主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Cythrel Cerdd
Straeon difyr a dywediadau bachog a brathog
  • Adolygiad Glyn Evans o Cythrel Cerdd Anectodau o fyd cerdd gan Alwyn Humphreys. Lolfa 拢7.95.



  • Mae llyfrau fel hwn yn niferus ac yn boblogaidd ym mhob rhyw faes yn y Saesneg. Hawdd iawn fyddai bod yn berchen cypyrddiad da o lyfrau tebyg yn llawn straeon a dywediadau bachog ym mhob rhyw faes o b锚l-droed i'r theatr.

    Am ryw reswm maen nhw'n brinnach pethau yn y Gymraeg er bod yr anecdot yn ffurf digon poblogaidd mewn cyfnodolion a chylchgronau ddyddiau fu.

    Clawr y llyfr Mae sawl blwyddyn ers i'r Lolfa gyhoeddi casgliad o Anectodau Llenyddol gan Elwyn Ioan er enghraifft ac mae cryn lawer o flynyddoedd - fel yr awgryma ei deitl - ers cyhoeddi Hynodion Hen Bregethwyr Cymru gydag Hanesion Difyrus am Danynt gan - wel, ni ddywedir. Arwyddwyd nodyn at y darllenydd 芒'r geiriau "Yr Awdur" yn unig!

    Ta beth, roedd hwnnw'n llyfr o 388 o ddalennau .

    Cyfrol denau mewn cymhariaeth yw Cythrel Cerdd ond yn un drwchus o ran difyrrwch serch hynny.

    Gwybod am Gymru
    Edrychwn ymlaen at bori ynddi pe na byddai ond am y ffaith y cawn yn hon straeon na fyddai'n cyrraedd cyfrol Saesneg debyg gan fod yr awdur yn gwbl gyfarwydd 芒'n byd cerdd ni.

    Ac y mae yma anectodau am Elin Manahan Thomas, R S Hughes ac Arwel Hughes er enghraifft ac adran 芒'r pennawd Eisteddfodau.

    Ond yn anffodus canran fechan o'r cynnwys sydd 芒'r cyffyrddiadau Cymreig y gobeithiwn amdanynt - fel yr wybodaeth mai yn ystod gwyliau yng Nghastell Llandochau ger y Bontfaen y cyfansoddodd y cyfansoddwr Ffrengig Faur茅 ei Nocturne Rhif 7.

    Yn wir, dim ond un stori sydd yna dan y pennawd "Eisteddfodau" - Arweinydd eisteddfod bentref heb gyfeilydd yn gwneud cais o'r llwyfan; "Oes 'na rywun yma all chwarae 'Merch y Morwr?" a Llais o'r cefn yn ymateb, "Faint ydi hoed hi?"

    Gystal stori ag ydi hi fe fyddai hi'n well o gael rhai eraill i gadw cwmni iddi!

    Yn synnu
    Un stori sydd yna dan Corau meibion hefyd sydd yn synnu rhywun braidd o gofio cysylltiad cyfoethog yr awdur a'r maes hwnnw.

    Ond mae'r cyfraniadau Cymreig prin yn ddieithriad yn flasus fel y stori am y cyfansoddwr R S Hughes yn cyfeilio ar yr organ mewn cyngerdd mawreddog mewn capel ym Methesda, Dyffryn Ogwen.

    O weld bod cryn amser cyn y byddai ei angen enciliodd i dafarn gyferbyn i ladd amser gan siarsio bachgen i ddod i'w gyrchuo fewn dwy eitem i ddatgania d yr organydd.

    Ond pan ddaeth yr amser gwelodd y bachgen fod R S Hughes yn feddw gaib a bron 芒 methu sefyll ar ei draed.

    "Yn rhyfeddol, fe lusgodd y bachgen y cerddor ar draws y ffordd i gefn y capel, wedyn i fyny'r grisiau at yr organ, a oedd, yn ffodus yn guddiedig oddi wrth y gynulleidfa y tu 么l i lenni trwchus.

    "Pan gyhoeddodd y gweinidog mai'r eitem nesaf oedd datganiad gan organydd y capel o'r 'Hallelujah Chorus' gan Handel cododd y bachgen ddwylo'r datgeinydd ar yr allweddell a sibrwd yn ei glust, 'Rwan'.

    "Gyda'i lygaid ynghau fe ddechreuodd R S Hughes ar ei berfformiad - gan chwarae'r darn yn berffaith!"

    Cath-edral
    Stori dda arall yw yr un am y soprano Elin Mahanan Thomas yn canu mewn cyngerdd yng Nghadeirlan Caer-Wysg .

    "Ymddangosodd cath oren, fawr, dew ac ymlwybro heibio'r allor. Ar 么l crwydro'n hamddenol fe setlodd yn y diwedd wrth draed Elin, codi ei choes a llyfu ei hun o flaen y gynulleidfa, a hwythau yn eu dyblau'n chwerthin."

    Pethau prin
    Ond gemau prin yw'r straeon Cymreig o'r fath.
    Mae yma fwy o gyfeiriadau at Syr Thomas Beecham, er enghraifft, nag at unrhyw Gymro. Gellir deall pam; yr oedd yn gymeriad ffraeth gyda llu o straeon amdano. Ond mae'r rhan fwyaf o'r rheini eisoes wedi eu cyhoeddi mewn cyfrolau Saesneg.

    Yr un modd straeon am gyfansoddwyr mawr y byd fel Mozart, Handel ac yn y blaen.

    Oll yn ddifyr ac yn flasus iawn ond heb fod yn arbennig i'r gyfrol hon.

    Hoffwn i ddim cael fy nghyhuddo o fod yn fewnblyg neu ynysig wrth gwyno fel hyn ac nid dweud y mae rhywun nad yw straeon am Beethoven a Bach ac yn y blaen o ddiddordeb i Gymro ond gofidio i gyfle gael ei golli i'n difyrru 芒 rhagor o straeon Cymreig gan nad yw y rhai hynny ar gof a chadw'n barod mewn lleoedd eraill.

    Atebion parod
    Wedi dweud hynny, eitemau a hoffais i oedd y straeon ateb parod fel yr un am George Bernard Shaw yn dweud wrth wraig bod feiolinydd yr oedden nhw'n gwrando arno yn ei atgoffa o Paderewski. Y wraig yn ymateb: "Ond dydy Paderewski ddim yn feiolinydd" a Shaw yn ateb: "Dydy hwn ddim chwaith."

    Dywediadau bachog
    Mae'r gyfrol hefyd yn disgleirio o ddywediadau bachog:

    Meddai Andr茅s Segovia: "Dwi wedi cael tair gwraig a thair git芒r. Dwi'n dal i chwarae'r git芒rs."
  • Dihareb Eidalaidd: "Duw a'm gwaredo rhag cymydog gwael a rhywun sydd newydd ddechrau chwarae'r ffidil."
  • Malcolm Williamson am Andrew Lloyd Webber: "Mae ei fiwsig ym mhobman - ond mae hynny'n wir am AIDS hefyd."
  • Stravinsky: "Mae gormod o ddarnau cerddoriaeth yn dod i ben ar 么l y diwedd."
  • Pablo Casals; "Ymddeoliad yw dechrau marwolaeth."
  • John Erskine am gerddoriaeth: "Miwsig ydi'r unig iaith lle na ellir mynegi unrhyw beth gwael na sarhaus ynddi."

  • Ed Gardner am opera: "Opera ydi rhywbeth lle mae dyn yn cael ei drywanu yn ei gefn ac yn lle gwaedu, mae'n canu."

    Ffeithiau annisgwyl
    Droeon eraill mae gan y gyfrol ffeithiau annisgwyl o ddifyr i'w datgelu ac yn achos Peter Warlock cyfunir y cyffredinol a'r Cymreig.

    Bu'n byw yn Sir Drefaldwyn am gyfnodau.

    "Roedd wrth ei fodd yn cerdded rhyw 50 i 60 milltir y dydd o gwmpas yr ardal ond ymysg ei ddiddordebau eraill yr oedd cadw nifer o gathod o fridiau prin, dawnsio Rwsiaidd mewn gorsafoedd rheilffordd, a gyrru moto-beics yn borcyn!"

    Testun dirmyg
    Diddorol hefyd yw canfod mai chwaraewyr fiola yw 'j么cs cerddorol ac yn cael eu hystyried yn destun gwawd fel y Gwyddel druan mewn j么cs Seisnig a'r Pwyliaid mewn j么cs Americanaidd.

    Er enghraifft:
  • Beth yw'r gwahaniaeth rhwng fiola a nionyn?
    Does neb yn crio wrth dorri fiola.
  • Sut mae sicrhau na wnaiff eich ffidil gael ei dwyn?
    Rhowch hi mewn cas fiola.
  • Beth yw'r gwahaniaeth rhwng arch a chas fiola?
    Efo'r arch, mae'r person marw oddi mewn.

    贰苍肠么谤?
    Rhwng popeth, croeso sydd yna i gyfrol Alwyn Humphreys a ddywedodd adeg ei chyhoeddi: "Ychydig iawn o'r llyfrau cerdd uchel-ael sy'n nodi bod Bach a Beethoven wedi bod yn y carchar, a bod Brahms yn caru gwraig ei ffrind pennaf!"

    Ac mewn briwsion o'r fath y mae ap锚l hon.

    Casglwyd nifer o'r stor茂au gyda llaw ar gyfer ei raglen radio Cywair ar foreau Sul dros gyfnod o 17 o flynyddoedd.

    Bydded enc么r buan.

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Hunangofiant Alwyn Humphreys

  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy