主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Mil a mwy o Ddyfyniadau
Casgliad sy'n plesio o ddyfyniadau

  • Mil a mwy o Ddyfyniadau gan Edwin C Lewis. Gomer. 拢19.99.
  • Adolygiad Glyn Evans.


    Mae Mil a Mwy o Ddyfyniadau gan Edwin C Lewis, yn gasgliad eang ei ap锚l mewn rhwymiad cadarn ar gyfer defnydd cyson.

    Clawr y llyfr Fel yr eglura'r awdur yn ei ragair mae rhai o'r dyfyniadau "yn hen a chyfarwydd, rhai yn hen ac anghyfarwydd a rhai yn gwbl newydd" a'r rheini yn amrywio o'r difyr a'r doniol i'r dyrys a dwys o ran ysbryd.

    Gyda phob dyfyniad mae Edwin C Lewis yn nodi pwy ddywedodd beth ac ymhle. Er enghraifft:

    "Beth yw ein tasg? Gwneud Prydain yn wlad deilwng i arwyr fyw ynddi," gan Lloyd George mewn araith yn Wolverhampton yn 1918.

    A'r dyfyniad yna yn dod a ni at un arall o nodweddion y gyfrol - nid dyfyniadau Cymraeg yn unig yw'r cynnwys ond rhai o ieithoedd eraill hefyd gyda'r gwreiddiol yn ymddangos dan y trosiad Cymraeg - "What is our task? To make Britain a fit country for heroes to live in."

    Mae rhai o'r dyfyniadau hyn yn rhai sy'n dra chyfarwydd yn barod - "Cyrhaeddais, gwelais, gorchfygais - Veni, vidi, vici" I诺l Cesar er enghraifft ac yn rhai sydd i'w gweld mewn sawl un o'r myrdd o gasgliadau dyfyniadau a gyhoeddwyd yn y Saesneg dros y blynyddoedd.

    O'r herwydd ni all rhywun beidio 芒 holi yngl欧n 芒 phwrpas eu cynnwys yma lle maen nhw'n mynd a lle dyfyniadau Cymraeg nad ydynt i'w gweld mewn lleoedd eraill.

    Yn sicr fe fyddwn i wedi fy mhlesio yn well gyda mil a mwy o ddyfyniadau Cymraeg yn unig o gofio pa mor llwm yw hi arnom o ran cyfrolau.

    Yr unig ddrwg gyda rheol mor haearnaidd a hynny yw y byddem yn colli hefyd ddyfyniadau bachog fel "Diwerth yw stori heb awdur" a "Dw锚d ychydig ond dw锚d e'n dda," o'r Wyddeleg!

    I bawb
    Am ei gasgliad dywed yr awdur - athro a phrifathro wrth ei alwedigaeth, a'i wreiddiau yng Nghwm Tawe:

    "Adlewyrcha llawer o'r casgliad ran o gefndir y diwylliant cyfoethog a berthyn i bob Cymro a Chymraes: iaith syml hwiangerddi, rhigwm, c芒n werin a thriban; parabledd hen bennill; doniolwch ac arabedd sawl dywediad, dilysrwydd dihareb drawiadol; harddwch barddoniaeth a rhyddiaith afaelgar; addasrwydd gweddi gynnil, mawredd emyn addolgar ac ysbrydoliaeth geiriau'r Ysgrythur L芒n."

    Fe'i bwriadwyd meddai ar gyfer ysgolion, coleg a chartref "a bydd o ddefnydd cyson i bawb sy'n hoffi darllen," meddai'n ffyddiog.

    Mae wedi dosbarthu'r dyfyniadau dan naw pennawd: Y Flwyddyn a'i Thymhorau; Cynghorion a Sylwadau; Cymru a'i Phethau; Hen benillion, caneuon gwerin, hwiangerddi a rhigymau; Y Beibl; Emynau; Gwedd茂au a dyfyniadau am Grefydd.

    Rwy'n credu y byddai rhai wedi dymuno dosbarthu cyfyngach a mwy penodol - ac mae hynny wrth gwrs yn un o broblemau mawr y sawl sy'n mynd ati i lunio'r cyfrolau hyn.

    Yr un modd, penderfynu rhestru dyfyniadau dan enwau awduron ynteu dan bynciau ac mae'n ddewis poblogaidd cynnwys y dyfyniadau dan enwau awduron.

    Ond mae hynny wedyn yn galw am fynegai hynod o fanwl i helpu'r darllenydd ddod o hyd i sylwadau ar bynciau penodol.

    Mynegai manylach nag a geir yn y gyfrol hon er enghraifft.

    Bylchau
    Os oes bai neu rwystredigaeth yngl欧n 芒'r gyfrol hon y ffaith bod bylchau yn y mynegai weithiau yw hynny.

    Er enghraifft, er bod "gwynt" yn y mynegai nid yw'n ein chwythu at "Mae'th chwiban leddf drwy dwll y clo" ac yn y blaen o gerdd Y Gwynt, R Williams Parry , pedwerydd dyfyniad y gyfrol.

    Ac er y gellid dod o hyd i "Mi ganaf a'r ysbryd, ond mi ganaf a'r deall hefyd" o edrych dan 'deall' ac 'ysbryd' nid fydd y sawl sy'n edrych dan 'canu' yn cael ei gyfeirio at y dyfyniad.

    Ac ni fyddai edrych dan 'Coleg' nac 'Addysg' yn eich arwain at "Y wir Brifysgol y dyddiau hyn yw casgliad o lyfrau."

    Yr un modd; dim ond o edrych dan 'disgwyl' y deuir o hyd i, "Y disgwyl mwyaf sy'n siomi fwyaf" er y byddai'n rhesymol gweld croesgyfeiriad dan 'siom' hefyd.

    Bwlch mwy anfaddeuol yw peidio cynnwys y gair 'Afallaon' fel croesgyfeiriad at "Draw dros y don mae bro dirion" ac nid yw 'stori fer' yn ein harwain at ddiffiniad T H Parry-Williams o'r cyfrwng hwnnw.

    Ond pethau sy'n peri rhywfaint o anhwylustod ymarferol yw'r rhain - fel arall mae'r gyfrol yn rhagorol ddigon o ran mynegai awduron ac o ran ei dewis o ddyfyniadau.

    Bydd yn plesio'n eang er mai dewis un person o ddyfyniadau sydd yma.

    Hyd y gall rhywun gasglu o'r trosiadau sydd yma o'r Saesneg mae'r cyfieithu i'r Gymraeg yn gwbl dderbyniol; er mor anodd y gall hynny fod gydag ymadroddion bachog sy'n haeddu ennill eu lle mewn cyfrol fel hon.

    Braf hefyd medru rhoi enw wrth ddyfyniadau sydd mor gyfarwydd y maent wedi tyfu'n ddiarhebion bron fel "Mae mistar ar Mistar Mostyn".

    Ychydig iawn, iawn, o lithriadau argraffu sydd yna gyda "Nid heb ei fai mor (sic) doethaf" yn eithriad prin.

    Rhaid dweud hefyd y bydd darllenwyr arferol llyfrau Cymraeg yn gweld pris hon yn ddrutach na'r hyn maen nhw wedi arfer ei dalu - ond ochr arall y geiniog honno yw bod yma oriau lawer o ddifyrrwch ac o fudd i'w cael o'r llyfr. Ac fe fyddai'n gwneud anrheg benigamp.

  • Cliciwch YMA i ddarllen adolygiad i Geiriau Gorfoledd a galar



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy