主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Stori Sydyn
Dwy nofel i berswadio pobl i ddarllen
Mae dwy nofel Gymraeg a gyhoeddir Ddiwrnod y Llyfr yn rhan o ymgyrch genedlaethol i ddenu pobl nad ydyn fel rheol yn darllen i droi at lyfrau.

Mae'r holl lyfrau yn y gyfres newydd Stori Sydyn yn fwriadol fyr - dim un yn hwy na 128 o dalennau o hyd.

Ond os yw'r straeon yn fyr mae'r awduron ymhlith rhai mwyaf adnabyddus Cymru a Lloegr.

Clawr Awduron y ddau lyfr Cymraeg ydi Meleri Wyn James a Geraint Vaughan Jones a chyhoeddir eu nofelau ar yr un pryd 芒 12 o lyfrau Saesneg gan Ruth Rendell, Maeve Binchy, Joanna Trollope ac awduron eraill.

Parti Ann Haf a nofel dditectif, Jake, ydi'r ddau lyfr Cymraeg newydd - y naill gan Meleri Wyn James a'r llall gan Geraint Vaughan Jones sydd yn enillydd cyson gyda'i nofelau yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

'Mae darllen yn hwyl ac yn bleser y gall pob un ohonom ei rannu. Mae cymryd rhan yn Stori Sydyn yn gyfle gwych i gyrraedd darllenwyr newydd," meddai Meleri wyn James.

Bydd y llyfrau eraill, a dau wedi'u hysgrifennu yn Saesneg gan awduron o Gymru, yn cael eu cyhoeddi fis Mai 2006.

Clawr Pris pob llyfr Stori Sydyn ydi 拢2.99 ond mae yna hefyd filoedd o docynnau sy'n cynnig gostyngiad o 拢1 y gellir eu defnyddio am flwyddyn i brynu unrhyw un o'r teitlau yn cael eu dosbarthu ar hyd a lled Cymru er mwyn annog pobl i godi llyfr, ei ddarllen a'i fwynhau.

Bydd y tocynnau hyn yn cael eu dosbarthu drwy golegau Addysg Bellach a chanolfannau dysgu i oedolion, drwy'r Gyngres Undebau Llafur a chan gyflogwyr.

Hefyd, gellir eu dadlwytho o nifer o wefannau gan gynnwys gwefan gan glicio wedyn ar Stori Sydyn.

Geraint Vaughan Jones"Nod Stori Sydyn yw agor drysau newydd i bobl, i wneud darllen nid yn unig yn sgil ond yn arfer," meddai llefarydd.

Yn 么l yr ymgyrch mae cymaint a thua 750,000 o oedolion yng Nghymru a'r nod yw defnyddio awduron llwyddiannus i berswadio 'r bobl hyn i ddarllen heb eu trethu'n ormodol o ran amser. Mae'n ymgyrch sy'n cael ei chefnogi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru .

Meddai Jane Davidson , y Gweinidog Addysg: "Er bod angen inni argyhoeddi oedolion sy'n ddysgwyr y bydd sgiliau darllen gwell yn gwella'u cyfleoedd bywyd, rhaid inni hefyd ddangos iddynt y gall darllen fod yn fwynhad ynddo'i hun.
"Pan fyddwn yn llwyddo i gyfleu'r ddwy neges byddwn wedi cymryd cam mawr ymlaen o ran cyflawni ein nodau." Meleri Wyn James Ychwanegodd: "Mae'n bleser gennyf hefyd weld bod teitlau Cymraeg wedi'u cynnwys yn y rhestr o lyfrau a fydd yn helpu'r fenter i gyrraedd cynulleidfa hyd yn oed ehangach."

Gwasg Gomer sy'n cyhoeddi'r ddau lyfr Cymraeg ac meddai Mairwen Prys Jones o'r wasg:
"Mae'r ddau awdur, Geraint Vaughan Jones a Meleri Wyn James, yn gwir wybod beth yw cyfrinachau creu stori afaelgar."

  • Parti Ann Haf gan Meleri Wyn James: Doedd bywyd ddim i fod fel hyn i Ann Haf. Mae hi'n fam i ddau o blant. Mae ganddyn nhw ddau dad gwahanol. Dim ond 28 oed ydy hi. Un noson, mae hi'n mynd i barti dillad secsi sy'n newid ei bywyd am byth!
  • Jake gan Geraint Vaughan Jones: Mae merch ifanc wedi cael ei threisio yn Pencraig. Rhaid i DCI Mat Francis ddod o hyd i'r dyn drwg cyn iddo dreisio a lladd merch ifanc arall. Mae ei yrfa yn dibynnu ar hynny. Ond mae Jake, brawd Mat, hefyd ar y trywydd. Gohebydd ydy Jake, ac mae ganddo drwyn am stori fawr. A oes un ohonyn nhw'n mynd i ddal y Treisiwr?

  • Parti Ann Haf ar Gwales

  • Jake ar Gwales

  • Cysylltiadau Perthnasol

    Holi Meleri Wyn James
    Holi Geraint Vaughan Jones


    cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy