主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Dic y Fet
Y llon a'r lleddf law yn llaw
  • Adolygiad Gwyn Griffiths o Dic y Fet - Hunangofiant Richard Thomas gyda Lyn Ebenezer. Gwasg Gomer. 拢7.99.


  • Cymeriadau diddorol oedd - yw - y milfeddygon.
    Neu o leiaf y rheini a gofiaf i o ddyddiau plentyndod.

    Dynion dysgedig, rhaid wrth gwrs coleg hir a dwys i basio'n fet.

    Dywedid am y meddyg a ddeuai i'n t欧 ni pan oeddwn i'n blentyn, a oedd yn enwog am ei ddiddordebau mewn anifeiliaid mai fet oedd e am fod ond nad oedd cweit ddigon clyfar.

    Clawr y llyfr Roedden nhw, hefyd, yn ddynion diwylliedig. Dynion, er eu dysg a'u diwylliant, o blith y werin. Dynion fel y chwedlonol Tom Herbert, Aberaeron, a'r ffraeth Thomas y Fet fyddai'n arwain llwyfan G诺yl Fawr Aberteifi.

    Pan fyddai J. E. Thomas ar y llwyfan byddai pobl heb rithyn o ddiddordeb mewn canu nac adrodd yn tyrru i'r babell i glywed ei straeon carlamus.

    A dyma ni, meddwn wrthyf fy hunan, Dic y Fet, un arall yn y traddodiad gogoneddus.

    Wedi dechrau darllen y gyfrol Dic y Fet y sylweddolais bod Richard Thomas yn fab i Thomas y Fet ac y mae ganddo'r un trwyn am stori ddigri a'r gallu i'w dweud hi.

    Straeon ac ergyd
    Straeon 芒'u traed yn y tir - neu yn y sodren - 芒'r ergyd anfarwol yn y dweud. Ceir Dic yn disgrifio mynd gyda Defis y Fet, un o bartneriaid practis ei dad, at fuwch oedd yn methu geni ei llo.

    Rhoi rhaff o'r cartws am ben y llo, a'r tri - Defis, Dic a'r ffermwr - yn tynnu.
    Torrodd y rhaff a disgynnodd y tri i'r sodren.
    A Defis yn cwyno: "Dyma beth yw blydi ffarmo. Humber Hawk newydd yn y garej a dim blydi rhaff ddeche i dynnu llo!"

    Wyddwn i ddim o hyn, ond cyn dyddiau'r tarw potel roedd milfeddygon, neu o leiaf rai blaengar fel Thomas y Fet, yn darparu'r gwasanaeth hwn ar ben eu gwaith arferol.

    Tarw potel
    Ceir y stori yn y llyfr bod Thomas wedi cael galwad ff么n wrth ryw fenyw fach yn gofyn am yr AI (Artificial Insemination).

    Wedi iddo gyrraedd mae'r ddynes fach yn dweud wrtho ei bod hi wedi gadael padell o dd诺r a sebon coch iddo olchi ei ddwylo.
    Gan ychwanegu: "Rwy wedi taro hoelen tu 么l i'r drws i chi ga'l hongian eich trywsus."

    Gwn imi glywed y stori yna o'r blaen ac af ar fy llw mai o enau Thomas y'i clywais, o lwyfan G诺yl Fawr Aberteifi!

    Ond nid cyfrol o straeon doniol yn unig yw hon.
    Cawn ddarlun o fywyd amaethyddol De Ceredigion a Gogledd Penfro, yn ei hwyl a'i galedi. Yr oedd, ac y mae, caledi a digalondid law yn llaw yn y gymuned amaethyddol.

    Colledion
    Mae'r disgrifiadau o waith y milfeddyg yn ceisio adfer buwch wedi bwrw'i chydau ar 么l geni llo, mewn cae oer a gwlyb ymhell o'r beudy, yn ddirdynnol.

    Yr un modd y brwselosis oedd yn achosi bod gwartheg yn erthylu eu lloi rhwng tri a chwe mis gan achosi colledion mawr i'r ffermwyr, nid yn unig o golli llo ond hefyd golli'r llaeth.

    Yn fwy diweddar daeth y Clwy Traed a'r Genau a'r BSE i greu colledion a phryderon mawr yng nghefn gwlad.

    Diddorol oedd darllen ambell nodyn am y "cwacs", fel y geilw Dic hwy, ac am "glefyd y gwt".

    Rwy'n cofio buwch ar lawr gyda ni un gaeaf. Galw'r fet, ond er chwistrellu pob math bethau i'w gwythiennau wnai hi ddim symud.

    Wedi wythnos, anfonodd fy nhad am Jim Sbaddwr o Ledrod.

    Daeth hwnnw, ac wedi teimlo'i chynffon daeth o hyd i fan yn y gynffon oedd yn ystwyth fel chwip. Yn y fan honno, gyda'i gyllell, torrodd ric tua thair modfedd o hyd a gwasgu rhyw stwff gwyn fel jeli allan ohono.

    Rhoddodd eli yn y toriad, rhwymo'r cyfan a chododd y fuwch ar ei thraed yn syth.

    Mae Dic yn ddigon grasol i gydnabod hwyrach bod rhywbeth yn yr hyn yr oedd yr hen bobol yma'n ei wneud ond heb fedru cynnig eglurhad.

    Cyfrol yw hon o'r llon a'r lleddf, y cysurus a'r anghysurus, gyda dogn o athronyddu ac o ofid am dynged Cymreictod a'r gymuned amaethyddol dan lywodraeth sy'n ddi-hid o'r wlad ac o amaethyddiaeth.

    Fe d芒l i bob Cymro sydd 芒'r darn lleiaf o'i wreiddyn yn dal yn y tir ddarllen y gyfrol hon - ac ystyried.

  • Adolygiad ar Gwales



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy