主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Mae Llygaid gan y Lleuad
Nofel dditectif sy'n berthnasol

  • Adolygiad John Gruffydd Jones o Mae Llygaid gan y Lleuad gan Elin Llwyd Morgan. Y Lolfa. 拢7.95 272 tudalen.

  • Tachwedd 2007

    Dyma ail nofel Elin Llwyd Morgan ac yn sicr mae ei datblygiad fel nofelydd yn amlwg yn y gyfrol yma sy'n nofel hynod o afaelgar o'r paragraff agoriadol i'r diwedd.

    Ar yr wyneb nofel dditectif sydd yma a fe gyflwynir sawl cymeriad sy'n cyfleu agweddau yr heddlu at Gymru a Chymreictod - ond mae yma lawer iawn mwy na hynny.

    Clawr y llyfr

    O ran strwythyr fe welais beth tebygrwydd i waith dau awdur poblogaidd Saesneg, Ian Rankin a Peter Robinson yn eu nofelau am y ditectif Rebus ac Inspector Banks, lle defnyddir y gwaith nid yn unig i gyfleu stori gref ond hefyd i roi agweddau cymdeithasol a hyd yn oed i basio barn ar gyflwr cymdeithas fel y mae.

    Ac mae lle i hynny mewn unrhyw nofel gyfoes.

    Sawl ongl
    Fe edrychir ar fywyd o sawl ongl ac mae cefndir Pwylaidd Ielena, y prif gymeriad, yn ddiddorol a chyfoes o gofio'r nifer o Bwyliaid sy'n byw yng Nghymru bellach

    Mae brwydr yr iaith yma hefyd a'r tensiwn mae hynny'n greu yn y gymdeithas ac fe gawn gipolwg ar fudiadau ymylol y frwydr honno wrth i Ielena a'i chariad fynychu un cyfarfod o fudiad o'r fath.

    Wrth ymdrin ag awtistiaeth mewn plentyn fe ddaw profiad yr awdures fel mam i blentyn o'r fath yn amlwg i'r wyneb ac fe ymdrinir a hynny mewn modd sensitif sydd nid yn unig yn magu cydymdeimlad ond sydd hefyd yn dadlennu rhwystredigaeth cyflwr o'r fath.

    Mae'r cynildeb teimladwy wrth inni ddilyn Steff o fewn cylch ei deulu yn un o gryfderau amlwg y nofel.

    Gwrthdaro rhwng cymeriadau
    Ond y gwrthdaro rhwng cymeriadau canolog a'r tensiwn rhyngddynt sy'n gwneud y gwaith mor ddarllenadwy ac fe gaiff hynny ei hybu gan ddeialog naturiol sydd nid yn unig yn rhoi lliw ar gymeriadau ond sydd hefyd yn cario'r stori ymlaen yn fywiog, er i mi ar brydiau deimlo nad oedd angen geiriau mor amrwd i gyfleu'r tensiwn hwnnw.

    Yn 么l Steff, dim ond y lleuad sy'n gweld y cwbl, ond fe lwyddodd Elin Llwyd Morgan i gyfleu darlun o gymdeithas yn ei gwendidau a'i chryfderau a hynny mewn ffram sydd yn nofel o fewn nofel ac mae hynny'n dangos crefft a dawn.

    Y nesaf
    Fe edrycha'i ymlaen yn eiddgar am y gyfrol nesaf, ac efallai y daw cyfres am y Ditectif Insbector Iestyn Morgan.

    Rhaid hefyd canmol diwyg y gwaith a chlawr apelgar Sion Ilar.

    Cysylltiadau Perthnasol
    Holi Elin Llwyd Morgan

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy