主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Gair, Sain a Llun
Difyrru a'i lach yn ei law!
  • Adolygiad Glyn Evans o Gair, Sain a Llun gan Lyn Ebenezer. Gwasg Gwynedd. 拢695.


  • Gellir maddau imi am deimlo ar adegau fod Lyn Ebenezer wedi symud i mewn i fyw acw dros y Nadolig a'r flwyddyn newydd.

    Yn sicr, hwyliodd well bord nag ambell i ginio Nadolig gyda chwech o lyfrau yn gysylltiedig ag ef yng nghatalog llyfrau newydd Cyngor Llyfrau Cymru!

    Yn wyneb y fath ddiwydrwydd gallwn fod wedi trefnu nid Ddiwrnod Lyn Ebenezer ond yn benwythnos gyfan!

    Clawr y llyfr Llawn cystal, felly, ei fod yn 么l ei gyfaddefiad ei hun yn un sy'n ystyried sgrifennu yn "bwysig" iddo ac yn destun mwynhad.

    "Mae'r broses o ysgrifennu yn rhywbeth pwysig iawn i mi," meddai yn y gyfrol hunangofiannol hon, Gair, Sain a Llun, lle dywed hefyd mai un o'i freuddwydion cynharaf fu medru "byw yn llwyr ar ysgrifennu creadigol".

    Yr eironi yw, ychwanega, mai dim ond wedi iddo gael y sac o fyd teledu y daeth hynny'n bosib.

    Ymroi gydag awch
    O gael y cyfle, ymr么dd iddi gydag awch a briodolir gan amlaf i was newydd ar ei wythnos gyntaf!

    "Rhwng Medi 2004 a Medi 2005 ysgrifennais gynifer 芒 270,000 o eiriau ar gyfer llyfrau yn unig (a difetha drwy draul, ddau fysellfwrdd)," meddai.

    Ychwaneger at hynny weithgarwch arall fel cyfraniadau i gylchgronau a dywed fod y cyfanswm yn nes at 300,000.

    Mae hynny yn dipyn o waith!

    Y llyfrau
    Gyda Gwasg y Dref Wen mae newydd gyhoeddi Adar Brith. I Gomer cydweithiodd ar hunangofiant Richard Thomas, Dic y Fet. Daeth tair cyfrol o'r Lolfa, Si So Jac y Do yng nghyfres yr Heliwr, cydweithiodd ar Hiwmor Dai Jones a chyhoeddwyd Hiwmor Lyn Ebenezer ei hun!

    Ac wele Gair, Sain a Llun sy'n ddilyniant i'w hunangofiannau, Cae Marged a Chofion Cynnes.

    Gorddio S4C
    Daw yn eglur yn fuan iawn fod hon yn gyfrol y teimlai Lyn reidrwydd i'w sgwennu a hynny er mwyn cael bwrw ei lid yngl欧n ag un neu ddau o bethau.

    Mae mwy nag un asgwrn cynnen yma -i gyd yn ymwneud ag S4C ac o'r cychwyn cyntaf daw yn amlwg iawn na fydd Lyn yn gadael dim yn ei ewyllys i'r sianel a fu'n ei gyflogi ac a wnaeth, yn ei farn ef, ddau dro s芒l iawn ag ef.

    Un feirniadaeth gyson ganddo yw tuedd y Sianel, yn ei farn ef, i ladd rhaglenni sy'n llwyddiant.

    Yn ei achos ef digwyddodd hynny yn gyntaf gyda chyfres Pwy Sy'n Perthyn i'w dilyn gydag ergyd arall llawer caletach yn nes ymlaen pan benderfynodd S4C daro yn ei thalcen y gyfres Hel Straeon yr oedd Lyn yn un o'i chyflwynwyr.

    Mewn llythyr
    "Lladdwyd ni gan lythyr o 82 o eiriau. Dyna oedd swm diolch S4C am wasanaeth clodwiw o 11 mlynedd," cwyna gan ychwanegu:
    "Yr eironi oedd mai ein blwyddyn lawn olaf mewn bodolaeth oedd hefyd ein blwyddyn orau."

    A hynny'n cadarnhau yn ei feddwl ei ddamcaniaeth fod traddodiad o fewn y Sianel "bod angen i bopeth llwyddiannus gael ei ladd".

    "Ni allaf ond teimlo'n dragwyddol chwerw," meddai am yr holl beth.

    "Roedd creu rhyw ymerodraeth ym Mharc T欧 Glas yn bwysicach na darparu'r hyn roedd y gwylwyr ei eisiau," meddai.

    Perthyn elfen llawer iawn mwy personol i achos arall y mae'n s么n amdano - colli ei swydd fel un o gyflwynwyr y rhaglen Pnawn Da dros flwyddyn yn 么l.

    Ac S4C - yn hytrach na gwneuthurwyr y rhaglen oedd yn ei gyflogi - sy'n cael y bai eto am yr hyn a ddisgrifia fel penderfyniad dienw ac yntau ond bedwar mis i ffwrdd o'i ymddeoliad.

    Straeon ac atgofion
    Er bod i'r cwenciau hyn le canolog a phwysig yn Gair, Sain a Llun ac er bod cael mynegi ei ofid yn amlwg o bwysigrwydd i Lyn nid dyma swm a sylwedd y gyfrol ddarllenadwy hon ac y mae ganddo nifer o straeon ac atgofion difyr a diddorol i'w hychwanegu at gynnwys Cae Marged a Chofion Cynnes.

    Yn amlwg, mae ei atgofion ychwanegol am ei gyfnod gyda'r Cymro o ddiddordeb personol i mi gan ei fod yn gyfnod yr oeddem ill dau yn cydweithio a'n dyled yn gyffelyb i'r golygydd ar y pryd, Llion Griffiths.

    Mae yma sawl stori ddifyr a doniol am newyddiadura ac yn arbennig newyddiadurwyr yn cael eu hadrodd yn ddiddan.

    Bocs sebon
    Mae ambell i focs sebon i'w ddringo hefyd.

    Fel un sy'n cael ei gyfrif yn hac o hil gerdd does gan Lyn ddim cariad o gwbl tuag at ymhonwyr newyddiadurol.

    "Peth arall sy'n fy ngwylltio yw'r modd y mae pobl yn derbyn bod colofnydd wythnosol neu fisol yn newyddiadurwr per se," meddai gan ychwanegu na fyddai'r "parasitiaid" hyn yn gwybod lle i droi o gael eu taflu "i ganol stori wirioneddol fawr".

    Safon iaith
    Mae a'i lid hefyd ar Gymraeg gwallus - yn enwedig ym maes darlledu lle mae mwy a mwy o gloffni y dyddiau hyn a "Saesneg diangen" ar fwletinau newyddion.

    "Sialens yw her bellach. Rhoddir teyrnged yn hytrach na'i thalu," ac yn y blaen

    Ond yr enghraifft odidocaf o ddiffyg crebwyll oedd rhywun yn defnyddio'r gair Cymraeg "diffuant" fel cyfieithiad Cymraeg o "defiant"!

    Cyfieithu llyfrau
    Cwyn arall y byddwn i'n ei chael yn hawdd iawn ei hategu yw yr un yn erbyn yr holl gyfieithu nofelau a straeon o'r Saesneg i'r Gymraeg.

    "Ni welaf unrhyw bwrpas o gwbl yn y fath ymarferiad. Pam darllen Harry Potter yn Gymraeg pan fod modd gwneud hynny yn yr iaith wreiddiol? Ofnaf fod Cymru wedi troi'n genedl ail-law," meddai.

    Braf oedd cael rhywun mor hawdd cydweld ag ef yn y t欧 dros y Dolig.

    Gallwn edrych ymlaen yn awr at glywed beth - a faint - fydd ganddo ar gyfer hosan y flwyddyn nesaf.
    Hwyl ar y sgwennu.

  • Adolygiad ar Gwales



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy