主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Llyfr Mawr y Plant - dathlu 75
Llywio - a lliwio - arferion darllen a deffro dychymyg cenedlaethau o blant
Fe'i disgrifiwyd fel, "Y llyfr plant gorau ar farchnad Prydain am y pris" pan y'i cyhoeddwyd gyntaf yn 1931.

A'r adeg honno, tri swllt a chwe cheiniog - llai nag 18c heddiw - oedd y pris hwnnw. A hynny am lyfr Cymraeg nad oedd yr un arall i'w gymharu ag ef gyda'i luniau cain a bywiog a'i straeon hwyliog.

Clawr y llyfrCarreg filltir
Nid oes amheuaeth nad oedd cyhoeddi Llyfr Mawr y Plant yn garreg filltir bwysig yn hanes llenyddiaeth plant Gymraeg - ac y mae'n dathlu ei ben-blwydd yn 75 oed eleni gydag arddangosfa yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth a detholiad o oreuon y pedair cyfrol a gyhoeddwyd maes o law.

Jennie Thomas, athrawes 31 oed a anwyd ym Mhenbedw, dros yr afon i Lerpwl, oedd yn bennaf gyfrifol amdano.

Er wedi ei geni ar lannau Mersi yr oedd gwreiddiau Jennie Thomas ym M么n ar ochr ei thad ac yn Sir Aberteifi ar ochr ei mam gyda T Gwynn Jones yn ymwelydd cyson 芒'i modryb yn Llannon.

Wedi graddio ym Mhrifysgol Lerpwl yn 1916 - lle'r oedd Saunders Lewis hefyd yn fyfyriwr - cafodd ei hyfforddi'n athrawes a'i phenodi yn athrawes yn Ysgol Cefnfaes, Bethesda.

Rhannai lety gydag athrawes arall, Edeila Wynne o Arthog.

Yr oedd Edeila yn gariad i John Owen Williams a ddaeth yn gyd-awdur Llyfr Mawr y Plant gyda Jennie Thomas.

Dylanwad mawr arall arni ers dyddiau coleg oedd J Glyn Davies awdur cerddi Fflat Huw Puw; pennaeth Adran y Gymraeg yn Lerpwl.

1931, 1939, 1949 a 1975
O'i swydd yn athrawes symudodd Jennie Thomas ymlaen i fod i Drefnydd Iaith Sir Gaernarfon ond beth bynnag ei chyfraniad yn y swydd honno fel awdur y gwnaeth ei marc.

Hysbysebu'r llyfr yn 1932 Yn ogystal a Lyfr Mawr y Plant - y cyhoeddwyd tair cyfrol rhwng 1931 a 1949 ac un ychwanegol yn 1975 - cyhoeddodd ddwy gyfrol o hwiangerddi gyda lluniau trawiadol a gwerslyfrau i blant.

Ond 1931 oedd blwyddyn fawr y bartneriaeth gyda chyhoeddi Llyfr Mawr y Plant sy'n cael ei gyfrif y blwyddlyfr - annual cyntaf yn y Gymraeg ac yn llyfr plant nas gwelwyd cyn hynny ei debyg yn yr iaith o ran diwyg, safon a phoblogrwydd.

Wil Cwac Cwac
Jennie Thomas oedd yr athrylith y tu 么l i Wil Cwac Cwac a'i gyfeillion hynod eu henwau - Martha Plu Chwithig, Ifan Twrci Tenau, Sioni Ceiliog Glas, Now Trwyn Smwt, Twm Tatws Oer a Huw Herc - oll yn ymgasglu o gwmpas Llyn y Felin.

Llyn y FelinSion Blewyn Coch
O law J O Williams a oedd yn dal i gyhoeddi yn 1970 y daeth arwr arall y gyfrol, Sion Blewyn Coch y llwynog a oedd gyda Sian Slei Bach ei wraig yn ddraenen barhaol yn ystlys Eban Jones y ffermwr.

Seiliwyd Sion ar lwynog dof o'r enw Mic a fu'n cael ei gadw ar aelwyd yr awdur ym Methesda.

Rhwng y prif straeon hyn a oedd yn rhedeg yn benodau drwy'r llyfr yr oedd posau a darnau o farddoniaeth yn amrywio o'r doniol i'r telynegol, dramodigau a straeon byrrach - un, mewn oes a oedd yn iach o PC, am goliwog du o'r enw Twm Parddu.

Ac wrth gwrs degau o blant bach drwg yn torri ffenestri, taflu peli eira, llosgi eithin ac yn y blaen.

Llywio arferion darllen
Roedd yn gyfuniad a enillodd galon ac a lywiodd - a lliwio - arferion darllen cenedlaethau o blant a'r cyfan mewn Cymraeg gafaelgar gan awduron digon hyderus i beidio ag ofni y byddai defnyddio ambell i air 'anodd' yn dychryn plant.

Coronwyd hyn oll 芒 dalennau llawn o luniau lliw gan arlunydd a wnaeth ei farc gyda'r gyfrol Gymraeg hon, Peter Fraser.

Yn frodor o ynysoedd Orkney yn wreiddiol ond yn byw yn neheudir Lloegr nid oedd ganddo air o Gymraeg.

Breuddwyd Eban Jones Byddai'n derbyn cyfarwyddyd manwl gan yr awduron am gynnwys y lluniau ac yn eu peintio 'i ordor'.

Talwyd teyrnged arbennig iddo ef gan swyddog llenyddiaeth plant Cyngor Llyfrau Cymru, Menna Lloyd Williams, pan gafodd ei holi ar raglen Si芒n Thomas bnawn Mawrth Medi 26.

Disgrifiodd hi Lyfr Mawr y Plant fel un arbennig iawn ar adeg digon tlawd yn hanes llyfrau plant.

Dal i gydio
Hyd yn oed heddiw, meddai, mae'r straeon yn dal i gydio er bod yr iaith wedi "dyddio" rhywfaint.

Yn ei ddydd fe'i disgrifiwyd gan yr Athri W J Gruffydd fel un allai gystadlu a goreuon llyfrau plant Lloegr:
"Dyma yn sicr lyfr sydd nid yn unig yn debyg i Christmas Books y Saeson, ond ym mhopeth - testun, diwyg, darluniau, pris, cystal 芒'r goreuon ohonynt, a gwell o lawer na rhan fawr. Yn wir y mae'n anodd gennyf fesur fy ngeiriau wrth ganmol rhinweddau'r awduron a'r darluniau," meddai.

Yr oedd, wrth gwrs, yn gwbl ogleddol ei iaith ac yn wledig ei naws a byddai'n ddifyr cael gwybod ai gogleddol yn unig ei boblogrwydd hefyd . . .

  • Yn gynharach eleni cyhoeddodd Gwasg Carreg Gwalch gasgliad o oreuon y pedair cyfrol i ddathlu'r 75 mlwyddiant: Llyfr Mawr y Plant: Goreuon y Pedair Cyfrol, pris 拢15.

  • Ffeithiau bach Llyfr Mawr y Plant Cliciwch
  • Arddangosfa dathlu'r 75 yn y Llyfrgell Genedlaethol
  • Gweler Gwales

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Ffeithiau Bach Llyfr Mawr y Plant


  • Ail fyw Llyfr Mawr y Plant


  • cyfannwch

    nia bethesda
    llyfr gore erioed



    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy