主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Brithyll
Nofel gyntaf Dewi Prysor - ac mae mwy i ddod
  • Lowri Rees yn holi Dewi Prysor
    Mae Dewi Prysor yn chwerthin yn braf wrth gael ei holi dros y ffon am ei nofel gyntaf, Brithyll, sydd wedi ennill cryn ganmoliaeth yn dilyn cyfarfod i'w lawnsio nos Iau, Tachwedd 9, 2006, yn y Ring Llanfrothen.

    Clawr y llyfr Disgrifiodd yr awdur o Lan Ffestiniog y nofel fel comedi dywyll, amharchus ac afreolus am gymeriadau brith sy'n byw mewn pentref dychmygol yng ngogledd Meirionnydd.

    Criw anystywallt
    "Direidi gwallgof, criw o ffrindiau anystywallt," meddai wrth geisio disgrifio'r nofel mewn brawddeg.

    Dywedodd iddi fod ar y gweill ers blynyddoedd ac i Twm Miall ei annog yn aml i barhau 芒'r nofel yn dilyn ei ddyddiau yn y carchar.

    "Dyma gychwyn ar y llyfr bymtheng mlynedd yn 么l tra yn y carchar. Yn ystod y cyfnod hwnnw roeddwn I wedi darllen Cyw Haul a Chyw Dol, nofelau oedd wedi eu hysgrifennu mewn iaith gyffredin ac roeddwn wrth fy modd," meddai.

    "Dwi'n cofio meddwl y baswn i'n gallu ysgrifennu deunydd tebyg.

    "Bu Twm Miall yn hwb mawr imi yn anfon nofelau imi yn y carchar a fy annog i ysgrifennu.

    "Cofiwch iddi fod yn fy mhen ers tro, ac roedd yn rhaid ei chael hi allan o fy system."

    Mae Dewi Prysor, yn disgrifio ei awch i ysgrifennu nofel fel cael praidd o bryfaid genwair yn symud yn ei ben ac yntau yn dyheu am gael eu chwydu allan ar bapur!

    Pleser pur
    "Dwi wedi cael pleser pur yn ysgrifennu'r nofel, mae'n swydd ddelfrydol cael sgwennu hiwmor drwy'r dydd, bob dydd.

    "Cael ysgrifennu am droeon trwstan a mwynhau pob eiliad o fy ngwaith. Yn sicr, mae o'n bleser pur. Ysgrifennu ydi fy myd i, ac o'r diwedd dwi mor falch bod y cwch ar y d诺r," meddai.

    Ac mae eisoes wedi cael canmoliaeth ei arwr Twm Miall a ddywedodd:
    "Dyma nofel fendigedig o ddi-chwaeth a dyma fro'r chwareli fel nas gwelwyd hi erioed o'r blaen. Mae Prysor yn awdur newydd, grymus sy'n mynd i gorddi dyfroedd tawel llenyddiaeth Gymraeg am flynyddoedd i ddod. Melys moes mwy."

    Hollol ddychmygol
    Er bod cymeriadau Brithyll yn ymddangos yn fyw ac yn real iawn dywed Dewi mai hollol ddychmygol yw'r rhan fwyaf ohonynt.

    "Ond mae 'na wastad elfennau o gymeriadau go iawn ynddyn nhw. Fel y gwelir wrth ddarllen y llyfr mae nifer o gymeriadau ymylol yn seiliedig ar gymeriadau go iawn, yn enwedig yr hen stejars. Ac mae nifer fawr o'r sefyllfaoedd wedi datblygu o gnewyllyn sefyllfa go iawn," meddai.

    Mae'n cyfaddef iddo ei chael hi'n anodd ysgrifennu ar adegau ac iddo ddod i gredu bod yna'r fath beth a 'bloc ysgrifennu'.

    "Dwi mwy neu lai yn ysgrifennu drwy'r dydd bob dydd ond yn wir weithiau gall rhywun eistedd i lawr a dim byd yno.

    "Yr adeg honno byddaf yn mynd am beint a chael fy mwydo gan y gymuned. Cael straeon newydd a chael rhyw fath o recharge," meddai.

    Smocio d么p
    Gobaith yr awdur yw y bydd y llyfr yn apelio at yr union fath o bobl sy'n cael eu darlunio ynddo! Pobl werinol, wrthryfelgar, sy'n byw ar ymylon cymdeithas - yn yfed, yn smocio d么p ac yn anwybyddu'r gyfraith.

    Gydag Alun Jones noson cyhoeddi'r gyfrol Meddai, "Mae angen torri yn rhydd o'r arfer diogel o sgwennu at leiafrif diwylliedig a'u Cymraeg safonol a'u parchusrwydd cartrefol eisteddfodol. Rhaid i lenyddiaeth Gymraeg fod yn berthnasol i arferion Cymry Cymraeg heddiw.

    "Dwi'n gobeithio fy mod wrth ysgrifennu Brithyll wedi adlewyrchu beth yw gwir natur bywyd, arferion a hiwmor cymdeithas gyfoes Gymraeg gan dorri ffiniau ffug-barchusrwydd."

    Mae Dewi Prysor, sy'n byw yn Llan Ffestiniog gyda'i deulu, eisoes wedi cyhoeddi casgliad o limrigau, a pherfformiwyd hanes ei gyfnod yn y carchar gan Lwyfan Gogledd Cymru.

    Ac yn dilyn lansiad llwyddiannus nos Iau ddiwethaf dywed Dewi fod y pryfaid genwair yn cyniwair eto yn ei ben - arwydd sicr fod dilyniant ar y gweill!

  • Cyhoeddir Brithyll gan y Lolfa. 拢7.95.

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Holi Dewi Prysor

  • Limrigau Dewi Prysor - adolygiad

  • DW2416 - adolygiad


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy