主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Oni Bai
Geiriau bach - allweddol
  • Adolygiad Caron Wyn Edwards o Oni Bai gan Eigra Lewis Roberts. Gomer. 拢6.99.


  • Oni Bai - dau air sy'n cael eu defnyddio yn ddiarwybod gan rywun rhyw ben bob dydd.

    A dau air hefyd, sydd 芒 r么l flaenllaw yng nghyfrol ddiweddaraf Eigra Lewis Roberts o'r un enw.

    Clawr y llyfr Casgliad yw'r gyfrol hon o ddeg o stor茂au byrion, 芒 phob un yn benthyca o hwiangerdd neu rigwm ar gyfer y teitl.

    O'r stori agoriadol sy'n dwyn yr enw, Un, Dau, Tri i Gee Ceffyl Bach a Dafad Gorniog, mae'r awdures yn herio ein rhagdybiaethau o'r gair cyntaf hyd yr olaf, 芒'r ddau air bychan unsill hynny, Oni Bai, yn cynnig rhyw lun ar fwch dihangol rhag hualau cyfrifoldeb.

    Yn ei ffordd ei hun, mae pob stori'n peri inni feddwl faint y mae bywyd rhywun yn troi ar un digwyddiad neu ffactor - ac oni bai am hynny, ym mha fodd fyddai pethau wedi bod yn wahanol?

    Hap a damwain ynteu trefn rhagluniaeth, beth sy'n gyfrifol am gyfeiriad a ch诺ys ein bywydau?

    Ffraeth a chaboledig
    Yn bwnc sy'n peri chwilfrydedd ar y gorau, mae ymdriniaeth ffraeth a chaboledig yr awdur yn golygu bod y gyfrol yn cydio o'r cychwyn gyda phob stori unigol yn creu byd bach cyflawn, tra'n cael eu plethu i'w gilydd gan y cwestiwn oesol hwnnw.

    Yn y stori agoriadol Un, Dau, Tri, mae Trefor, sydd wedi'i fagu gan ei fam, a neb ond ei fam (wedi i'w dad adael - naill ai o ddewis neu o raid), yn ei mygu am eu bod yn meddu ar berthynas annaturiol o glos.

    Ac yn wir, dyma thema sy'n rhedeg trwy bob un o'r straeon - pobl sy'n cael eu gwthio gyda'i gilydd gan amgylchiadau ond sydd wedyn yn methu 芒 thorri'n rhydd. Maen nhw'n ddibynnol ar ei gilydd, ac mae'r ddibyniaeth honno'n magu dicter.

    Mam feddw
    Dyna chi Hen Fenyw Fach, gyda'r bachgen bach sy'n aros ar ddihun tan berfeddion nos i ddisgwyl am ei fam feddw gyrraedd adref o'r dafarn.

    Wedi iddi gyrraedd yr aelwyd, ef sy'n gyfrifol am dendio arni a gofalu ei bod yn cyrraedd ei gwely'n ddianaf.

    Dyma berthynas ffilial wedi ei gwyrdroi, ac eto pan ddaw rhyddhad i'r bachgen - wedi iddo dyfu'n h欧n - mae'n troedio gwagle yn chwilio am ystyr i'w fywyd ac yn troi at ddibyniaeth y 'losin du'.

    Ingol ar brydiau
    Dyma bortread caboledig o rwystredigaeth a diflastod bywyd.

    Mae siom y bobl hyn sydd ar y cyrion - y rhai nad ydynt ond yn hanner byw - yn ingol ar brydiau.

    Mor hawdd y gallent fod wedi bod yn bortreadau sentimental dan law arall ond mae arddull dynn a diwastraff Eigra Lewis Roberts yn boenus o effeithiol ar brydiau.
    A dyna ichi Oni Bai arall...
  • Adolygiad ar Gwales



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy