主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Cofio Pwy Ydw I
Cymeriad crwn a gofiodd eiriau'i dad
  • Adolygiad Gwilym Owen o Cofio pwy Ydw I gan Huw Ceredig gydag Aled Islwyn. Gwasg y Dref Wen. 拢9.99


  • Na, does yna ddim prinder pobl sydd wedi mynd ati i hwfro eu calonnau a'u heneidiau ar gyfer marchnad llyfrau Cymraeg y Nadolig hwn.

    Mae bron pob gwasg wedi llwyddo i ddenu rhywun neu rywrai i baratoi hunangofiant a'r gyfrol o Wasg y Dref Wen ydi, Cofio Pwy Ydw I sy'n dilyn hynt a helynt bywyd yr actor, Huw Ceredig.

    Bu'r gwrthrych yn ddigon ffodus i gael cymorth ac arweiniad y llenor Aled Islwyn i baratoi'r gyfrol ar gyfer ei chyhoeddi; nid bod hynny'n feirniadaeth o gwbl oherwydd stori Huw Ceredig yw hon ac mae ei gymeriad yn pefrio drwyddi.

    Mae'r ddau i'w llongyfarch ar eu camp yn y cyfeiriad hwn.

    Clawr y llyfr Rhaid imi gyfaddef nad yw actorion yn bobl yr ydw i wedi gallu closio atyn nhw dros y blynyddoedd. Mae natur eu galwedigaeth, o anghenraid mae'n debyg, yn eu gwneud yn bobl gorhyderus, hunanol ac ar adegau yn hynod arwynebol.

    Ond wedi darllen cyfrol Huw Ceredig rydw i'n dechrau ailfeddwl gan ei bod yn enghraifft ardderchog o ysgrifennu gonest a hunan feirniadol.

    Y gwych a'r gwachul
    O'r dechrau i'r diwedd bu'r awdur yn barod iawn i ddisgrifio'r gwych a'r gwachul yn ei yrfa ddiddorol.

    Gallai yn hawdd fod wedi cyfyngu ei stori i lwyddiannau a gafodd ar daith bywyd - ac mae digon o'r rheiny i lenwi cyfrol gyfan - ond nid felly y gwnaeth.

    Mae'n dewis rhoi ei hun yn y glorian ac ar fwy nag un achlysur yn ei gael ei hun yn brin - fel pob un ohonom o benderfynu bod yn gwbl onest.

    Hynny sy'n gwneud cyfrol Huw Ceredig yn gofiadwy - nid pawb fyddai'n cyfaddef iddo orfod gadael Coleg Llanymddyfri a Choleg y Drindod dan gwmwl ond mae'n dewis dweud y cyfan.

    Lle anghysurus
    Ac mae'n werth nodi yn y fan hon fod lle i gredu nad oedd ysgol breifat yn Llanymddyfri yn lle cysurus iawn i Gymry Cymraeg Sir Gaerfyrddin yn ystod teyrnasiad y Dr G O Williams yn brifathro - g诺r a ddaeth wedyn yn Archesgob Cymru.

    Oni chafodd Dafydd Evans, mab y diweddar Dr Gwynfor Evans, yn 么l ei dystiolaeth ei hun mewn print, brofiadau tebyg iawn i'r rhai a gafodd Huw Ceredig?

    Ac efallai mai'r arhosiad yn Llanymddyfri fu'n gyfrifol am droi'r actor yn fwy o rebel nag y byddai wedi bod petai heb fod yno!

    Mae'n gwestiwn diddorol - ond wedi dweud hynny efallai wedyn na fuasem wedi cael y cymeriad difyr a luniodd y gyfrol hon.

    Chwerthin a thorcalon
    Afraid manylu'n ormodol ar wahanol agweddau'r stori gyda'i chymysgedd o'r difrifol a'r diddan, y dirdynnol a'r diawledigrwydd a'i henghreifftiau o hiwmor a chwerthin ac o dristwch a thorcalon.

    Ac mae Huw Ceredig yn llwyddo i osod y cyfan mewn ffr芒m geiriau sy'n gwneud y darllen yn gofiadwy.

    A'r hyn sy'n fwy cyfrifol na dim am hynny yw nad yw y rhan fwyaf o'r amser yn chwilio am ganmoliaeth na chydymdeimlad.

    Mae hynny'n arbennig o wir pan yw'n s么n am ei amrywiol honedig wendidau fel yfed a gamblo - ac ar ei gyfaddefiad ei hun y mae hynny.

    Cael y gorau arno
    Ond wedi dweud hynny, rhaid cyfaddef ei fod weithiau yn gadael i'w ragfarnau gael y gorau arno a'r adeg honno y mae, yn anffodus, yn anghofio geiriau ei dad pan oedd Huw yn gadael am Lanymddyfri i "gofio pwy ydi o".

    Cyfeirio yr ydw i at rai cameos byr o rai o'i gyd actorion yn yr opera sebon, Pobol y Cwm.

    Dydw i ddim am enwi'r criw sy'n cael peltan - gall y darllenwyr ddod i'w casgliad eu hunain - ond o'm rhan i hen gornwydydd bach poenus a dianghenraid yw'r rhain mewn cyfanwaith o sgrifennu cytbwys.

    Agoriad llygad
    Ar y llaw arall, mae cael ei ddadansoddiad o wleidyddiaeth mewnol yr opera sebon yn agoriad llygad hyd yn oed i mi a fu'n gweithio i'r 主播大秀 yn Llandaf ac mae ei ymateb i'r newyddion ei fod yn mynd i gael y fwyell fel cymeriad yn ddrama ynddo'i hun.

    Mae'n amlwg yn 么l yr hyn a ddywedodd wrth olygydd y rhaglen iddo anghofio cyngor ei dad unwaith yn rhagor.

    Ac yn 么l a ddywed yr hunangofiant dydy o ddim wedi maddau i'r rhai hynny a benderfynodd ei dynged.

    Cael pleser
    Ydi, mae hon yn gyfrol y cefais bleser o'i darllen a bu'n fodd i'm perswadio am y tro cyntaf erioed nad yw pob actor yn hunangyfiawn, gorhyderus a hunanol!

    Ac mae hynny i'w briodoli i'r ffaith fod y brawd Ceredig yn ddyn crwn sydd wedi troi mewn cylchoedd y tu allan i goc诺n ffuantus y lyfis.

    Profodd fywyd llawnach na'r rhelyw gyda'i si芒r o lawenydd a llwyddiant ac o ergydion a thristwch.

    Ond goroesodd y cyfan gyda chymorth y geiriau yn nheitl y llyfr gan lwyddo yn amlach na pheidio i barchu geiriau ei dad a "chofio pwy ydi o".
    Ewch, prynwch a darllenwch - a dwi'n si诺r y mwynhewch.
  • Gweler Gwales

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Pobol y Cwm


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy