主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Hoff Gerddi Digri Cymru
Wyneb gwerth mil o bunnau yn chwerthin ar y clawr
Ni feddyliodd Mary Jones o'r Felinfach erioed y byddai sgets a wnaed ohoni mewn Noson Lawen fyth yn gweld golau dydd.

Ond y Nadolig hwn mae Mary i'w gweld yn gwenu arnom oddi ar clawr blodeugerdd o farddoniaeth Gymraeg.

Mae'r llun a baentiwyd gan Meirion Jones yn dangos Mary a fu'n gogyddes yn Ysgol Gynradd Trefilan, Talsarn, yn chwerthin o waelod bol ar glawr Hoff Gerddi Digri Cymru a gyhoeddir gan Wasg Gomer.

Clawr y llyfr "Mewn Noson Lawen ar yr hewl o Dalsarn i Langeitho oeddwn i, ond ma' hynny'n bownd o fod rhyw chwe blynedd yn 么l nawr," meddai Mary.

"Wyddwn i ddim am y peth tan i'm brawd yng nghyfraith fynd 芒 fi i weld y llun yn siop Rhiannon un diwrnod.

"Fues i'n siarad da Meirion wedyn, a dyma fe'n egluro pam y tynnodd e'r llun. 'Weles i chi'n chwerthin,' medde fe, 'a fedrwn i ddim peidio tynnu'ch llun!'"

Serch hynny, ni wyddai Mary ddim oll am fodolaeth llun Meirion - sy'n fab i'r arlunydd o Aberteifi, Aneurin Jones - ar glawr y llyfr tan yn ddiweddar iawn.

Profiad od
"Ffoniodd Goronwy [Jones, Perchennog Siop y Smotyn Du yn Llambed] a gofyn i fi fynd fyny i'r lansiad. A fe wedodd e ei fod wedi gweld y llun ohona i. Yn lle, holes inne. Ar glawr llyfyr medde fe!"

Dywedodd fod y profiad yn un od i ddechrau.
"Ond wy'n dechre cyfarwyddo 芒'r peth nawr a phan welodd e'r clawr, wedodd fy mab wrtho i, 'Wel mam fach, y'ch chi yn y limelight nawr!'"

Ond rhaid i'r rheswm pam yr oedd yn chwerthin mor harti aros yn ddirgelwch yn anffodus.

"Peidiwch 芒 gofyn wrtho i, wy'm yn cofio! Wy'n hopeless am gofio j么cs, wy'n ofnadwy, sai'n cofio dim un ohonyn nhw!" meddai.

Ond mae'n werth gwybod fod y darlun gwreiddiol bellach wedi ei brisio'n 拢1,300 ond go brin y bydd Mary yn ei brynu'n anrheg Nadolig iddi hi ei hun.

"Mowredd, alla i byth 芒'i ffordo fe!" chwarddodd. "Ges i'r llun mawr o'r clawr a ddefnyddiwyd yn y lawns pwy nosweth - fe fframia i hwnnw!"

Pob math o gerddi
Golygydd y gyfrol, Bethan Mair, sy'n gyfrifol am y clawr a daeth hi o hyd i'r llun ar wefan yr arlunydd pan yn chwilio am ddelwedd addas ar gyfer y llyfr.

Mae'r gyfrol yn cynnwys pob math o gerddi doniol gan gynnwys rhai am gymeriadau fel Matilda, cerddi chwarae ar eiriau ac odli slic a hen ffefrynnau gan feirdd yn amrywio o Dafydd ap Gwilym i Geraint Lovgreen, W. R. Evans a Dewi Pws.

  • Hoff Gerddi Digri Cymru. Golygydd, Bethan Mair. Gwasg Gomer, 拢5.99

  • Cysylltiadau Perthnasol

  • Adolygiad o'r llyfr


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy