主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Cyfres Pen Dafad
I fyd yr ifanc

Adolygiad Caron Wyn Edwards o Cyfres Pen Dafad. Lolfa. 拢2.95 yr un.


Ar gyfer darllenwyr Rhai o'r llyfraufy nghenhedlaeth i, roedd darpariaeth gref o lyfrau i blant a phobl ifanc gyda Chyfres y Corun a theitlau fel Cyfrinach Betsan Morgan, Sbectol am Byth a Chastell Norman, i'r rhai ieuengaf, a hanesion Jabas a Delyth Wyn (Tydi Bywyd yn Boen) yn rhan o gyfres o nofelau ar gyfer rhai yn eu harddegau.

Dwi'n cofio imi dreulio oriau bwygilydd yn darllen yn helaeth o'r ddwy garfan, a'r mwynhad yr arferwn gael o wneud hynny.

Mae'n braf gwybod y gall plant heddiw hefyd fwynhau'r un profiad, gyda Chyfres Pen Dafad, a gyhoeddir gan wasg Y Lolfa.

Cyfres arloesol
Dyma gyfres arloesol i bobl ifanc yn eu harddegau sy'n trafod ystod eang o bynciau - hanesion am ralio ceir, am ddwyn ceir, am fleidd-ddyn -werewolf - Cymreig.

Straeon am gariad cynta, twyll, bwlio, salwch, hiliaeth.

Ers cyhoeddi'r llyfr cyntaf, Ceri Grafu gan Bethan Gwanas, n么l yn 2003, rydym wedi gweld cyhoeddi straeon gyda theitlau fel Iawn Boi? gan Caryl Lewis, Sbinia gan Bedwyr Rees ac Mewn Limbo gan Gwyneth Glyn.

Bellach, ychwanegwyd saith teitl arall.

  • Mae Aminah a Minna, eto gan Gwyneth Glyn yn nofel sy'n trafod hiliaeth a bwlio, ac yn gwneud hynny mewn ffordd dreiddgar iawn trwy lais Matthew Parry.

  • Bwlio yw them芒u Uffar o Gosb gan Sonia Edwards hefyd, ond y tro hwn tad y prif gymeriad sy'n penderfynu tynnu bwlis yr ysgol i'w ben - tra bo'r plentyn yn gwaredu!

  • Hanes Colin a gawn yn Sgwbid诺 Aur gan Caryl Lewis, sydd wedi ei enwi ar 么l y ral茂wr Colin McRae, ond sy'n cas谩u'r enw.
    "Cym on... Cols. Dyw e ddim yn enw i dynnu'r laydeez, odi e?"
    Mae Colin yn ceisio paratoi car gyda'i dad ar gyfer rali geir, ond tra'i fod yn breuddwydio am enwogrwydd a llwyddiant, mae'n byw mewn hunllef.

  • Bedwyr Rees yw awdur Isho Bet? sy'n adrodd hanes criw o ffrindiau, pob un yn haeddu ASBO, sy'n gosod d锚rs dwl i'w gilydd - ond buan mae chwarae'n troi'n chwerw.

  • A dyna i chi Pen Dafad gan Bethan Gwanas sy'n adrodd hanes Dewi Lloyd, hogyn cyffredin sy'n mynd i'r ysgol, yn cwyno, yn diogi ac yn chwarae drygau fel unrhyw fachgen arall. Hynny yw, nes iddi dywyllu!

  • Dwy awdures newydd i'r gyfres sydd wedi sgrifennu carirhys@hotmail.com a Ca va Safana?
    Mae'r gyntaf, gan Mari Stevens, yn adrodd hanes Cari Rhys trwy gyfrwng e-byst tra bo'r ail, gan Cathryn Gwynn, yn s么n am Rob sy'n chwarae i fand, a'r modd y caiff ei fywyd droi wyneb i waered yn sg卯l ymweliad o Lydaw.

  • Yr olaf yn y gyfres hyd yma yw Noson Wefreiddiol i Mewn sef casgliad o straeon byrion gan Owain Meredith, Llinos Dafydd, Gwenno Mair Davies a Fflur Dafydd.

    Yn ifanc
    Mae'n debyg mai un o'r rhesymau tros lwyddiant y gyfres yw bod yr holl awduron nail ai'n eithaf ifanc neu'n eithaf ifanc eu hysbryd - hynny yw, eu bod yn gallu deall ac yn gallu disgrifio pethau mewn modd sy'n taro deuddeg 芒'u darllenwyr yn ogystal 芒'u hargyhoeddi.

    Dwi'm yn credu fod pobl yn sylweddoli cymaint o grefft yw sgwennu i bobl ifanc yn eu harddegau.
    Yn wir, ar un wedd, hon yw'r gynulleidfa sydd anoddaf i'w phlesio a hawdd iawn, dybiwn i, fyddai llithro i arddull sy'n ymylu ar fod yn nawddoglyd.

    Mae Cyfres Pen Dafad, fodd bynnag, yn llwyddo i gydio yn y darllenydd a thanio'r dychymyg, tra ar yr un pryd yn ymdrin 芒'r pynciau llosg hynny sy'n effeithio ar bobl ifanc.

    Yn ogystal 芒'r nofelau eu hunain, mae darpariaeth hefyd ar gyfer athrawon gyda chanllawiau arbennig i gyd-fynd 芒'r testunau, a phecynnau o gryno ddisgiau yn cynnig fersiynau llafar o ddwy nofel.

  • Gwybodaeth ar Teipio "Pen Dafad" yn y blwch chwilio ar y safle.

  • Cysylltiadau Perthnasol
    carirhys@hotmail.com


    cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy