno i'w dyfnu o'i Chymreictod a'i thras ar orchymyn Edward, Frenin Lloegr ac i ladd yr olyniaeth ym meddyliau'r Cymry

"Pan ddaeth ei phenyd i ben ar y seithfed o Fehefin 1337, roedd hi wedi treulio hanner cant a phedair o flynyddoedd mewn caethiwed," meddai William Owen.
"Sylw olaf y cwpwl y bu inni eu cyfafod wrth yr eglwys . . . wrth inni adael Gwenllian a throi yn 么l i gyfeiriad Cymru a chartref - 'What a shame,'" ychwanega gan ein hatgoffa i Gerallt Lloyd Owen fynegi'r un teimladau yn llawer mwy effeithiol: "Wylit, wylit Lywelyn, Wylit waed pe gwelit hyn'!

Pethau cyffredin
Digwyddiad digon cyffredin yw'r sbardun i ysgrif weithiau: prynu poster mewn arwerthiant codi arian at achos da ym Mhorthmadog yn ei brocio i rannu 芒 ni hanes y cricedwr a droes yn genhadwr, Charles Thomas Studd.

Mae disgrifiad hyfryd ohono yn bedyddio "canibaliaid" yn Affrica:
"Diwrnod i'w gofio oedd hwnnw pan fedyddiwyd oddeutu dwsin o'r canibaliaid honedig rheini yn aelodau o'r Eglwys gyda Studd 'dat ei ganol mewn afon yn eu derbyn fesul un, a thra bod un arall ar wyliadwriaeth barod ar y lan gyferbyn efo reiffl ar ei fraich i gadw'r crocodilod draw!"

Hen gylchgronau
Derbyn pentwr o hen gylchgronau y daethpwyd o hyd iddynt mewn sgubor sbardunodd yr ysgrif, "Cyfarwyddiadau i 糯r Ifanc sut i Ddewis Gwraig a hynny'n rhoi cyfle iddo ddyfynnu o hen rifyn o'r Gymraes, cylchgrawn dirwestol a olygwyd gan Ceridwen Peris - golygydd a oedd yn gwybod yn iawn briod le y ferch nid yn unig mewn priodas ond mewn cymdeithas hefyd.

Mae William Owen yn synnu i gynghorion i 诺谤 ifanc ymddangos mewn cylchgrawn i ferched ond rwy'n rhyw amau mai taro post i'r pared benywaidd glywed oedd y golygydd fan hyn a rhoi ar ddeall i'r merched beth fyddai'n eu gwneud yn gymeradwy gan ddynion!

Hwyl cwyno
Ysgrif ddifyr yn ymwneud 芒'n parodrwydd i gwyno byth dragywydd ydi Whinjar gyda'i llun o Victor Meldrew.

Dengys yr awdur sut y bu ef ar ei ennill yn fawr unwaith o gwyno am lwydni ar dost mewn gwesty adeg Eisteddfod Castell-nedd!

Cenedl ddiflas
Rhywbeth agos iawn, debygwn i, at gwyno neu gnewian ydi diflastod ac y mae William Owen yn gorddio yr hyn y mae o'n i gweld yn duedd tuag at ddiflastod cenedlaethol yn ein plith ni'r Cymry.

Yn Y Tristwch Hwn daw i'r casgliad fod y Cymry'n analluog bron i beidio 芒 bod yn ddwys ac yn ddiflas - yn enwedig yn ein llenyddiaeth a'n hadloniant.

Mae yma ddadansoddiad pryfoclyd o ddwyster y rhaglen deledu 芒'r teitl Noson Lawen a'i chnwd o ganeuon yn ochri tuag at y trist a'r lleddf.

"A dyna'n creddyfa wedyn. Peth tra dieithr ym mhrofiad y rhelyw ohonom, mae'n ddiamau, yw cael pwl o chwerthin mewn oedfa; am ein bod, mae'n debyg, wedi'n cyflyru erioed i gredu fod ymddygiad o'r fath yn gwbl anghydnaws a'r Efengyl," meddai.

"Digon prin, rhyfeddol o brin rwy'n ofni, yw'r hiwmor bwriadol a ddaw o'r pulpud ac o'r S锚t Fawr," ychwanega.

Eto i gyd dywed y ceir "sawl enghraifft o'i hiwmor gogleisiol Ef [yr Arglwydd Iesu] yn y Testament Newydd," meddai - ond nid yw'n rhoi enghreifftiau.

Fel arall, meddsi, o'r s锚t gefn i'r S锚t Fawr, mae pawb "fel pe baem yn mynnu ymdrybaeddu mewn pruddglwyf, yn cael blas ar fod yn broffwydi gwae."

Heresi beryglus
Hyd yn oed mewn llenyddiaeth; dywed fod rhagfarn yn erbyn ysgafnder gyda "heresi beryglus ar led sy'n honni fod pob deunydd ysgafn, o raid, yn ddeunydd arwynebol ar yr un pryd".

"Pam?" hola wrth gau pen y mwdwl ar y debycaf i bregeth neu rant o'i ysgrifau, "O! Pam Gymru, y rhoddaist inni'r tristwch hwn."

Fel pob prygowthan da y mae yn ei gyfrol ei hun, fodd bynnag, amrywiaeth ddifyr o'r llon a'r lleddf, y llawen a'r difrif.

Yng ngeiriau'r adroddiad ysgol, Dalied ati - i frygowthan, hynny yw.
Adolygiad ar Gwales



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy