主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Rhys Jones - Caryl Parry Jones
Bwrlwm dwy genhedlaeth
  • Sylwadau Glyn Evans ar Rhys Jones - Caryl Parry Jones. Cyfres Dwy Genhedlaeth. Golygydd Si芒n Thomas. Gomer. 拢4.99.

    Dro'n 么l ar 主播大秀 Radio Cymru yr oedd Rhys Jones yn un o dri a fu'n rhannu ei feddyliau wedi cael y newydd ei fod wedi ei daro gan ganser.

    Clawr y llyfrYr oedd yn sgwrs a wnaeth gryn argraff arnaf gyda'i agwedd tuag at ei gyflwr yn un y byddai rhywun yn dymuno ei hefelychu o gael ei hun yn yr un cyflwr.

    Ni allai rhywun ond teimlo fod hon yn un o'r sgyrsiau hynny, am salwch, a allai fod yn ysbrydoliaeth ac yn gynhaliaeth.

    Yr oedd hefyd yn amddifad o'r ystrydebau hynny sydd, yn rhy aml, yn britho sgyrsiau o'r fath.

    Pan gyrhaeddodd y gyfrol ddiweddaraf hon yng nghyfres ddifyr Sian Thomas, Dwy Genhedlaeth, yr oeddwn yn gobeithio y byddai'r sgwrs honno, yn gyflawn neu yn rhannol, wedi ei chynnwys imi gael ei threulio wrth fy mhwysau.

    A chan mai cyfres am ymateb dwy genhedlaeth i'w gilydd yw hon ymateb ei ferch hefyd i gyflwr y mae llawer gormod o deuluoedd yn gorfod ei wynebu.

    Siom, wedi darllen, oedd canfod nad oes s么n o gwbl am y digwyddiad yn y gyfrol.

    Oherwydd natur gyfryngol y gyfres - Cefin Roberts a Mirain Haf; Gwenyth Petty a Sara Edwards ac Owen Edwards a Mari Emlyn a holwyd cyn hyn - efallai y tybiwyd nad dyma'r lle i sgwrs o'r fath ac rwy'n parchu'r penderfyniad hwnnw.

    Brwd a chyfoethog
    Er mai cyfrol fer - gryn dipyn llai na chan tudalen yw hon - mae'n adlewyrchiad o ddau fywyd, byrlymus, brwd a chyfoethog iawn ac o gyfraniad hynod gan ddwy genhedlaeth i adloniant Cymraeg.

    Cymerir yn ganiataol fod y darllenydd yn gyfarwydd 芒'r gynhysgaeth o dalent a'r pwrpas yn awr yw darlunio beth sydd wrth ei wraidd ac fe wneir hynny ar ffurf atebion gan y ddau i gwestiynau gan Si芒n - ac y mae hon yn ffordd ddifai o ddod a chynnwys y ciarpad bag diwylliannol hwn i'r amlwg.

    Mae'r whilmentan a'r hel atgofion yn ddifyr ddigon gydag ambell i ddarlun geiriol trawiadol.

    "Roedd Mam," meddai Rhys ar y ddalen gyntaf un, "yn globan o ddynes pymtheg st么n, ond yn dal i fynd ar ei push-bike, yn helpu i ddod 芒 babis y fro i'r byd."

    Peth cyntaf erioed
    Mae Caryl wedyn yn cofio'r peth cyntaf erioed a ddywedodd hi'n gyhoeddus: "Dyw cariad Huw" a hynny ym mhulpud y capel a fynychai.

    Mae hi'n cofio hefyd cychwyn ar ei 'gyrfa' yn mynd o gwmpas eisteddfodau bychain Pandy Tudur, Llangernyw, Pwllglas ac ati yn ennill pum sylltau a rosetiau.

    "Yna mi brynodd Mam a Dad git芒r fach i mi, a dw i'n cofio cloi fy hun yn y t欧^ bach efo llyfr o'r enw Hold down a chord . . .," meddai.

    Y ferch ar y bws
    Hanesyn difyr gan Rhys yw'r un am gyfarfod y ferch a fyddai'n wraig iddo:

    Yn byw yng Nghaerwys ac yn dysgu yn Ffynnongroyw "rhaid cael lifft bob bore o Gaerwys i Brestatyn, a bws o Brestatyn i Ffynnongroyw, i gyrraedd yno erbyn chwarter i naw.

    "Ar ddiwedd y dydd wedyn, bws o Ffynnongroyw i Dreffynnon, ac wedyn bws o Dreffynnon i Gaerwys - roedd hi'n cymryd rua dwy awr i wneud taith sy'n para ugain munud heddiw!

    "Ond. ro'n i'n aros am y bws bob prynhawn am ddeng munud i bedwar, a phan oedd y bws yn cyrraedd, mi roedd na ferch ifanc ddeniadol, hyfryd, yn dod oddi ar y bws, ac yn hytrach nag Our eyes met across a crowded room; Our eyes met across the deck of a double decker bus!" meddai.

    Cyfrol ddiddan, hawdd ei darllen am ddau y mae eu cyfraniad yn fawr i fyd adloniant Cymraeg. Ychwanegiad teilwng i gyfres ysgafn sy'n plesio.

  • Gwybodaeth ar Gwales



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy