主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Hawl i'r Gymraeg
Torri llwybr clir drwy ddryswch deddf iaith
  • Adolygiad Gwilym Owen o Hawl i'r Gymraeg gan Gwion Lewis. Lolfa. 拢7.95.


  • Mae'n rhaid imi gyfaddef bod clywed y tri gair "Deddf Iaith Newydd" yn peri i mi ddyfylu g锚n a sgrechian.

    Mae yna gymaint o drafod, dadlau, cecru a rhethregu wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf nes bod y pwnc bron 芒 chodi'r pych ar rywun.

    A hynny mae'n debyg oherwydd bod y dadleuon wedi troi yn eu hunfan cyhyd nes achosi pendro.

    Clawr y llyfr Yr hyn oedd ei angen ers tro oedd i rywun eistedd i lawr a mynd ati i bwyso a mesur beth yn union ydi safle'r iaith Gymraeg ochr yn ochr 芒'r gyfraith.

    Ac wele o'r diwedd, oleuni - goleuni drwy gyfrwng cyfrol newydd, ddeallus, ddysgedig, gan feddyliwr cyfreithiol ifanc a disglair.

    Cyrraedd eu hanterth
    Ar Faes Prifwyl Caerdydd gwelodd campwaith Gwion Lewis, Hawl i'r Gymraeg, olau dydd a diolch i wasg Y Lolfa am fentro cyhoeddi cyfrol o'r fath.

    A gwneud hynny mewn cyfnod pan yw'r trafodaethau gwleidyddol ar ddyfodol y Gymraeg yn cyrraedd eu hanterth.

    Ac mi fyddai'n dda pe byddai'r gwleidyddion hynny yn pori'n fanwl drwy yr hyn sydd gan Gwion Lewis i'w ddweud.

    Ac o s么n am ddweud mae'r llyfr hwn yn enghraifft berffaith o sut i fynd ati u gyflwyno dadl dros hawliau siaradwyr Cymraeg i'w defnyddio gydag urddas ac mai dyma ddylai fod yn brif hanfod i unrhyw ddeddfwriaeth newydd.

    Mae graen ar ieithwedd y gyfrol sy'n llwyddo i gyflwyno materion astrus cyfreithiol mewn dull syml a chaboledig.
    Yn wir mae ei lifeiriant geiriol yn peri syndod i'r darllenydd!

    manylder ysgolheigaidd
    Er bod Gwion Lewis o'r cychwyn yn ei gwneud hi'n gwbl glir mai pwrpas ysgrifennu Hawl i'r Gymraeg ydi profi na fydd y gyfraith yn ddigonol nes ei bod hi'n cydnabod fod gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i ddefnyddio'r iaith - eto mae o'n mynd ati i brofi ei safbwynt gyda manylder ysgolheigaidd.

    Mae o'n dadansoddi safle iaith yng nghyswllt hunaniaeth, y gyfraith ryngwladol ac Ewrop cyn cyrraedd ei bennod olaf bwysicaf, Y Gymraeg a Chyfraith Lloegr.

    Ac o safbwynt y ddadl wleidyddol sydd yn debyg o ferwi drosodd yn ystod y misoedd nesaf mae'r hyn sydd gan Gwion Lewis i'w ddweud wrth drafod y cyfnod o 1536 i 1993, Deddf Yr iaith Gymraeg 1993, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Statws Ddiffygiol a Hawl i'r Gymraeg o bwysigrwydd mawr.

    Gwendidau amlwg
    Mae ei ddadansoddiad o wendidau amlwg Deddf 1993 wedi bod yn agoriad llygaid i mi ac ni fydd darllen ei sylwadau diflewyn ar dafod am Fwrdd yr Iaith Gymraeg dros y blynyddoedd yn gwneud darllen difyr naill ai i aelodau'r Bwrdd nac ychwaith i'w swyddogion.

    Mae'n awgrymu mai prin iawn ydy profiad yr aelodaeth mewn cynllunio ieithyddol ac nad yw'r unig aelod sydd yn brofiadol yn y maes yn arddangos llawer o flaengarwch nac arweiniad.

    Ond wedi'r holl ddadansoddi a phwyso a mesur mae Gwion Lewis yn mynd ati i gyhoeddi fod angen datganiad fel man cychwyn ar gyfer Deddf Iaith newydd - a dyma mae o'n awgrymu:

    "Y mae gan bobl Cymru yr hawl i ddefnyddio'r Gymraeg, cyn belled ag y bo hynny'n rhesymol o dan yr amgylchiadau."

    Ac mae o'n bendant o'r farn y byddai hynny yn fan cychwyn di-sigl ar gyfer deddf sy'n cynnwys hawliau'r Cymro Cymraeg yn ei gyswllt a'r sector breifat a'r sector gyhoeddus.

    'Senedd Genedlaethol Gymraeg'
    Ac mae o'n bendant hefyd yn cyhoeddi mai "Senedd Genedlaethol Gymraeg yn unig all gynnal y drafodaeth sydd ei hangen os yw urddas siaradwyr Cymraeg yn mynd i gael ei barchu."

    A dyna pam, fel yr awgrymais ar y cychwyn, y dylai gwleidyddion ein Cynulliad Cenedlaethol o bob plaid fynd ati i ddarllen campwaith Gwion Lewis.

    O'm rhan fy hun rydw i'n sicr y bydden nhw yn ei chael hi'n anodd iawn i wrthod ei ddadleuon gan nad pentyrru rhethreg na propaganda mae'r meddyliwr deallus hwn ond yn hytrach profi drwy gyfrwng penodau ac adnodau cyfreithiol fod Deddf Iaith newydd gynhwysfawr nid yn unig yn rhesymol ond yn hanfodol os yw'r genedl am deithio ymlaen tuag at ryddid gwleidyddol.

    Wyddoch chi be; ar 么l darllen campwaith Gwion Lewis dydi'r tri gair, 'Deddf Iaith Newydd' ddim yn 'boring' o gwbl!



    cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy