主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Gwe o Gelwyddau
Sbin, sgandal a sleaze,!
  • Adolygiad Rhodri Ll. Evans o Gwe o Gelwyddau gan Delyth George. Gomer. 拢7.99.


  • Gyda phobl y wlad hon wedi hen gynefino 芒 darllen am sleaze, sbin a sgandal ym myd y gwleidyddion a gwleidyddiaeth, mae nofel gyntaf Delyth George yn amserol iawn.
    Cysylltir rhai fel Blunket a Prescott ag aff锚rs yn y swyddfa yn hytrach na'u dyletswyddau.

    Mae sleaze yn gwerthu ac mae gan bobl ryw awydd od i weld rhywun yn cael ei dynnu i lawr i'r llaid.

    Mae rhai gwleidyddion yn cyflawni blynyddoedd o waith ffyddlon ond yn dilyn eiliad o wallgofrwydd, dyna hi - am hynny y caiff ei gofio.

    Clawr y llyfr Cawn ein tywys i'r byd hwn yn Gwe o Gelwyddau.

    Gan neidio o Lundain i Gaerdydd, prifddinasoedd ein gwleidyddiaeth gyfoes, gwelwn nad anrhydedd na dyletswydd sy'n gyrru gwleidyddion ond yn hytrach llwyddiant, delwedd a'r cyfle i ddringo.

    贵补莽补诲别 yw'r hen werthoedd - rhywbeth sydd angen ei feithrin er mwyn 'mynd ymlaen'.

    Yng Nghaerdydd, mae ar Arwel Evans yr awydd i fod yn aelod yn y Cynulliad a thrwy gynllwynio parhaus y Prif Chwip, Dai Davies, ymhen hir a hwyr, daw'r cyfle iddo wireddu ei freuddwyd.

    Yn Llundain, yn swyddfeydd y Daily News, mae Emma yn derbyn dyrchafiad gan ei golygydd. Mae Rhys, ei chariad, wrth ei fodd ac yn ysu am gael gofyn iddi setlo ag o. Symud i mewn 芒'i gilydd, priodi a dechrau teulu. Dedwyddwch.

    Ond wrth ddarllen erthygl ar wefan y 主播大秀 ar gyfer stori bosib, mae Emma'n gweld llun o'i hunllef byw, yn gwenu gw锚n o lwyddiant arni.

    Yn amlwg, mae gan Emma ac Arwel orffennol sy'n cyd-blethu.
    A hwnnw'n orffennol sy'n cychwyn yn Aber, rhyw bymtheng mlynedd ynghynt - yr un Aber y bu'n rhaid i Emma ei adael heb ffarwelio 芒 neb a s诺n eu geiriau brwnt yn atseinio y tu 么l iddi, Celwyddgast! Bitsh dwyllodrus...

    Gwybod yn iawn
    Dyma nofel sydd wedi ei hysgrifennu gan un sy'n gwybod yn union sut i gynnal cynulleidfa ac nid yw hynny'n syndod o gofio mai Delyth George yw un o awduresau Pobol y Cwm, ac mae'n hawdd cymharu llif y nofel i lif drama deledu, neu hyd yn oed ffilm.

    Mae gwedd weledol i'r cyfan. Fel petai'r stori wedi ei rhannu'n olygfeydd yn hytrach na phenodau.
    Nid oes dim o'i le gyda hyn, wrth gwrs, os rywbeth, mae'n ychwanegu at natur gyflym y naratif ac yn fodd i hoelio sylw'r darllenydd.

    Penderfynol o ddial
    Trwy ddefnydd helaeth o 么l-fflachiadau - o gyfnod Emma yn Aber; yn raddol - braidd yn rhy raddol, ar adegau - caiff hanes Emma ac Arwel ei ddatgelu ac mae siwrnai Emma a'i holl awydd i ddymchwel byd Arwel ym mhresennol y stori, yn dod i'r amlwg.

    Abertha Emma bopeth i'r perwyl hwn gyda Rhys, ei swydd, ei rhieni a'i ffrindiau yn cael eu anghofio a'u hanwybyddu - dim ond am y cyfle ddial ar y g诺r a chwalodd ei bywyd.

    O ganlyniad daw Emma yn un i'w goddef yn hytrach nag un i gydymdeimlo 芒 hi.

    Rhannu'n ddwy

    Gellir rhannu'r nofel yn ddwy.
    Mae'r rhan gyntaf yn gyffrous a llawn dirgelwch a'r stori'n symud ar gyflymder anhygoel o Lundain i Gaerdydd, o Aber y gorffennol i dai gwleidyddion.

    Yn wir, mae dilyn Emma wrth iddi nes谩u at Arwel a nes谩u at ei gorffennol yn eithaf cyffrous - er ei bod yn gymharol hawdd dyfalu'r hyn a ddigwyddodd yn Aber cyn ei ddarllen.

    Mae'r ail ran, fodd bynnag, fel petai'n colli st锚m.

    Mae Emma'n llwyddo i gael swydd yn swyddfa Arwel ble mae'r ddau'n cydweithio 芒'i gilydd.

    Gyda'r holl gyffro wedi cyrraedd copa yn y rhan gyntaf, mae'r stori'n syrthio rhyw fymryn yn fflat yn y rhan yma.
    Anti-climax, braidd.

    Nid yw'r cyflymdra gwreiddiol yn cael ei gynnal a thry'r stori'n heglog ac araf.

    Mae ymgais i ddiweddu'r cyfan 芒 diwedd-ddim-mor-hapus-ac-y-disgwyliech, ond yn bersonol, ni chredaf i ddiwedd o'r fath weithio. Yn hytrach pwysleisia osgo fflat yr ail ran.

    Weithiau - ac weithiau'n unig - mae'n gallach mynd am ddiweddglo sydd unai'n hapus neu drist.

    Hawdd ei darllen
    Ond yn gyffredinol, mae'n nofel dda sy'n gymharol hawdd ei darllen ac, yn sgil y rhan gyntaf, yn un y byddwch yn ei darllen yn eithaf sydyn.

    Mae'r portreadau o wleidyddion y Bae yn bur gywrain ac mae'n cynnig cip i ni ar fyd eithaf caeedig, cudd a chynllwyngar (gweler y diolch i Karl Davies ar ddechrau'r llyfr).

    Yn wir, credaf y byddwch yn ceisio cysylltu'r cymeriadau a geir ynddi 芒 gwleidyddion go iawn!

    Mae'n anffodus fod bwrlwm y rhan gyntaf yn diflannu erbyn yr ail ran a rhywun erbyn y diwedd yn ysu am iddi orffen wrth i'r stori fynnu rhygnu yn ei blaen.

    Yn gyffredinol, yr ymdarodd gorau i'w disgrifio yw'r un Saesneg - hit or miss.

    Ond wedi dweud hynny - nofel iawn ar gyfer yr haf - yn syml ac yn eithaf bywiog

  • Gweler Gwales



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy