主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Cofio Capel Celyn
Cyfrol clirio'r byrddau!
  • Adolygiad Glyn Evans o Cofio Capel celyn gan Watcyn L Jones. Y Lolfa. 拢5.95.


  • Cyfrol clirio'r byrddau, gwneud pethau'n glir ydi hon.
    Cyfrol rhoi'r record yn str锚t fel y byddai'r Sais yn dweud.

    Yn amlwg bu rhai pethau a ddywedwyd ac a sgrifennwyd dros y blynyddoedd am hanes boddi Tryweryn yn cnoi'r awdur.

    Clawr y llyfr Yn rhannol y diffyg sylw a roddodd ef ei hun i ran ei chwaer, Elisabeth Watkin Jones, yn ysgrifennydd Pwyllgor Amddiffyn Capel Celyn ac, yn fwyaf arbennig, yr argraff a roddwyd o ran Plaid Cymru yn y frwydr i achub y cwm.

    Ysgrifennodd Watcyn L Jones gyfrol Cofio Tryweryn ugain mlynedd yn ol ac mae'r ffaith iddo deimlo'n awr yr angen i gyhoeddi hon yn brawf iddo gael ei gythruddo gan rai pethau gan gynnwys rhan Gwynfor Evans ac is-bwyllgor Amddiffyn Capel Celyn a sefydlwyd o fewn Plaid Cymru.

    Yn 么l Watcyn Jones cr毛wyd argraff i'r pwyllgor hwn gyflawni mwy nag a wnaeth mewn gwirionedd:

    "Efallai i'r teitl roi'r argraff i rai darllenwyr papurau'r dydd fod yr is-bwyllgor yn gysylltiol 芒 Phwyllgor Amddiffyn Capel Celyn. Hefyd, hwyrach y gellir tybio i'r beirniadu hallt wthio swyddogion Plaid Cymru i ehangu ar yr honiad iddynt gyfrannu mwy nag a wnaethpwyd yn ystod yr ymgyrch.

    "Yn wir, gellid dadlau iddynt wneud mwy o ddrwg na ddaioni," meddai.

    Yn anghydweld
    Mae Watcyn Jones yn anghydweld hefyd, meddai, 芒 'r hyn a ddywed Rhys Evans, cofiannydd Gwynfor Evans, yn ei lyfr Rhag Pob Brad am y pwyllgor lleol yng Nghwm Tryweryn:

    "Roedd beirniadaeth lem o'r pwyllgor yn y gyfrol a cheir yr argraff i'r awdur gyrraedd y farn mai Gwynfor a greodd ac a gynhaliodd pob gwrthwynebiad yn yr ymgyrch - er nad oedd yn aelod llawn o'r pwyllgor lleol, ond yn un o ddeg a wahoddwyd i fod yn Llywydd Anrhydeddus," meddai.

    Dywed hefyd na chafodd nifer o'r trigolion lleol y clod haeddiannol a hynny am y rheswm "nad oeddynt yn wybodus ym myd gwleidyddiaeth a phrotestio cyhoeddus".

    Yn wir, mae'n awgrymu hefyd i'r elw a wnaeth y Blaid mewn cyhoeddusrwydd allan o'i chysylltiad 芒 'r ymgyrch fod yn fwy na'r hyn a gyflawnodd y Blaid dros y trigolion.

    "O amgylch y Bala clywid yn aml fod Plaid Cymru wedi derbyn llawer mwy nag a wnaethant ar ran y gwrthwynebwyr," meddai gan ychwanegu:

    "Bu ei hymyrraeth yn fwy o rwystr nag o les ym marn amryw o sylwebyddion.

    "Er enghraifft, tybid i benderfyniad Gwynfor Evans i arwain gorymdaith trigolion Capel Celyn yn Lerpwl . . . fod yn gamgymeriad o bwys," meddai.

    'Fel cawr'
    Mae'n dyfynnu hefyd Gwynfor Evans yn dweud yn ei hunangofiant Bywyd Cymro am J E Jones yn gweithio "fel cawr" yn anfon llythyrau yn enw'r Pwyllgor Amddiffyn at yr holl gynghorau lleol a'r capeli ac eglwysi, undebau a chymdeithasau".

    Ond ym marn Watcyn Jones:

    "Mae'n siom na ellir deall a derbyn y fersiwn yma o'r hyn a ddigwyddodd. Ysgrifenyddes y Pwyllgor Amddiffyn a gyfansoddodd a llofnodi'r dogfennau (sy'n dal ar gael i'w gweld), gyda'i thad yn trefnu'r cyfeirio a'r postio."

    Mae'n awgrymu hefyd i amlygrwydd y Blaid ei gwneud yn anodd i bleidiau eraill, fel Llafur, gefnogi'r trigolion yn eu safiad yn erbyn Lerpwl.

    Gwneud iawn
    Mae'r gyfrol yn ymdrech amlwg hefyd i wneud iawn am y diffyg cydnabyddiaeth a roddodd ef ei hun, yn ei gyfrol flaenorol, i'w chwaer am ei llafur effeithiol a diflino yn ysgrifennydd y pwyllgor amddiffyn lleol.

    Mae'n sicr yn unioni'r cam hwnnw a chawn ddarlun o wraig weithgar, hynod iawn.

    Wlisabeth Watkyn Jones Un arall y mae'n hael ei ganmoliaeth iddo ydi Arglwydd Ogwr - y Cyrnol David Rees-Rees Williams a fu cyn ei ddyrchafu i D欧'r Arglwyddi yn aelod seneddol Llafur.

    "Yr oedd yn ddyn 芒 daliadau rhyddfrydig," meddai gan s么n am "ei gonsyrn am frodorion llai breintiedig diffeithwch y Kalahari yn Affrica a gofynion gwleidyddol pobl Sarawak yn y Dwyrain Pell."

    "O ganlyniad i'w gysylltiad ag Elisabeth a'i gydymdeimlad ag achos 'Trigolion Tryweryn' daeth yn wybodus iawn. Gyda'r ffeithiau ar flaen ei fysedd beirniadodd yn hallt gynlluniau Lerpwl ar y cyfle cyntaf yn Nh欧'r Arglwyddi," meddai.

    Ni yw mor ganmoliaethus o'r aelod seneddol lleol;

    "Gyda'r aelod seneddol lleol T W Jones . . . bu ei ymateb ef yn siom enfawr," meddai.

    Mae ei ymateb i amryfal gymeriadau'r 'ddrama' bob amser yn ddifyr.

    Difyr hefyd ei ddisgrifiad o'r ddiwrnod yr agoriad.

    Er yn gyfrol fer iawn mae hi'n un sy'n cynnwys llawer i gnoi cil drosto am un o gerrig milltir hanes Cymru yr ugeinfed ganrif. Cyfrol hwylus sydd hefyd yn gyfle inni ail fyw peth o'r hanes a dotio at y casgliad gwych o luniau a gynhwysir.

    Cysylltiadau Perthnasol

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy