主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Tinboeth
Straeon erotig gan naw o ferched
  • Adolygiad gan rywun o Tinboeth - 10 o Straeon Erotig gan ferched; Bethan Gwanas, Caryl Lewis, Fflur Dafydd, Meg Elis, Eigra Lewis Roberts, Gwyneth Glyn, Sian Northey, Lleucu Roberts a Gwen Lasarus. Golygydd, Bethan Gwanas. Gwasg Gwynedd. 拢5.95.


  • Yn naturiol ni fyddaf yn rhoi fy enw wrth yr adolygiad hwn er mwyn bod yn rhydd i ddweud yr hyn a fynnaf.

    Ar ben hynny, dydw i ddim eisiau i Mam, Nain, hen gariadon na hyd yn oed y g诺r neu'r wraig wybod fy mod yn darllen y math yma o lyfrau.

    Clawr y llyfr Heb os, bydd awduron straeon erotig Tinboeth wrth eu boddau gyda mhenderfyniad - gan nad ydynt hwythau ychwaith am gyfaddef pwy piau pa stori.

    Ac er i Bethan Gwanas ei hun ddweud y byddai hi yn gwbl hapus arddel ei stori gerbron y genedl, dywed :

    "Ond roedd rhai o'r lleill yn teimlo'n gry tasan nhw'n gallu bod yn ddienw, mi fysan nhw'n fwy rhydd i sgwennu. Roedd rhai ohonyn nhw ofn pechu eu mamau, eu neiniau, neu hyd yn oed eu gw欧r efallai!"

    Rwy'n deall yn iawn ac fe fydd hi gymaint haws i adolygydd hefyd fynegi barn heb ddatgelu pwy yw!

    Heipio mawr
    Gallai'r heipio a fu ar y gyfrol hon yn hawdd roi'r argraff fod yma dorri tir newydd go fentrus yn y Gymraeg ac i'r iaith fod yn hesb o sgrifennu erotig tan ymosodiad Y Naw fis Tachwedd 2007.

    Dydi hynny ddim yn wir o gwbl a does neb yn gwybod hynny'n well nag Eigra Lewis Roberts, y fwyaf profiadol o'r 'Tinboeth Naw' - yn brifardd ac yn brif lenor cenedlaethol.

    Yr oedd hi'n dal yn y coleg ym Mangor, a rhai o'r gweddill heb eu geni, pan gyhoeddodd stori erotig yn Y Cymro am ddau yn caru'n noeth ar yr aelwyd o flaen y t芒n.

    Ac mae'n dweud rhywbeth nad oes dim yn y gyfrol hon yr holl flynyddoedd yn ddiweddarach sy'n fwy erotig fentrus na'r stori honno a gyffr么dd ac a gynhyrfodd ddarllenwyr Y Cymro yn y Pumdegau.

    Na, hyd yn oed yn y Gymraeg mae i erotica ei bedigri.

    Myn duw
    Ie, erotica - celfyddyd rywiol ei natur a enwyd ar 么l Eros, duw serch a chwant y Groegiaid, mab Aphrodite, cariad Psyche a thad Hedone. Myn duw mi a wn y daw.

    Erotica - amddiffynfa olaf y pornograffydd, achos os gallwch argyhoeddi pobl fod digon o gelfyddyd a mireindra yn eich pornograffi mae'n dderbyniol.

    Ac mae o ym mhobman gan gynnwys y Beibl gyda Chaniad Solomon yr enghraifft y mae pawb yn cyfeirio ati gan gynnwys y rhai nad ydynt erioed wedi darllen y gwaith hwnnw a drodd bomgranadau yn wrthrychau nwyd.

    A sawl gwaith, ers cyhoeddi Tinboeth y pwysleisiwyd fod y llinell rhwng erotica a phorograffi yn un denau iawn, iawn, gan ddibynnu'n llwyr ar chwaeth - nid chwant - bersonol.

    Ond yn achos Tinboeth, fodd bynnag, mae'r llinell yn un drwchus i ryfeddu gan mai diniwed a chymedrol iawn y disgrifiadau rhywiol yn y gyfrol.

    Yn wir, mae sawl stori nad ydynt yn haeddu'r disgrifiad erotica o gwbl ac mae rhywun yn poeni'n fawr fod awduron y rhai hynny yn teimlo fod yn rhaid iddynt gelu eu hymdrechion rhag eu gw欧r a'u neiniau!

    Saith o awduron 'Tinboeth' Ar ben hynny, mae ambell un arall yn siomi hefyd fel stori o gwbl.

    Haeddu eu lle
    Ond os yw'r straeon i gyd yn brin o fod yn wir erotig mae ambell un yn ddigon derbyniol fel straeon byrion ac ni ellir dadlau ag Elfyn Pritchard a gyfeiriodd - ar Wythnos Gwilym Owen, 主播大秀 Radio Cymru - at Prrr a Jasmin ac Eiodin fel straeon a fyddai'n dderbyniol mewn unrhyw gasgliad ac a Gwen Pritchard Jones a ychwanegodd Dwy at y rheini.

    Ac, yn wir, mae Dwy am garwriaeth ffermwr er yn un hawdd rhagdybio'i diwedd yn stori ddigon difyr ac ysgafn - ond ei herotica yn ymylol y hytrach nag yn ganolbwynt.

    Ar sail ei gwreiddioldeb fe fyddwn i'n ychwanegu Pwdin at y tair - ond stori sy'n nes at faswedd nag erotica yw hon; am noethlymunwr a'i wraig yn gwahodd dau o'r un anian draw am swper.

    Ond does yr un o'r straeon yn beth fyddech chi'n i alw yn wirioneddol erotig lle mae'r awdur yn arwain y darllenydd yn fwythus rywiol yn hytrach na disgrifio'n ddigon ffwrdd a hi ar adegau ymgiprys cnawdol digon sydyn.
    Pum munud o bleser.

    Ond fel y dwedodd Elfyn Pritchard, eto, cannwyll sy'n llosgi'n araf yw erotica nid tanllwyth yn fflamio.

    Dim amrywiaeth
    Ac o fod wedi cyhoeddi'n ddienw mae rhywun yn synnu hefyd na fanteisiodd Y Naw ar eu cyfle i fynd rywfaint dros ben llestri ac i arbrofi gyda gwahanol amrywiadau rhywiol. Prin gyfeiriad sydd yma at erotica hoyw er enghraifft heb son am ffetisiau.

    Efallai bod cynildeb yn bopeth ond nid mewn erotica.

    Geiriau anaddas
    Yr oedd yn syndod i mi hefyd na sylweddolodd mwy nag un o'r Naw profiadol bod yna eiriau yn y Gymraeg nad oes iddyn nhw naws erotig o gwbl ac na ddylid eu defnyddio yn y cyd-destun erotig yn union fel mae rhai geiriau yn gwbl anfarddonol.

    Mae'r gair 'tinboeth' ei hun yn un o'r rheini. Er yn air rhagorol i'w bwrpas mae'n rhy amrwd i fod yn erotig ac fe fyddwn yn ychwanegu nicer, thong; ar fy liwt fy hunan, putain a rhych - mewn perthynas 芒 bronnau - at fy rhestr o eiriau anerotig yn y gyfrol hon!

    Ta beth, nid yn ei rhywioldeb na'i hymdriniaeth gnawdol mae pechod y gyfrol ond yn y posibilrwydd y bydd casgliad o straeon digon cyffredin a didramgwydd yn tynnu mwy o sylw na chyfrolau eraill llawer iawn mwy haeddiannol a gyhoeddir ar gyfer y Nadolig 2007.

    Ac erbyn meddwl tybed nad adolygydd dienw sydd ei angen i'w chloriannu beth bynnag - ond swyddog safonau masnach i ymchwilio a yw hi'n cyflawni yr hyn a ddywedir ar y tin - neu efallai y byddai'n well sillafu hwnna yn tun.
    Dydw i ddim yn meddwl ei bod, gwaetha'r modd, i'r rhai fydd yn heidio amdani am rialtwch a goglais rhywiol.

  • I glywed Bethan Gwanas yn trafod y gyfrol ac Elfyn Pritchard a Gwen Pritchard Jones yn pwyso a mesur cliciwch YMA


  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy