主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Dalen - Straeon stribed yn y Gymraeg
Marchnad sydd ar gynnydd yng Nghymru
Yng Nghymru y duedd yw i feddwl am straeon stribed fel difyrrwch i blant yn unig ond y mae un cyhoeddwr yn ein prysur argyhoeddi y gall 'llyfrau comics' fod yn ddeunydd darllen penigamp i oedolion hefyd.

Yn hynny o beth yr ydym ymhell ar 么l darllenwyr ar y Cyfandir yn 么l Alun Ceri Jones a sefydlodd y cwmni cyhoeddi Dalen rhyw bum mlynedd yn 么l.

Alun Ceri Jones Dywedodd fod traddodiad cryf a chyfoethog o ddarllen llyfrau straeon stribed yn enwedig yn y Ffrangeg.

Trosiadau o'r llyfrau hynny yw'r rhan fwyaf o'r llyfrau a gyhoeddir gan Dalen - yn amrywio o stori gowboi i chwedlau am y Brenin Arthur yn ogystal 芒 chyfrolau ar gyfer plant.

"Yn y Ffrangeg mae marchnad anferth i'r math yma o lyfrau. Maen nhw'n gyffredin iawn yn Ffrainc ac yng Ngwlad Belg," meddai.

"Ond yng Nghymru yn y broses o greu marchnad ydym ni gan nad oes traddodiad o ddarllen straeon stribed ymhlith oedolion," meddai.

Ond ychwanegodd i'r ymateb i gyhoeddiadau Dalen fod yn hynod galonogol hyd yn hyn.

"Ydyn, maen nhw yn cael derbyniad yng Nghymru. Dydyn nhw ddim yn best sellers ond maen nhw'n dechrau ffeindio eu marchnad.

"Yn wahanol i Brydain ac America mae straeon stribed wedi bod yn rhan ganolog o ddeunydd darllen Ffrangeg ers diwedd yr Ail Ryfel Byd. Yng Nghymru mae'r diddordeb yn cynyddu. Dydy ni ddim yn disgwyl llwyddiant dros nos ond mae'r peth fel caseg eira yn casglu momentwm mwya'n byd o lyfrau sydd ar gael," meddai.

Mae ei ddiddordeb ef yn y cyfrwng yn mynd yn 么l i ddyddiau ysgol yn Ysgol Rhydfelen ger Pontypridd.

Stribed o 'Llio - y Dyddiadur bach Disgybl yno oedd o pan ymddiddorodd gymaint yn straeon Asterix y penderfynodd eu trosi o'r Ffrangeg i'r Gymraeg ac yn 1976 cyhoeddodd Gwasg y Dref Wen y cyntaf o'r trosiadau hynny a chyhoeddwyd rhagor yn rheolaidd wedyn tan 1981.

"Yn Saesneg oeddwn i'n eu darllen gyntaf," meddai Alun Ceri Jones. "Ond wedyn troi at y rhai Ffrangeg gwreiddiol yn llyfrgell yr ysgol a sylweddoli beth oedd cyfoeth y llyfrau hyn ac wedyn mynd ati i'w cyfieithu i'r Gymraeg.

"Fe ddysgais i lot o fy Ffrangeg drwy wneud hynny," meddai.

I'r brifysgol yn Llanbedr-pont-Steffan yr aeth Alun Ceri Jones o Rydfelen a graddio yn y Gymraeg gan astudio wedyn y chwedlau Arthuraidd yn y cyfnod cyn Sieffre o Fynwy.

Dim rhyfedd felly mai llyfr stribed a gyhoeddwyd yn Ffrainc yn wreiddiol yw'r fersiwn o chwedl Arthur a gyhoeddir gan Dalen. Wedi ei gyfieithu gan Alun Ceri Jones a Dafydd Jones sydd yn cydweithio ag ef ar lawer o'i fentrau.

Mae'r ddau yn prysuro i bwysleisio mai llyfr ar gyfer "pob oed" yw hwn ac nid ar gyfer plant yn unig. "Mae'r iaith yn wahanol yn y llyfrau stribed ar gyfer pobl h欧n o gymharu a'r rhai plant - mae'n fwy aeddfed a'r gystrawen yn fwy clasurol," meddai Alun Ceri Jones.

Ond yn yn yr holl gyhoeddiadau mae ansawdd yr arlunio o'r radd flaenaf gan arlunwyr blaenllaw y cyfrwng.

Gyda chymaint o lyfrau stribed yn cael eu cyhoeddi ar y Cyfandir mae'r safon yn amrywiol ond dywedodd Alun Ceri Jones fod Dalen yn ofalus i ddewis ond y goreuon a'r mwyaf safonol ran arlunwaith ac o ran storio.

Ymhlith llyfrau diweddaraf Dalen mae:
Clawr Arthur
  • Chwedl Arthur - Cainc Myrddin Wyllt a Chainc cadlywydd y Brythoniaid sy'n cynnig "darlun byw, anturus, gwaedlyd ac urddasol" o hanesion cynnar yr hen Frythoniaid gydag Alun Ceri Jones a Dafydd Jones wedi ymgynghori ag arbenigwyr iaith a hanes cynnar Cymru er mwyn sicrhau cywirdeb. 拢9.99

  • Llio - Y Dyddiadur Bach. Clawr Llio"Yn giwt ac yn binc, mae dyddiadur lliwgar Llio yn llawn o'r hyn mae'n ei deimlo am serch, ei ffrindiau, ei chath fach Pws, a'i mam," meddai'r cyhoeddwyr am ddyddiadur merch ifanc yn ei harddegau sy'n ceisio rhoi trefn ar ei bywyd. Mae pob dalen yn y llyfr hwn yn 'stori' gyflawn o fewn y brif stori. 拢9.99.

  • Lewsyn Lwcus: Y Goets Fawr - Clawr Lewsyn Stori am y cowboi Lewsyn Lwcus yn gwarchod coets fawr yn ystod ei thaith ar draws y gorllewin gwyllt gyda chriw brith o deithwyr gan herio "mynydde uchel, anialwch crasboeth, ffyrdd mochedd ac Indiaid Cochion yn rhemp ac ar ben 'ny pob lleidr yn y wlad ar ein sodle ni." Adlais cryf o'r ffilm John Wayne, Stagecoach ac yn llawn o ddigwyddiadau disgwyliedig taith o'r fath. 拢9.99.

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Holi Alun Ceri Jones


  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy