主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Cerddi'r Cymoedd
Colli'r cyffro
  • Adolygiad Gwyn Griffiths o Cerddi'r Cymoedd. Golygydd, Manon Rhys. Cyfres Cerddi Fan Hyn. Gomer. 拢6.95.


  • Y mae cymoedd y de yn fro i gynhyrfu'r gwaed.
    Cymoedd fu'n Gymraeg eu hiaith, yn wyrdd a choediog.

    Cymoedd a rwygwyd wedyn ac a reibiwyd gan byllau glo a gweithfeydd haearn ac a ysbeiliwyd o'u cyfoeth a'u hiaith - ond yn awr yn dechrau adfer eu hen lesni. A'r iaith.

    Clawr y llyfr Cymoedd ag iddynt dristwch a thrueni.
    Dyma gymoedd Aberfan, Senghenydd, Cilfynydd - cymoedd trychinebau.

    Buaswn yn disgwyl i Cerddi'r Cymoedd fod yn gasgliad o farddoniaeth llawn angerdd i'm hysgwyd fel y gwnaeth cyfrolau eraill yng nghyfres Cerddi Fan Hyn.

    Daw hiraeth am gerddi meddwol fel ambell un a gafwyd yn Cerddi Sir (sic) 骋芒谤 yn yr un gyfres.

    Digon difflach
    Eto, er bod yn y gyfrol ddiweddaraf hon gerddi gan feirdd o bwys, digon difflach ydyw ar y cyfan.

    Yn rhy fynych, adwaith beirdd o bant sydd yma i rai o ddigwyddiadau mwyaf torcalonnus y cymoedd.

    Cerddi digon crefftus gan feirdd dawnus ond heb ysgwyd y darllenydd.

    Mae darllen y detholiad o S诺n y Gwynt Sy'n Chwythu Kitchener Davies yn atgoffa dyn bod y darnau o'r bryddest a leolwyd yn ardal Llangeitho yn rhagori ar ei ddarlun o'r Rhondda.

    Hyd yn oed gan feirdd a anwyd yn y cymoedd ni theimlaf inni gael yr angerdd y mae gennym yr hawl i'w ddisgwyl.

    Y ffyrnicaf ei lach yw T. Gwynn Jones yn ei soned i Senghenydd.

    Cawn dristwch hiraethus yn y detholiad o Y Llen, pryddest arloesol Dyfnallt Morgan, sy'n arbennig oherwydd iddi gael ei hysgrifennu mewn tafodiaith.

    Ac os yw cerddi J. J. Williams yn sentimental mae'r dafodiaith amheuthun yn eu hachub.

    Er bod yn y cymoedd feirdd a ganent yn y mesurau caeth yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a chyn hynny ni welir llawer o'u cynnyrch yn y detholiad hwn .

    Yn wir, syndod a siom gweld cynifer o wallau cynghanedd yn y canu caeth.

    Y difyrraf
    Y deunydd difyrraf o ddigon yw'r llu tribannau sy'n britho'r gyfrol. Cerddi ffraeth a doniol o ardal Merthyr gan awdur anhysbys a thribannau Lewis Wiliam, Yr Hoywal Newydd, i'r gamlas rhwng Merthyr a Chaerdydd.

    Mae hyn yn peri imi feddwl fod ein beirdd yn parhau'n fwy cysurus yn canu am yr hen Gymru wledig Gymraeg.

    Diolch, fodd bynnag, am fflach gan Aneirin Karadog i'n hatgoffa bod y fath bethau'n bod yn y cymoedd 芒 stadau tai dienaid.

    Hwyrach fy mod yn swnio'n llawdrwm ond y gwir yw fy mod, ar fy ngwaethaf, yn cymharu'r gyfrol hon 芒 rhai o gyfrolau eraill yr un gyfres.

  • Gwybodaeth ar Gwales

  • Cysylltiadau Perthnasol
    Cerddi Sir 骋芒谤
    Rara Avis gan Manon Rhys

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy