主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Apocalups Yfory
Dal i enwi'r geiriau
  • Adolygiad Glyn Evans o Apocalups Yfory gan Gwyn Thomas. Barddas. 拢7.95.


  • Ai rhywbeth sydd ond dipyn bach yn fwy buddiol na loetran ar gorneli strydoedd ydi barddoni? Rhywbeth y gallai pobl fod yn dweud amdano ei fod yn well na mygio hen wragedd?

    Clawr y llyfrYng ngherdd gyntaf ei unfed casgliad ar bymtheg o gerddi daw Gwyn Thomas i'r casgliad, ar 么l gofyn iddo'i hun "Be ydi Barddoni?:
    "Wel, y mae o, welwch chi,/ Yn rhywbeth i'w wneud/ On'd ydi?"

    Tybed a fyddwn yn gwybod ar 么l darllen y gyfrol hon bod mwy iddi na hynny.? Yn gwybod bod bodolaeth bardd yn rhywbeth llawer amgenach na
    "Bod mewn cors hyd at eich gwddw/ Yno'n suddo, yno'n geirio,/ A neb o gwbwl yn gwrnado"?

    Ar fws
    Nid ar fws Crosville rhwng Croesoswallt a'r Waun y byddai rhywun yn disgwyl gwneud rhyw ddarganfyddiad newydd o bwys mewn barddoniaeth. Ond dyna lle, ar bnawn heulog yn 1973, yr agorais i gyntaf erioed gyfrol gan Gwyn Thomas a chael fy ngwefreiddio a'm cyffroi gan gerddi Enw'r Gair oedd newydd ei chyhoeddi.

    Y cyfuniad o sylwgarwch, hiwmor a'r gallu i ddadansoddi a dadberfeddu pethau mawr ein bod mewn iaith sgwrs a chyda darluniau ein pob dydd a'i gwnaeth hi.

    Yr oedd nifer o'r cerddi yn ymwneud 芒 byd plant. Erbyn heddiw, y mae gan blant y cerddi hynny eu plant eu hunain a'r rheini nawr yn broc i awen tad sy'n daid.

    Yn dra gwahanol
    Wrth gwrs, er bod yr hen werthoedd yn parhau y mae'r ffordd y mae'r taid - sy'n 70 oed eleni - yn ymateb i bethau yn dra gwahanol i'r ffordd yr oedd y tad ifanc yn gweld y byd.

    Nid yn gymaint oherwydd bod y bardd wedi newid ond bod y byd y mae'n byw ynddo wedi newid.
    Wedi newid, wedi llwyr newid, i aralleirio bardd arall mewn cyd-destun gwahanol.

    Yn yr amserau gynt a fu
    Yr oedd ein neiniau ni -
    Greaduriaid tlawd ag oeddynt -
    Yn arfer ymlwybro'n llwydaidd
    Mewn dilladau llaes i'r cwrdd
    Yn cario dan eu ceseiliau
    Lyfrau hums.

    Ond heddiw, meddai yn y gerdd, Genod Ni:

    Y mae ein genod ni -
    Ffeministiaid y Rhyddhad -
    Yn siglo mewn nicyrs tecnicylyr
    Yn ddifraw a di-fra
    Gan gario mewn hambagiau Gucci
    Dabledi ecstasi.

    Ydi mae Gwyn Thomas Apocalups Yfory yn rhan o fyd sydd wedi newid cymaint y mae rhai o'n cenhedlaeth ni ddigon agos a theimlo'n ddieithriaid ynddo wrth weld hen werthoedd dan warchae a bwystfilod wrth y drws.

    Ei rinwedd ef yw ei fod ef yn gallu darlunio bygythiad a dyfodiad dinistr mewn ffordd mor ddarllenadwy sy'n cydio. Mae gwreiddioldeb a hiwmor chwithig Enw'r Gair yn parhau ar waith yn ein procio a'n sobreiddio. Y ffordd wreiddiol, wahanol o weld a delweddu:

    Mae 'Appy Days er enghraifft yn adlais o'i ddiddordeb mewn ffilmiau - fel ag yw teitl y gyfrol ei hun - gyda'i darlun o arswyd ystrydebol ffilmiau:
    Oddi allan i waliau ein tai
    Yr ochr arall i'n ffenestr ni,
    Reit wrth ein drysau ni,
    Yno, yn y nos,
    Y mae yna, fe wyddom ni, fwystfil tywyll
    A glywn ni, weithiau, yn s'nwyro,
    Yn crafu ac yn ysgyrnygu'n isel.
    A gwyddom, yng nghysur goleuni ein trydan,
    Y bydd o, rywbryd, yn malu ei ffordd i mewn
    Yma atom ni, i'n llarpio.

    Mae cerddi eraill yn darlunio'n gliriach natur y bwystfil hwnnw - bwystfil sydd yn fygythiad i wareiddiad yn gyffredinol ac i'n diwylliant a'n hiaith fach ninnau yn arbennig; a hwythau gymaint dan warchae ac wedi eu clwyfo wrth i safonau a gwerthoedd gael eu cleisio.

    Mae'r delweddau o'r argyfwng yn arswydo rhywun megis yn Y Stafell Hon

    Yma, yn y stafell hon, y mae
    Silffeidiau ar silffeidiau o lyfrau,
    A'r cyfan yn llyfrau Cymraeg.
    Ond y mae mudandod,
    Fel d诺r budur,
    Yn graddol godi ynddi.
    A chyn bo hir fe fydd
    Y cwbwl wedi boddi.

    Ac yn Unwaith mae'n cofio y bu gennym unwaith iaith gyda ". . . geiriau a dreiglasai/ Trwy brofiadau ein pobl/ Am oesoedd, am ganrifoedd maith.".

    Ond bod hynny " cyn i'r byd newid"

    Cyn i fydoedd eraill lifo
    Fel lafa coch drwy ein profiadau
    Ac i'w geiriau losgi'n hyngyniadau
    Yn gols yn ein geneuau.

    Rhybuddia:
    Mudion ydym, megis meirwon ydym,
    A Chymru wedi llifo allan ohonom,
    O bosib, am byth.

    Ac yn y gerdd y mae ei theitl yn deitl i'r gyfrol hefyd darlunio ei gynefin darfodedig ym Mlaenau Ffestiniog y mae - cynefin "nad ydyw heddiw'n bod" ei werthoedd a'i arferion gw芒r.

    A sut yr oeddwn i, yr adeg hynny,
    I wybod y byddai hi,
    O ddisbyddu'r fath ddaioni,
    I mi
    Yn apocalups yfory.

    O gael ei ysgwyd i wynebu y fath argyfwng unfed awr ar ddeg y mae dyn yn dyheu hefyd am lygedyn o oleuni. Am wreichionen o obaith lle mae anobaith yn rhemp ac y mae Gwyn Thomas yn effro i hynny hefyd gan ofyn:

    Ond beth am y goleuadau pell
    Nad yw ffynhonnell eu gloywder ddim yn pylu,
    Beth am y disgleirdeb hwnnw
    Sy'n peri ein bod ni'n gallu amgyffred
    Rhywbeth y tu draw i dywyllwch?

    Ac i'r sawl sy'n chwilio am obaith diau mai'r gerdd ddeg llinell, Mawrth fydd un fwyaf arwyddocaol y gyfrol:

    Yr adeg hon o'r flwyddyn
    Y mae y coedydd hyn
    Yn fyw o ffiwsys,
    Ac y mae eu brigau
    Wedi'u pacio'n dynn
    脗 deinameit.
    Ac, yn y man,
    Bydd y cyfan
    Yn ffrwydro'n flagur,
    Yn wyrdd godidog a gwanwyn.

    Mewn byd lle mae mwy o arwyddion anobaith nac o arwyddion gobaith yn yr elfennau hynny sy'n ein cydio wrth hen werthoedd y mae ein hachubiaeth bosibl a'n diogelwch:
    Yn "Y goleuni rhyfedd hwnnw
    Sydd y tu hwnt i gnawd
    A'r tu hwnt i fater ein bydysawd
    pe baem ni, chwedl yntau, ond wedi gweld.

    O ludw oer bodolaeth/ Daw ffenics, o farwolaeth,/ Dros gyfwng oerllyd hiraeth," meddai mewn cerdd i gofio yr Athro J E Caerwyn Williams y mae'r cof amdano yn ymrithio "trwy len mudandod".

    Ac mewn cerdd i'r Gloddfa Ganol meddai:
    Tra byddaf fi 芒'r pethau yma yn fy nghof
    Nid amgueddfa, ond rhyw fath o bresennol
    O hyd fydd y Gloddfa Ganol.

    Ond efallai mai'r gerdd Mari - am fam y gorfu iddi "wylio, yn ddiymadferth,/ Ei merch yn darfod" - sy'n cyfleu y syniad hwn o afael y gorffennol orau. Yn un o gerddi grymunsaf a mwyaf teimladwy y gyfrol mae hon yn delyneg ysgytwol y bydd sawl un yn uniaethu 芒'r profiad personol ysig sydd ynddi.

    Dewis ffefrynnau
    Ac o fynd ati i ddewis ffefrynnau - fel mae rhywun yn mynnu gwneud - byddai'n anodd iawn dod o hyd i gerdd mor ysol ei chlo nag Arglwyddes y mae ei thair llinell olaf yn gadael pang o ddychryn oer.

    Yn y gyfrol i gyd mae 96 o gerddi - y rhan fwyaf ohonyn nhw wedi eu cyfyngu i un ddalen.

    Efallai bod hynny'n dweud mwy am y darllenydd hwn nac am y bardd ond y cerddi byrion hynny sy'n apelio fwyaf yn hytrach na rhai hirach.
    Yn y canol y mae rhyw ffair sborion o gerddi byrion iawn - crafog, gogleisiol a llawn hiwmor lletchwith.

    Yn ysgytwol, yn wefreiddiol, yn ogleisiol ac yn ddyrchafedig ar wahanol adegau mae Apocalups Yfory yn brawf o rym a cherddoriaeth iaith.

    Hefyd yn brawf, os mai dim ond "rhywbeth i'w wneud" ydi barddoni ei fod yn rhywbeth gwerth chweil i'w wneud - o gael ei wneud yn iawn.

  • Adolygiad Iwan Llwyd ar Gwales

  • Cysylltiadau Perthnasol


    cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy