主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Tra'd yn Tir
Dyddiau fu ym Mhenfro
  • Adolygiad Gwyn Griffiths o Tra'd yn Tir - Plentyndod yn Sir Benfro gan Stan Jones. Carreg Gwalch. 拢4.50.
Yn ystod wythnos pan oedd y 主播大秀 ledled Prydain yn dathlu acenion a thafodieithoedd, braf oedd cyfle i ddarllen cyfrol yn un o dafodieithoedd mwyaf lliwgar a swynol Cymru.

Ond nid aeth Stan Jones i balu i eithafion w锚s w锚s gogledd Sir Benfro - buaswn yn tybio y bydd Tra'd yn Tir yn ddealladwy i ddarllenwyr ym mhob cwr o'n gwlad.

Clawr y llyfr Hanes plentyn yn tyfu yn nhridegau'r ugeinfed ganrif ar fferm Werndew, fferm fawr 250 erw ger pentre Dinas, ychydig y tu allan i Abergwaun ar ffordd Aberteifi. Darlun annwyl o ryddid plentyn ar fferm fwy neu lai hunan-gynhaliol.

Pawb 芒'i ddyletswydd
Roedd gan bob un ei ddyletswyddau a phob dydd ei orchwylion. Oes y gymdogaeth dda pan ddeuai ardal gyfan at ei gilydd i gywain gwair, i gneifio a dyrnu. Oes pan oedd diwrnod lladd mochyn a dyddiau plufio'n ddyddiau mawr.

Oes y ceffyl, cyn i gar a thractor ddod yn gyffredin ar ffyrdd bach y wlad. Aeth ugain mlynedd arall heibio, gan gynnwys chwe blynedd o ryfel, cyn i'r ceffylau ildio i oes y peiriannau a chychwyn y newid mawr yng nghefn gwlad.

Cwrw cartref
Dyma gyfnod pan oedd ffermydd yn pobi eu bara, yn corddi ac, yn y rhan hon o Ddyfed, yn macsu cwrw cartref. Difyr oedd darllen am rai o'r peiriannau oedd ganddyn nhw ar y fferm.
Dyna'r rhod dd诺r i droi'r peiriant siaffo a'r felin falu.

Roedd ganddyn nhw ddyfais i bitsio gwair i ben y d芒s yn yr ydlan. Cystal cyfaddef nad oeddwn fawr callach sut oedd yn gweithio ar 么l darllen y disgrifiad nac o syllu ar ddarlun yr awdur.

Ar y cyfan, mae'r darluniau'n cyfrannu at ein gwybodaeth ac at gyfoeth y gyfrol. Gresyn bod y mochyn ar dudalen 17 yn hongian gerfydd ei drwyn.

Atgofion yn llifo
Dyma gyfrol oedd yn peri i atgofion plentyndod lifo'n 么l. Bychan fu'r newid rhwng cyfnod plentyndod Stan Jones yn y tridegau yng ngogledd Penfro a'm plentyndod innau yng nghanol Ceredigion ddiwedd y Pedwardegau.Cofio'r c诺n - a'r cathod, o ran hynny - yn crynhoi wrth ddod i waelod yr helem ar ddiwrnod dyrnu a'r llygod ffrengig yn dianc am eu bywydau.

Digwyddai'r un peth wrth gyrraedd yr ystod neu ddwy olaf wrth ladd gwair neu lafur, ond mai cwningod fyddai'n tasgu allan bryd hynny.

A bu'r hen wningen yn rhan bwysig o fywyd y wlad cyn dyfodiad y myxamatosis.

Ffuret, ci a rhwydi oedd fy nifyrrwch i, er rwy'n cofio'n dda am y trapiau creulon a'r trapwr yn dod o gwmpas y ffermydd ddechrau'r flwyddyn.

Gaeafau caled
Waeth beth ddywed neb, yr oedd gaeafau 'slawer dydd yn galetach na gaeafu heddiw. Mae Stan Jones yn cofio'r pwll chwiaid yn rhewi'n galed a'r plant yn sglefrio arno. Ac yr oedd hafau gwlybion, hefyd. Gallaf innau gofio'r gofid pan oedd y gwair yn pydru ar y caeau.Diolch am gyfrol i rannu ac i hudo atgofion o'r cof.

Buasai geirfa fer o fudd - geiriau fel popls (am gerrig crwn, llyfn), cilion (pryfed), macsu (bragu) a wn i ddim beth yw cerrig moron.

Ond ni fydd y dafodiaith yn dreth ar unrhyw un sydd heb fod yn gyfarwydd 芒 iaith gogledd Penfro

  • Adolygiad ar Gwales

Cysylltiadau Perthnasol
Ar Lan y M么r - Plentyndod ym M么n


cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy