主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Omlet
Digon o h-Wy-l
  • Adolygiad Caron Wyn Edwards o Omlet gan Nia Medi. Gwasg Gwynedd. 拢6.95

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r nifer o awduron benywaidd sy'n sgwennu nofelau Cymraeg wedi cynyddu'n aruthrol.

Does ond raid edrych ar restr fer Llyfr y Flwyddyn eleni: Bethan Gwanas, Elin Llwyd Morgan a'r enillydd, Caryl Lewis - merched i gyd.

Clawr y llyfr Enwau eraill sydd wedi dod i sylw yw Annes Glyn, Meleri Wyn Jones, Iola Jones, Mari Emlyn a Mared Lewis - yn ogystal ag awduron mwy adnabyddus fel Angharad Tomos ac Eigra Lewis Roberts.

Bellach mae enw arall i'w ychwanegu i'r rhestr.

Omlet yw nofel gyntaf Nia Medi, ac fel awdures arall o Ddolgellau, mae'r gyfrol - fel gwaith Bethan Gwanas - yn llawn hiwmor ffraeth.

Hanes Angharad Awstin sydd yma, athrawes 33 oed sydd wedi bod yn dra anlwcus gyda dynion a d锚tio'n gyffredinol.

Felly pan fo'r berthynas ddiweddaraf yn chwalu (gyda Drong sy'n dweud y cyfan!) mae hi'n penderfynu treulio wythnos o'i gwyliau haf yng Ngwlad Groeg.

Heb gymar i fynd gyda hi, mae hi'n cael cwmni Dodo Megan Pot Jam - un o enwau gorau ar gymeriad erioed yn fy marn i! - ei hen fodryb 79 oed.

Rhywbeth ychwanegol
Y genre mae hon yn disgyn iddo yw Chick Lit chwedl y Sais gan ddilyn traddodiad Amdani, Dal Hi ac ati, a buaswn yn dueddol o ddweud ei bod wedi ei hanelu at ferched yn eu hugeiniau a'u tridegau gan fwyaf.

Serch hynny, mae cymeriad Dodo Megan Pot Jam yn dod 芒 rhywbeth ychwanegol i'r gymysgedd, ac yn ehangu'r gynulleidfa bosib.

Ceir cychwyn cryf i'r hanes, wrth i'r awdur grisialu'r back story fel tae, mewn ychydig frawddegau syml:
"Baw gwartheg. Plops mw-mw. Cachu buwch. Tail. Galwch o'n be liciwch chi ond, yn y b么n, rhywbeth felly ydi cariad."

Cychwyn gafaelgar
Mae'n gychwyn gafaelgar, sy'n cydio yn sylw'r darllenydd yn syth a'u hysgogi i ddarllen ymlaen wrth i'r gyffelybiaeth gael ei hymestyn.

Mae hefyd yn ddull effeithiol o gyflwyno llais i'w phrif gymeriad, llais sy'n parhau'n gyson hyd y dudalen olaf.

O ran cymeriad, mae hi'n un y gall sawl un uniaethu 芒 hi mewn sawl ffordd.

Gall fod yn anodd iawn cydymdeimlo 芒 hi ar brydiau, ond drwyddi draw mae hi'n gymeriad crwn sydd 芒 digon i'w ddweud.

Mae rhywbeth, naill ai ym mywyd Angharad, neu'n rhai ei ffrindiau, a fydd yn taro deuddeg gyda phob merch fydd yn mynd ar gyfyl y gyfrol hon yn fy marn i, boed hynny'n brofiad fel rhiant, cymar neu ffrind.

Nid yw'r awdur yn cilio rhag cyffwrdd 芒 rhai agweddau mwy negyddol bywyd chwaith, gan ymdrin 芒 them芒u o ddiffyg hyder, hunan amheuaeth ac iselder.

Ymhellach, mae hi'n llwyddo i ddelio 芒 phynciau o'r fath yn gynnil, heb wneud i'r cymeriadau swnio'n hunandosturiol nac yn gwynfanllyd.

Yr hiwmor
Serch hynny, yr hiwmor yw prif gryfder y nofel hon.
Mae'n amlwg fod yma awdur sy'n meddu ar ddawn dweud eithriadol, sy'n llwyddo i gynnig darluniau digri o ddigwyddiadau bob dydd - er bod y rhain hwyrach yn cael eu chwyddo rhyw fymryn.

Daw un o'r enghreifftiau cyntaf o hyn yn gynnar iawn yn y nofel, pan fo Angharad yn darllen pennill 'cariadus' a ysgrifennodd ei chyn gariad ati,
I Anji...
You're the lie down in my 'lycra';
You are the jock in my strap;
You put the 'phoar' in my four pack,
You're the bacon that fills up my bap.
Oddi wrth
David xxx"

Enghraifft arall yw'r disgrifiad ohoni ei hun yn cael colonic irrigation - a berodd i mi chwerthin yn uchel a gwingo ar yr un pryd,
Gweddi Golonic
Arglwydd, dal fi ar y pan,
Arglwydd, dal fi lle dwi'n wan;
Gwarchod fi rhag therapydd amgen
'Nenwedig therapydd efo peipen.

Nid yn un i'w darllen os ydych yn berson sy'n meddu ar stumog wan!

Noson feddw
Felly hefyd ddisgrifiad o noson feddw Dodo Megan.
Eto roedd rhywun yn ei ganfod yn hynod ddoniol ac eto'n teimlo drosti hefyd, ac mae'r tudalennau'n frith o enghreifftiau tebyg.

Yn eilbeth, daw'n amlwg wrth ddarllen fod yma awdur sydd yn ddychanwraig heb ei hail, ac mae'n hwyl darllen teitlau'r gwahanol rannau, a'u hadnabod fel ffurf ddychanol o weithiau llenyddol enwog.

Teitlau fel 'O! Tyn y Beipen!' ac 'Ymadawiad ar Ruthr'.

Perl o nofel sy'n bendant werth ei darllen.

  • Adolygiad ar Gwales

  • Cysylltiadau Perthnasol
    Holi Nia Medi


    cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy