主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Y Llwyd o'r Bryn
Hanes cystadleuaeth Dyn y Pethe
  • Adolygiad Glyn Evans o Y Llwyd o'r Bryn gan r Alun Evans. Cyhoeddir gan Lys yr Eisteddfod Genedlaethol. 拢6.99. Gellir archebu drwy Swyddfa'r Eisteddfod.



  • Rhwng adrodd a llefaru
    Mae Gwobr Goffa Llwyd o'r Bryn yn un o brif gystadlaethau'r Eisteddfod Genedlaethol er dechrau'r Chwedegau. Tros y blynyddoedd bu bri mawr ar ei hennill.

    Ond tybed faint o'r rhai sy'n cystadlu amdani heddiw sy'n ymwybodol pwy oedd y g诺r a roddodd ei enw i'r gystadleuaeth.

    Clawr y llyfr Yr oedd Llwyd o'r Bryn yn ddyn a'i droed mewn dwy ganrif, wedi ei eni yn 1888 yr oedd yn un o gymeriadau hynod ei gyfnod a chollwyd teip arbennig iawn o Gymro pan fu farw yn 1961.

    Toc wedyn, yn Eisteddfod Genedlaethol Llandudno yn 1963 y daeth y wobr goffa i fodolaeth - yn cael ei hennill gan Stewart Jones.

    Y mae Stewart yn un o ddim ond tri a enillodd y wobr eilwaith, yn Abertawe yn 1964.

    Y ddau enillydd lluosog arall yw Brian Owen ('65 a '68) a Si芒n Teifi ('78 ac '82).

    Ymddengys mai camp unwaith mewn oes yw hon i'r rhan fwyaf o adroddwyr - fel oedden nhw - a llefarwyr - fel ydyn nhw; pob un ohonynt a'i hanes a'i lun yn y gyfrol hon.

    Yn y fro
    Manteisiwyd ar y ffaith fod yr Eisteddfod Genedlaethol yn ymweld 芒 bro Penllyn y flwyddyn nesaf - cymdogaeth Llwyd o'r Bryn - ar gyfer cyhoeddi'r casgliad hwn o enillwyr.

    Yn ogystal 芒 bod yn gofnod o enillwyr mae'r llyfr hefyd yn olrhain hanes y gystadleuaeth ac, yn fwyaf arbennig, yn ein hatgoffa o'r cymeriad eisteddfodol chwedlonol bron, Robert Lloyd, a fynychodd ei Eisteddfod Genedlaethol gyntaf yn 1910 ac na chollodd ond dwy wedyn - Bangor 1915 "oherwydd helbul 'dechrau byw'" meddai R Alun Evans a Chaergybi 1927 oherwydd "hen gynhaeaf gwair diweddar".

    Dilyn steddfodau
    Doedd o ddim yn ddilynwr eisteddfodau yn y dull modern:

    "O ganol y 1930au ymlaen, ac am rai blynyddoedd, bu ef a chriw bychan o'i ffrindiau yn trafod telerau efo ffermwyr lleol yn ardal y Brifwyl, i gael lletya mewn sguboriau cyfagos . . . Bedyddiwyd y gymdeithas deithiol, ddethol hon yn Gymdeithas y Porfeydd Gwelltog," eglura R Alun Evans.

    Fel cystadleuydd Adrodd oed ei faes gan gystadlu gyntaf yn eisteddfod enwog Y Gadair Ddu yn 1917 - a methu cael llwyfan!

    Cofio ewythr
    Mae nai iddo hefyd yn un o'r eisteddfodwyr mwyaf pybyr, y Dr Aled Lloyd Davies, ac ef yn y gyfrol hon sydd wedi llunio ysgrif gofiant sydd, o fewn pedair tudalen, yn rhoi blas rhyfeddol o'r dyn a'i gyfnod.

    "Meddai ar y ddawn o fynd i fyd plentyn," meddai wrth gofio'r gwmn茂aeth pan ymwelai'n blentyn a chartref ei ewythr.

    Adfer adrodd
    Yn y gyfrol adlewyrchir sut y daeth yr arfer o Adrodd yn rhywfaint o gyff gwawd dros y blynyddoedd - yn gymaint felly, nes newidiwyd yr enw yn "Llefaru" - gair mwy derbyniol, a c诺l si诺r o fod, yng ngolwg pobl c诺l y dyddiau c诺l presennol.

    Ond un na chafodd ei hudo gan yr enw newydd yw'r cyn Archdderwydd, Y Parchedig John Gwilym Jones, y mae ei ddau frawd - T James Jones ac Aled Gwyn - ymhlith buddugwyr y gystadleuaeth.

    Yn ei ysgrif, Dawn Adrodd mae o'n mynnu nid yn unig fod i adrodd ei rinweddau ond hefyd nad yw adrodd a llefaru yr un peth.

    "Hyderaf yr adferir y gair 'adrodd' i'w briod ddefnydd yn adrannau'r eisteddfodau yn fuan, a da gweld fod nifer helaeth o eisteddfodau lleol yn ddigon doeth i wrthod defnyddio'r term amwys 'llefaru'," meddai.

    "Nid llefaru yw adrodd," ychwanega. "Wrth adrodd rhaid cael meistrolaeth lwyr ar holl agweddau'r gelfyddyd i'r fath raddau nes y bydd y perfformiad celfydd a disgybledig ar lwyfan yn ymddangos yn naturiol i'r gwrandawyr yn y seddau," meddai.

    Yn felltith
    Fodd bynnag y mae yna eraill, wrth gwrs, sydd o'r farn i 'adrodd' fod yn felltith Cymreig a ddifethodd ac a lesteiriodd leng o actorion gyda'i rwysg a'i swae.

    Dydi John Gwilym Jones ddim yn un o'r rheini. Yn wir:

    "Mewn oes pan fo darllen ar drai, a'r iaith lafar ar radio a theledu yn ennill tir, fe wn芒i disgyblaeth adrodd fyd o les i ynganiad y Gymraeg ac arddull ein llefaru," meddai.

    Na dydi dadl yr Adrodd / Llefaru ddim yn un y clywsom ei diwedd.

    Wedi'r rhagarweiniad dull y gyfrol yw cyflwyno pob enillydd fesul un gyda llun ac wedyn nodiadau amdanynt - weithiau wedi eu cyfansoddi gan yr enillwyr eu hunain wrth iddyn nhw ddwyn i gof eu buddugoliaethau a datgelu ambell i gyfrinach hefyd.

    Anghofio yn gamp
    T James Jones, er enghraifft, ar y llwyfan yn methu 芒 chofio'r gair nesaf wedi iddo ddweud y teittl; "Detholiad o S诺n y Gwynt sy'n Chwythu gan Kitchener Davies.

    "Doedd dim amdani ond cerdded o'r llwyfan," meddai. "Roeddwn ar orchymyn fy nhroed dde i symud pan gofiais y llinell agoriadol ac fe lifodd y gweddill . . ."

    A chael canmoliaeth wedyn gan y beirniad am y "saib dramatig, huawdl, hynod effeithiol" ar y dechrau!

    A ydych yn caru ynteu'n cas谩u adrodd bydd y gyfrol fach hon o ddiddordeb beth bynnag - a'i helw i gyd yn mynd at gronfa Eisteddfod Y Bala.
    Byddai'r Llwyd wrth ei fodd, si诺r o fod.


    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy