主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
I Fyd sydd Well - cyhuddiadau cop茂o
Awdur yn gwrthod dedfryd y Steddfod
Er i'r Eisteddfod Genedlaethol ddweud bod "y mater ar ben" dywedodd awdur cofiant un o arloeswyr y Wladfa y bydd yn parhau a'i gyhuddiadau yn erbyn nofelydd buddugol Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri eleni.

"Dydw i ddim yn ystyried ei fod ar ben," meddai Elvey Macdonald sydd ar fin gadael Cymru ar ymweliad 芒 Phatagonia tan ganol fis Tachwedd.

"Pan ddof yn 么l bwriadaf rygnu mlaen ar y mater yma nes y bydd o wedi cael ei ateb yn foddhaol," meddai wrth gael ei holi ar y rhaglen radio Wythnos Gwilym Owen, ddydd Llun, Hydref 10, 2005.

Clawr I Fyd Sy Well Bu Elvey Macdonald mewn gohebiaeth faith a'r Eisteddfod yn cwyno i Si芒n Eirian Rees Davies, awdur y nofel, I Fyd Sy Well, a ddaeth yn fuddugol yng Nghystadleuaeth Daniel Owen, ddibynnu yn ormodol heb gydnabod hynny ar ei lyfr ef Yr Hirdaith a gyhoeddwyd yn 1999.

Anfonodd restr hir o ddyfyniadau at awdurdodau'r Eisteddfod sy'n dangos yn ei farn ef i Si芒n Eirian Rees Davies ddefnyddio brawddegau o'r Hirdaith air am air neu gyda newidiadau bychain iawn.

'Dim sail'
Mae'r Eisteddfod, fodd bynnag, wedi dweud nad oes sail i gwynion Mr Macdonald. Mewn datganiad y cyhoeddwyd ei gynnwys gyntaf ar Wythnos Gwilym Owen dywedodd Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts, iddynt geisio barn gyfreithiol yn syth wedi derbyn y g诺yn:
"Wedi ystyried y cyngor cyfreithiol penderfynwyd peidio a chynnal ymchwiliad pellach," meddai.

"Daeth cais inni ail ystyried hyn ac fe wnaed hynny. Bu dau o gynrychiolwyr yr Eisteddfod yn darllen Yr Hirdaith ochr yn ochr a'r nofel fuddugol a chafodd aelodau'r panel [llenyddiaeth, Cyngor yr Eisteddfod] olwg dros y ffeil gyfan, yr holl ohebiaeth a fu rhwng Elvey Macdonald a'r Eisteddfod yn ogystal 芒 derbyn barn y cyfreithiwr.

"Barn unfrydol y panel yw nad oes gan Si芒n Eirian Rees Davies achos i'w ateb ar y cyhuddiadau hyn ac felly cred yr Eisteddfod fod y mater hwn ar ben."

Ar y rhaglen y cafodd Mr Macdonald wybod gyntaf am y penderfyniad hwn.

Fe'i disgrifiodd fel un "annisgwyl".

Ddim ar ben
Yngl欧n 芒 barn yr Eisteddfod fod y mater yn awr ar ben dywedodd:

"Dydy o ddim ar ben o'n safbwynt i oherwydd dydw i ddim wedi cael unrhyw fath o ateb i'r cwynion rydw i wedi eu hanfon yn weddol fanwl atyn nhw." Ychwanegodd iddo gael ei "gamarwain" gan yr Eisteddfod oherwydd y modd y trafodwyd y mater.

"Ewy'n teimlo mod i wedi cael fy nghamarwain ac rwy'n teimlo hefyd nad oes ymchwiliad wedi digwyd.

"Yn sicr does yna ddim ymchwiliad annibynnol wedi digwydd," meddai.

"Dywedodd iddo anfon pedair tudalen A4 yn dangos enghreifftiau "o gop茂o air am air" sydd yn y nofel.

"Rydw i wedi anfon hefyd dair tudalen yn dangos yn union fel y mae'r nofel yn mynd gam wrth gam, fel petai, yn yr union 'run drefn ag sydd wedi'i nodi yn Yr Hirdaith.

"Fe allech chi ddweud - mae'n hollol gywir i ddweud - nad oes yna ddim hawlfraint ar ffeithiau ond pan fo'r ffeithiau hynny yn cael eu cyflwyno yn yr un geiriau ac y maen nhw wedi'u cyflwyno mewn cyfrol arall yna mae angen gofyn sut y mae hynny yn cael ei ganiat谩u," meddai.

Ychwanegodd bod "gormod o or-ddibynnu ar Yr Hirdaith yn y nofel.

Clawr Yr Hirdaith "Na, dwi'n teimlo fod gen i sail i gwyno ac mae yna bobl eraill wedi gweld y dystiolaeth sydd wedi'i chasglu ac yn cytuno fod . . . brawddegau wedi eu cop茂o, rhai eraill wedi'u cyfieithu, rhai eraill wedi'u haralleirio.

"Mae fy naratif i yn y cofiant yn cael ei lefaru yn y nofel gan un o'r prif gymeriadau.

"Mae anecdotau - rhai ohonyn nhw yn dod o st么r anecdotau teuluol gwrthrych y cofiant yn cael eu rhoi yn ei enau o neu'n cael eu hadrodd yn y nofel," meddai.

Gwadodd fod 芒 wnelo ei g诺yn ddim 芒'i siom gyda'r ymdriniaeth ddadleuol o un o'i hynafiaid, Edwyn Cynrig Roberts, yn y nofel.

"Sail y brotest oedd gweld yr holl gop茂o air am air sydd wedi digwydd ac yn y cyfieithu gair am air sydd wedi digwydd a dydw i ddim yn derbyn fod gan nofelydd yr hawl i gymryd ffeithiau yn yr un geiriau.

Nofelwyr eraill
"Digon teg eu bod yn cymryd ffeithiau a'u hailwampio nhw a'u hysgrifennu yn eu ffordd eu hunain. - mae'n cael ei wneud gan nofelwyr hanesyddol ac maen nhw'n egluro'n ddigon manwl lle maen nhw'n gwyro oddi wrth y gwir i fyd dychymyg fel petai - ond dydi hynny ddim wedi digwydd fan hyn," meddai.

Ystyriodd yr Eisteddfod y mater dan reol 10 rheolau ac amodau cyffredinol yr 诺yl. Dywed y rheol honno:
"Rhaid i'r holl gyfansoddiadau a chynhyrchion a anfonir i gystadleuaeth fod yn waith dilys y cystadleuydd neu'r cystadleuwyr, a heb eu gwobrwyo o'r blaen yn yr Eisteddfod Genedlaethol, na'u cyhoeddi yn rhannol nac yn gyfan."

Cafodd Si芒n Eirian Rees Davies wahoddiad i gymryd rhan yn Wythnos Gwilym Owen ond dewisodd beidio 芒 chymryd rhan.

Cysylltiadau Perthnasol



cyfannwch

Sel Felin
Mae llyfr Sian Eirian yn lyfr gwych, ni allaf feddwl ei bod yn dor -gyfreithwraig ac yn llen-ladrata. Mae hyn wedi ennyn fy niddordeb i archebu llyfr Elvy McDonlad erbyn hyn!



Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy