主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Cawr i'w Genedl
Erthyglau amrywiol er clod Y Teifi
Hywel Teifi
  • Adolygiad Vaughan Hughes o Cawr i'w Genedl: Cyfrol i Gyfarch yr Athro Hywel Teifi Edwards. Golygyddion - Tegwyn Jones a Huw Walters, tt 304.Gomer. 拢14.99.


  • "Mae o'n gwneud yr union beth mae o'n ei ddweud ar y tun" yw addewid Ronseal, gwneuthurwyr y staen hwnnw sy'n ymestyn oes ffensys pren.

    Yn anffodus wnes i ddim darllen tun/clawr y gyfrol hon yn ddigon manwl. Er mai "cyfrol gyfarch" yw'r disgrifiad ohoni ar y clawr, fe gymerais i yn fy mhen mai cyfrol deyrnged oedd hon i Hywel Teifi Edwards.

    Clawr y llyfr Afraid dweud mai Hywel Teifi, wrth gwrs, yw'r storom wybodus o Gymreictod ymosodol y bydd llawer ohonom yn cyfeirio ato fel y Teifi.

    Mae'r defnydd o'r fannod i ragflaenu enw yn drymlwythog o arwyddoc芒d. Yr Erfyl oedd Gwyn Erfyl. Y Stevens yw Meic Stevens. Y Llwyd yw Alan Llwyd.

    Neu, yn achos Llew Llwyfo, Cymro o "gyfnod" Hywel, digon , yma ac yn America, oedd dweud y Llew.

    Cerddi mawl
    Rhag ofn - rhag ofn - nad fi yw'r unig un ddaru gamddeall natur a bwriad y gyfrol hon, caniatewch imi wneud un peth yn gwbl glir ar y cychwyn fel hyn.

    Yn y b么n, nid cyfrol yw hon sy'n trafod cymeriad ac anian a diddordebau amlochrog yr hynod Hywel Teifi.

    Mae'n wir fod gan T. James Jones, Meirion Evans a Pheredur Lynch gerddi mawl iddo. Yr orau gen i o'r cerddi hynny yw cywydd Peredur Lynch sy'n llwyddo'n rhyfeddol, o ran cynnwys a chrefft, i fynegi hanfod cyfraniad Hywel Teifi i'n hadnabyddiaeth o'r 19g - a'n hadnabyddiaeth ohonom ni ein hunain.

    Ceir hefyd ysgrif bortread ardderchog ohono gan Tegwyn Jones, a bu Huw Walters wrthi'n drylwyr ddeheuig yn cywain gweithiau cyhoeddedig Hywel Teifi at ei gilydd yn 22 tudalen o lyfryddiaeth.

    Cenedl werthfawrogol
    Ysgrif yn Y Ddraig, cylchgrawn coleg prifysgol Aberystwyth, ar y testun Pysgod ym 1955 oedd ei ymddangosiad cyntaf mewn print.

    Dwi ddim yn ymwybodol ei fod wedi sgwennu rhyw lawer am bysgod ers hynny ond yn sicr bu'n bysgotwr a rwydodd berlau. Diolch i'r nefoedd, nid gerbron y moch ( ar wah芒n i'w ymweliadau 芒 M么n!) y taflodd Hywel y perlau hynny eithr yn hytrach gerbron cenedl werthfawrogol dros ben.

    A dyna hi... Does 'na ddim rhagor sy'n ymwneud yn uniongyrchol 芒 Hywel, ac eithrio 16 o ffotograffau, un cart诺n, a'r llun trawiadol gan Brian Davies ar y clawr o Hywel - yn ei sedd yng nghapel Bryn Seion, Llangennech, fe dybiaf.

    Erthyglau swmpus
    Cwta hanner cant o dudalennau ac un clawr a lenwir gan y penodol Deifi-aidd bethau hyn. Mae gweddill y gyfrol, rhyw 250 o dudalennau, yn rhoi lle i ddeuddeg o erthyglau swmpus ar bynciau amrywiol.

    Mae llawer ohonyn nhw'n naturiol yn ymwneud 芒'r ganrif a gafodd y fath afael ar Hywel. A s么n am y ganrif honno, ydach chi wedi sylwi nad yr un yw ystyr y Chwedegau i Hywel Teifi ag i bawb arall?

    Nid degawd y Beatles a'r Bilsen a Vietnam sydd gan Hywel dan sylw pan fydd o'n cyfeirio at y Chwedegau. Y Mil Wyth Chwedegau yw Chwedegau Hywel.

    Dyna, si诺r iawn , pryd y cychwynnodd yr Eisteddfod Genedlaethol. Pa ots am unrhyw chwedegau eraill!

    Yr erthyglau
    Ond yn 么l a ni at yr erthyglau y cyfeiriais atynt.
    Dyma nhw yn y drefn y maen nhw'n ymddangos yn y gyfrol:
  • Cywion Edward Lhwyd gan Brinley F. Roberts;
  • Si么n Rhydderch a'r Eisteddfod gan A.Cynfael Lake;
  • Iolo Morganwg a Chaethwasiaeth gan Geraint H. Jenkins;
  • Lingen, Arnold a Palgrave - Tri Sais a'u Hagweddau at Gymru gan Prys Morgan;
  • John Jones, Llangollen a'i Gyfnod gan Huw Walters;
  • Y Fforman Grasol gan Rhidian Griffiths;
  • Beirdd y M么r yn Oes Victoria gan E.G Millward;
  • Thomas Henry Thomas ( Arlunydd Penygarn) gan Allan James;
  • Cwm Rhondda a Cheinewydd: Croth a Chrud Diwygiad 1904-05 gan E. Wyn James;
  • Tirluniau Dychymyg Gwenallt gan Christine James;
  • R.S. Thomas: Claf Abercuawg? gan M. Wynn Thomas; a
  • Paham y Meddyliwn Heddiw yn y Ffordd a Wnawn? gan Walford Gealey.

    Un rhybudd
    Fynnwn i ddim dilorni, ar unrhyw gyfrif, yr un o'r cyfranwyr. Rydw i'n dawel iawn fy meddwl bod eu herthyglau, un ac oll, yn safonol ac ysgolheigaidd.

    Seiniaf un rhybudd, fodd bynnag.
    Nid yw'r ffaith eich bod wrth eich bodd yn gwrando ar Hywel Teifi'n darlithio yn golygu o angenrheidrwydd y bydd y gyfrol hon yn ei chrynswth at eich dant.
    Dydi pawb ddim yn gallu ei dweud hi fel y gall y Teifi.
    Dyna'i ogoniant.



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy