主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Gwrthddiwygwyr Cymreig yr Eidal
Cynheiliaid yr Hen Ffydd
  • Adolygiad John Stevenson o Gwrthddiwygwyr Cymreig yr Eidal gan Angharad Price. Ll锚n y Llenor. Gwasg Pantycelyn. 拢5.00.

Mae angen dannedd gosod reit gryf i yngannu teitl y gyfrol hon.
Ond does gen i ddim amheuaeth o gwbwl fod ynddi ddigonedd o ddeunydd i gnoi cil arno.

Hawdd iawn fyddai anghofio, wrth ddarllen cyfrol hynod ddarllenadwy'r Dr Angharad Price, ei bod yn ysgrifennu am ddigwyddiadau yn yr unfed ganrif a'r bymtheg gan fod yna dinc gwleidyddol digon cyfoes yn perthyn i gynnwys y gyfrol.

Clawr y llyfr Ysgrifennu y mae am selotiaid crefyddol oedd am geisio ddymchwel y drefn sefydledig.

Mae hi'n trafod gr诺p o ddynion a gafodd eu geni ym Mhrydain ond benderfynodd fynd dramor i'w hyfforddi cyn mentro'n 么l i geisio newid y drefn.

T芒n yn eu boliau
Dynion o argyhoeddiad, yn amlwg, gyda th芒n crefydd yn llosgi yn eu boliau.

Ffyddloniaid oedd yn anghydweld yn llwyr 芒'r drefn yn eu mamwlad ac a oedd yn fodlon derbyn cefnogaeth estronol er mwyn hyrwyddo eu hachos. Dynion, er yn fychan iawn o ran nifer, a lwyddodd i gael y llywodraeth i grynu yn ei hesgidiau
Ond . ..
Nid ysgrifennu am aelodau Prydeinig mudiad Al Quaida mae Angharad Price ond am ddynion gafodd eu geni yng Nghymru ym mlynyddoedd y Tuduriaid, bum canrif yn 么l.

Colegau Rhufain
Nid dynion aeth i wersylloedd terfysg Afghanistan mo'r rhain ond Pabyddion Cymreig aeth draw am eu haddysg i golegau hyfforddi Rhufain.

Dynion oedd yn anghydweld yn llwyr 芒'r drefn grefyddol newydd ddaeth i fodolaeth dan y brenin Harri'r Wythfed.

Pwrpas y gyfrol medda hi yw "goleuo bywyd a gwaith yr alltudion Cymreig yn yr Eidal."

Pobol fel Morus Clynnog, Rhosier Smyth, Sion Dafydd Rhys, Owen Lewis, Gruffydd Robert.

Er yn gyfrol eiddil 90 o dudalennau, mae'n gyfrol swmpus o ran ystod ei thrafodaeth a'i chynnwys.

Ei nod, meddai Dr Price, yw tanlinellu fod "gweithgarwch y Gwrth-Ddiwygiwyr Cymreig o'u canolfannau yn yr Eidal yn cynnig persbectif newydd a phwysig inni ar yr hyn a ddigwyddai yng Nghymru ar y pryd, gan beri i ni ail asesu rhai o'n syniadau am gyfraniad y Protestaniaid Cymreig at iaith a diwylliant eu mamwlad, syniadau sydd wedi ymgaregu tros bedair canrif a hanner o Brotestaniaeth."

Rhyfeddod
Y rhyfeddod yw nad hanesydd crefydd nac eglwysig mo Angharad Price: llenyddiaeth gyfoes Cymru yw ei phriod bwnc meddai'r broliant.

Mae hon yn gyfrol sy'n ffrwyth ymchwil trylwyr ac yn dadansoddi'n gywrain.

Yn drawiadol wahanol i gymaint o waith "ysgolheigaidd" yn y Gymraeg, gwnaeth Dr Price ddefnydd helaeth o ffynonellau craidd a gwreiddiol.

Cafodd fynediad i lawysgrifau'r Fatican a threuliodd amser yn y Ddinas Dragwyddol yn mynd drwy hen lawysgrifau.

Gan ferched
Mae hi yn werth nodi hefyd, wrth fynd heibio, fod cymaint o'r gwaith gwreiddiol sydd yn cael ei gynhyrchu heddiw ym maes hanes crefydd yng Nghymru yn cael ei wneud gan ferched.

Dyna i chi waith arloesol Jane Cartwright o Goleg Llambed ar gwltiau's saint yn y cyfnod cyn-canol oesol; gwaith Dr Eryn White o Goleg Aberystwyth ar hanes y seiadau Methodistaidd cynnar. Ac yn awr, gyfrol y Dr Angharad Price sydd yn ddigon gwylaidd fel ysgolhaig i dalu teyrnged i'w rhagflaenwyr yn y maes.

Mae gennym ni le medda hi, i ddiolch i'r arloeswyr cynnar fel Geraint Bowen.

Llwyddodd y cyn archdderwydd i godi cwr y llen ar hanes crefyddol Cymru cyn dyfodiad Protestaniaeth Anghydffurfiol ac i chwalu rhai o'r mythau mawr.

Tecwyn Lloyd, wedyn, a dreuliodd flwyddyn gron yn yr Eidal yn 1939, ac Ewrop dan gysgod yr Ail Ryfel Byd, yn ymchwilio i'r mudiad geisiodd ddychwelyd Prydain a gweddill Ewrop yn 么l dan gesail yr Hen Ffydd.

Tanseilio myth
Cyfraniad enfawr yr arloeswyr hyn oedd i danseilio un o'r mythau mwyaf am ein hanes fel Cymry Cymraeg, sef mai gwlad o gapeli unffurf Brotestanaidd, anghydffurfiol fu Cymru erioed.

Dim o gwbwl - a gwnaeth Angharad ddefnydd helaeth o adnoddau'r Fatican i ddryllio'r delwau hanesyddol yn y Gymru Gymraeg.

Ond mae na wir berygl o hyd, yn rhannol oherwydd diogi a diffyg beiddgarwch gwreiddiol ein cyfundrefnau crefyddol, i ddal i lyncu cymaint o'r chwedloniaeth sy'n perthyn i hanes crefydd Gymreig ac i anghofio mai gwlad Babyddol fu'r Gymru Gymraeg dros ganrifoedd.

Mae darllen cyfieithiad o lythyr Morus Clynnog a sgrifennwyd ym mis Mai 1567, a'i anfon at Arglwydd Cecil yn wefreiddiol.

Mae'r llythyr yn cloi gyda'r llythyrwr yn ei arwyddo fel: "Morys Clynnog, Offeiriad."

Y fath symylrwydd, dirodres!

Rheithor cyntaf
Neu lythyr gan Owen Lewis, y g诺r o Langadwaladr ar Ynys M么n.

Hwn oedd rheithor cyntaf Coleg Hyffroddi Douai ac un a ddaeth yn ei dro, meddai Dr Price, i fod yn gyfrifol am "holl faterion Prydeinig y Fatican".
Tipyn o ddyn mae'n amlwg!

Fy unig ofid o fod wedi darllen y gyfrol hon oedd i ymdrechion y diweddar Alexander Jones i geisio dysgu Lladin i mi yn Ysgol David Hughes fod yn gwbwl ofer ac na allwn, felly, werthfawrogi llawysgrifau'r canoloesol yn eu gogoniant gwreiddiol!

Mae'n anhygoel i feddwl mai dim ond rhyw gwta hanner canrif yn 么l y cafodd hanes Catholigiaeth yng Nghymru ei gyhoeddi - yng nghyfrol Emyr Gwynne Jones, Cymru a'r Hen Ffydd

Ynddi, mae Emyr Gwynne Jones yn dyfynnu o waith Thomas ap Ieuan ap Rhys:
Ath eglwysi ymhob lle
Yn gornele gweigion

Adwaith yn erbyn hynny oedd y Gwrth Ddiwygiad, ledled Ewrop, gyda selogion fel Morys Clynnog am weld Cymru unwaith eto, dan gesail "y ffydd a roddwyd gynt i'r tadau."

Cymwynas fawr
Does gen i ddim amheuaeth o gwbwl i Angharad Price wneud cymwynas enfawr ag unrhyw un sydd am wybod mwy am un o gyfnodau mwyaf difyr, os dryslyd, y ffydd Gristionogol yng Nghymru a gweddill Ewrop.

Ac nid ail bobi gwaith pobol eraill a wnaeth. Er iddi godi blawd o sawl melin pobodd ei thorth ei hun.
A thorth faethlon a blasus yw hi hefyd!

脭l Nodyn: Os am wybod mwy am y cyfnod cyffrous hwn yn hanes crefyddol Cymru, mae'n werth darllen cyfrol yr Athro J. Gwynfor Jones, Aspects of Religious Life in Wales 1536-1660 a gyhoeddwyd 2003.

  • Gwybodaeth ar Gwales

  • Cysylltiadau Perthnasol


    cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy