主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Anturio yn y Cymoedd
Deg taith i'r teulu
  • Adolygiad Gwyn Griffiths o Anturio yn y Cymoedd gan Dafydd Meirion. Gwasg Carreg Gwalch. 拢4.50.
Cefais dipyn o fwynhad gyda'r llyfryn Anturio yn y Cymoedd - a fy ysbrydoli i wisgo fy esgidiau cerdded er mwyn dilyn rhai o'r teithiau cerdded a awgrymir ynddo.

Clawr y llyfr Cyfrol yw gyda straeon i blant oddeutu'r saith neu wyth oed hyd at 11, pob un yn cael ei dilyn gan fanylion taith gerdded sy'n ymweld 芒'r mannau y cyfeirir atynt yn y stori.
Yng nghwmni rhieni neu athrawon, wrth reswm.

Yna ceir cyfres o gwestiynau i'w hateb wedi i'r plentyn, neu ddosbarth, gwblhau'r daith.

Wedi anfon yr atebion i Wasg Carreg Gwalch bydd y plentyn yn derbyn tystysgrif.

Hanes a chwedl
Rwy'n tybio bod y gyfrol yn rhannu'n bum stori hanesyddol a phum chwedl.

Defnyddiaf y gair "tybio" gan nad wyf yn hollol sicr i ba ddosbarth y perthyn stori Offeiriad Eglwysilan, a arferai annog teuluoedd y meirw i osod, gyda'r corff, yn yr arch y pethau gwerthfawrocaf a feddent.

Wedyn byddai'r offeiriad a'i ferched yn ysbeilio'r eirch.
Stori werin, yn hytrach na darn o hanes, debygwn i.

Ar y cyfan, cefais y blas mwyaf ar y chwedlau.
Cystal cyfaddef bod pedair ohonynt, Yr Helygen Wylofus, Cawr Gilfach-Fargoed, Gwladus a'r Llanc o Defynwy ac Offeriad Eglwsyilan yn anghyfarwydd imi.

Am y llall, Llyn y Forwyn, tybiais mai stori Llyn y Fan Fach oedd hon a bod yr enw Llyn y Forwyn yn gysylltiedig 芒 Morwyn Penrhys.

Caerffili
Mae'r straeon hanesyddol yn mynd a ni o Guto Nyth Br芒n, Llywelyn Williams (neu Penrose) Y M么r-leidr o Gaerffili, at Ddic Penderyn, William Price Y Doctor Anhygoel, hyd Derfysgoedd Tonypandy.

Hoffais yn fawr hanes Y M么r-leidr o Gaerffili ac nid oeddwn yn ymwybodol o gwbl o'r cysylltiad 芒 Chaerffili.

Tenau yw'r ymdriniaeth 芒 William Price.
Gellid bod wedi s么n am ei waith yn feddyg cyflogedig gan weithwyr diwydiannol ym Mhontypridd a'r gweithwyr eu hunain yn cyfrannu swm gyson o'u cyflogau fel y caent eu trin am ddim ganddo wedi damwain neu yn ystod cyfnod o salwch.

Cynllun a efelychwyd wedyn gan y glowyr yng Ngwent a chan Aneurin Bevan pan sefydlodd y Gwasanaeth Iechyd.

Mwy i ddod?
Buaswn yn gobeithio y bydd yr awdur yn parhau gyda'r syniad hwn oherwydd y mae yn yr ardaloedd hyn lawer o gymeriadau eraill ac theithiau y byddai'n fuddiol dilyn eu trywydd.

Rhyfedd meddwl iddo ymdrin ag Eglwysilan heb gyfeirio at fedd William Edwards, adeiladydd pont Pontypridd a chynllunydd Treforys.

Nid oes gyfeiriad at Bontypridd na chyfansoddwyr ein hanthem genedlaethol, 'chwaith. Nac at Morgan John Rhys o Lanbradach.

Mae syniad Anturio yn y Cymoedd yn ardderchog gan ateb y gwir alw am gyfrolau fel hon mewn ardal lle mae'r Gymraeg ar gynnydd sylweddol.

  • Gwybodaeth ar Gwales



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy