主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
R S Thomas a'i Gerddi
Astudiaeth gampus beirniad gwylaidd
  • Adolygiad Grahame Davies o R.S.Thomas a'i Gerddi, gan Tom Ellis, Y Lolfa, 2008, 拢12.95, tt. 253.



  • Rhwng y Rhos a Choedpoeth
    Peth peryg yw i rywun o Goedpoeth adolygu llyfr brodor o Rosllannerchrugog.
    Dim ond rhyw filltir sy'n gwahanu'r ddau bentref diwydiannol hyn ar ochrau gorllewinol Wrecsam, ond rhyngddynt, yn gymdeithasol, fe sicrhawyd agendor mawr.

    Cystadleuaeth unochrog sydd wrth wraidd hyn, mewn gwirionedd. Pentref mawr yw'r Rhos, yn rhifo rhyw 10,000 o bobl os cyfrir y cymunedau cyfagos; pentref cryf o ran yr iaith ydyw, ac yn ferw o weithgaredd ddiwylliannol.

    O'i gymharu, rhyw 3,000 o bobl sydd yng Nghoedpoeth, ac nid oes i'r pentref hwnnw, er ei rinweddau digamsyniol, yr un Cymreigrwydd, na'r un bwrlwm diwylliannol 芒'i gymydog mawr.

    O ganlyniad, mae'r rhai hynny o drigolion Coedpoeth sydd yn ymboeni am statws eu pentref - a phwy sy ddim? - yn cenfigennu at lwyddiant a llewyrch y gymuned enwog yr ochr arall i'r bryn.

    O ran perthynas ddiplomyddol, felly, fe ddysgir brodorion Coedpoeth i goleddu agwedd o sgeptigaeth wyliadwrus tuag at eu cymdogion.

    Crybwyllaf hynny o ragarweiniad er mwyn sefydlu'r ffaith, os y byddaf yn canmol llyfr gan un o feibion disgleiriaf y Rhos, Tom Ellis, yna, y mae mwy o werth na'r arfer i'r gymeradwyaeth, gan iddi ddod drwy ddrain tueddiadau plwyfol grymus.

    Haeddu canmoliaeth
    Achos mae'r llyfr hwn ar R S Thomas a'i gerddi yn haeddu canmoliaeth fawr.

    Mae'n ffrwyth blynyddoedd o ddarllen a myfyrio ar waith Thomas, sydd yn un o arwyr llenyddol mawr yr awdur, ac mae'n cynnig golwg newydd unigryw ar ffigwr sydd fel petai'n tyfu o flwyddyn i flwyddyn o ran ei statws.

    Clawr y llyfr Cynnwys y llyfr yw rhai dwsinau o erthyglau a gyhoeddwyd ar waith y bardd rhwng 1978 a 2007 ym mhapur bro'r Rhos, Nene, cyfnodolyn y mae Tom Ellis yn un o'i hoelion wyth.

    Mae'r cyfnod felly yn ymagor gyda'r blynyddoedd pryd yr oedd y byd yn dechrau deffro i'r ffaith fod un o feirdd crefyddol mawr y ganrif wrthi'n ysgrifennu yng nghefn gwlad Cymru.

    脗 ymlaen drwy gyfnod marwolaeth Thomas ac hyd at y presennol pryd y mae sylwebwyr a beirniaid wedi cael modd i fyw gyda chyhoeddi bywgraffiadau dadlennol megis un meistrolgar Byron Rogers, The Man Who Went into the West ac atgofion dadrithiol mab y bardd, Gwydion Thomas, ynghyd 芒 chasgliadau o ysgrifau a cherddi anghyoedd y bardd.

    Dyddia'r mwyafrif llethol o erthyglau Tom Ellis o'r cyfnod yn dilyn marwolaeth R S Thomas, ac felly mae modd eu cyfrif fel cyfraniad at y diwydiant beirniadaeth lenyddol sydd yn prysur dyfu o amgylch gwaith y bardd.

    Amrywiaeth
    Cyfraniad nodedig yw hwn hefyd.
    Mae erthyglau Tom Ellis yn ymdrin 芒 materion mor amrywiol ag agwedd Thomas at y Groes, at ei briodas, at Dduw, ac, wrth gwrs, at y genedl, ac fe wneir y cyfan mewn arddull naturiol a choeth, a chyda threiddgarwch beirniadol arbennig.

    Cefais y fraint o dreulio diwrnod gyda Tom Ellis yn gynnar yn 2007, pan oeddwn yn ymchwilio llyfr am ardal Wrecsam, a phleser oedd cael profi ei wybodaeth eang a dwfn o lenyddiaeth, athroniaeth, a gwleidyddiaeth.

    Testun balchder, yn sicr, yw bod cymunedau diwydiannol Cymru yn medru cynhyrchu gw欧r mor amryddawn 芒 Tom Ellis: gl枚wr, rheolwr pwll glo, gwleidydd amlwg a mentrus, ac, wrth gwrs, beirniad llenyddol craff.

    Dyna ddigon o ddeunydd balchder, felly.
    Ond dyna un peth na chewch chi yn y gyfrol ddiddorol hon, sef hunan d欧b. Mae gwyleidd-dra'r awdur yn treiddio'r llyfr wrth iddo fel petai ymddiheuro am fentro dehongli gwaith y bardd, am ei ddiffyg cymwysterau creadigol.

    Gwyleidd-dra
    Nawr, peth anarferol yw cyhuddo trigolyn o'r Rhos o fod yn rhy wylaidd, efallai - meddaf fi 芒'm tafod yn fy moch - ond teimlais, yn wir, nad oedd angen iddo ymesgusodi cymaint.

    Nid llenor creadigol yw pob beirniad o bell ffordd, ac mae oes o ddarllen eang, manwl a deallus yn hen ddigon o gymhwyster i fynd i'r afael 芒 gwaith llenyddol. Wedi'r cyfan, mae traddodiad anrhydeddus o feirniadaeth bwysig a ddarperir gan yr 'ysgolhaig annibynnol.'

    Yn wir, ac yntau'n rhydd o'r uchelgais academaidd a wna i rai beirniaid greu enwau iddynt eu hunain drwy ymosod ar waith eraill neu drwy greu damcaniaethau gor glyfar, diffrwyth, mae gwerth arbennig i waith beirniad fel Tom Ellis.

    Er cymaint ei edmygedd o'r bardd, nid oes arno ofn ei feirniadu. Dyma un o'i sylwadau ar ei berthynas briodasol:

    "...does dim dwywaith nad oedd carwriaeth R S yn un hynod o anarferol, os nad yn un wrthnysig, gyda'r bai, os oes rhaid gosod bai, yn syrthio'n sgw芒r ar ei ysgwyddau o. Fe fyddai'r merchetwr mwyaf digywilydd, heb s么n am 诺r bonheddig, yn gresynu at ymddygiad y bardd tuag at ei gariad, hyd yn oed yn nghyfnod cynnar eu carwriaeth."

    脗 ymlaen i s么n am ddigwyddiad a gofnodir yn un o weithiau hunangofiannol Thomas, pan aeth gyda'i gariad ar daith i Ucheldir yr Alban, a lle diflannodd yr offeiriad ifanc i un o'r ynysoedd am wythnos gyfan gan roi dim ond hanner awr o rybudd i'r ferch druan a adawyd ar 么l ar y tir mawr.

    Y syndod yw iddo ei chael hi'n aros amdano pan ddychwelodd.

    Gwel bardd na llenor
    Mewn man arall, dywed Ellis hyn:

    "Yn wir, os caf fentro'n wylaidd ar farn bersonol, a minnau fel mae'n digwydd yn beryglus o agos at eilunaddoli'r bardd fel bardd, nid yw rhyddiaith R S Thomas, a siarad yn fras, i'w chymharu 芒'i farddoniaeth o ran arddull na sylwedd."

    Ie, dyna wyntyllu, nid caswir efallai, ond yn sicr ffaith sydd werth ei chofio: nid y llenor rhyddiaith mwyaf ysbrydoledig ydoedd R S Thomas.

    Nid amarch 芒'r bardd yw nodi hynny, wrth gwrs. Fel y dywed Tom Ellis: "...ofer yw disgwyl dwy Wyddfa ochr yn ochr 芒'i gilydd."

    Dyma agwedd sydd yn wahanol iawn i'r parchedig ofn sydd fel petai'n taro sawl beirniad wrth drin rhyddiaith y bardd-offeiriad.

    Parchedig ofn - yn nwy ystyr yr ansoddair hwnnw - oedd un o'r ymatebion mwyaf cyffredin i Thomas. Hawdd gweld sut yr oedd yn cael yr effaith hon ar bobl os edrychir ar glawr y llyfr hwn, sy'n dwyn un o'r lluniau nodweddiadol o'r R S Thomas canol oed.
    Dyna fe 芒'i wyneb olygus, yn llym, yn greigiog a thua mor hwyliog 芒 damwain chwarel.

    Ni all neb gyhuddo'r R S Thomas .S.meudwyaidd o chwilio am gyhoeddusrwydd, ond tybed faint o'i mystique digamsyniol a ddeilliodd o'r ffaith iddo ymdebygu o ran pryd a gwedd i un o broffwydi llai doniol yr Hen Destament?

    Tybed sut si芒p a fuasai ar ei ddelwedd pe bai wedi bod yn stwcyn rhadlon 芒 sbectol gron fel D.J.Williams?

    Mae hiwmor
    Mewn gwirionedd, fel y g诺yr llawer, ac fel y mae Tom Ellis yn nodi, bu ffrwd gref, er annisgwyl, o hiwmor yn perthyn i'r bardd. Gall hyn gynorthwyo darlleniad o'r gwaith hefyd.

    Daw llawer o'i linellau ymddangosiadol ysgubol a chwerw yn llawer llai llym unwaith y dychmygir tinc o eironi iddynt. Nid nad oes chwerwder yno, ond chwerwder chwareus ydoedd ambell waith.

    Un o gryfderau'r gyfrol hon yw ei bod yn ysgogi'r darllenydd i feddwl ymhellach am y pynciau dan sylw.

    Er enghraifft, peth braf, wrth weld ymdriniaeth estynedig Tom Ellis ar 'bryddest radio' R S Thomas, The Minister, yw cael fy atgoffa cerdd mor wych ydyw.

    Fe'm hysgogwyd i feddwl tybed pam na fentrodd Thomas gymaint 芒 hynny i faes y gerdd hir, a pham na ddefnyddiodd rhyw lawer ar y ddawn ddigamsyniol oedd ganddo i lunio deialog a chymeriadau.

    Cenedlaetholdeb ieithyddol
    Ac i gymryd enghraifft arall, cefais fy hun hefyd yn meddwl tybed a fuasai Thomas wedi denu sylw cymaint o feirniaid Cymraeg pe na bai wedi mabwysiadu cenedlaetholdeb ieithyddol.

    Rhaid cofio mai dwy gerdd Gymraeg, rhai digon aflwyddiannus, a ysgrifennodd erioed. Ac y mae ei ryddiaith Gymraeg achlysurol o ddiddordeb yn bennaf oherwydd y goleuni y mae'n daflu ar y gwaith - a ysgrifennwyd yn Saesneg - nag oherwydd ei gwerth llenyddol cynhenid.

    Cymharer, er enghraifft, gyda gwaith dau fardd Saesneg mawr arall o Gymru yn ystod yr Ugeinfed Ganrif: Dylan Thomas a Dannie Abse.

    Ychydig o feirniadaeth Gymraeg a fu ar waith y cyntaf, er bod ei gefndir teuluol a chymunedol Cymraeg yn llawer cryfach nag eiddo Thomas, ac er bod deunydd i astudiaethau Cymraeg helaeth yno i'r sawl sy'n fodlon edrych.

    Ac anodd yw hyd yn oed ddychmygu beirniad Cymraeg yn trafferthu mynd i'r afael 芒 gwaith Dannie Abse, er bod y bardd hwn o Gaerdydd, yn ogystal 芒 bod yn fardd nodedig, yn llenor rhyddiaith o'r radd flaenaf, ac er mai Cymru yw cefndir llawer iawn o'i waith toreithiog.

    Ond Cymru wahanol yw eiddo Dylan Thomas a Dannie Abse, wrth gwrs, un heb genedlaetholdeb a'r iaith Gymraeg yn ganolog iddi.

    Nid dibrisio gwaith Thomas yw hyn, dim ond nodi fel y llygad-dynnir sylw beirniaid Cymraeg gan y sawl sy'n coleddu'r un bydolwg 芒 nhw.

    Dealladwy, wrth gwrs, ond mae'n werth nodi serch hynny er mwyn cofio nad gwerth llenyddol yn unig yw'r canllaw sydd yn llywio'n blaenoriaethau bob amser.

    Them芒u dihysbydd
    Nid bod amheuaeth yngl欧n 芒 safon lenyddol gwaith R S Thomas, wrth gwrs. Ac nid bod Tom Ellis yn canolbwyntio ar y cenedlaetholdeb. Yn hytrach, fe ddilyna them芒u dihysbydd megis defnydd Thomas o'r ddelwedd, ei agwedd tuag at y via negativa a'i ddarluniad o fyd natur ac o gefn gwlad.

    Ac fe wna'r cyfan mewn modd meddylgar a deallus, a chyda'i ddarllen eang ym maes athroniaeth yn goleuo'r gwaith drwyddo.

    Rhaid nodi y buasai'r llyfr wedi elwa ar fynegai ac ar well prawfddarllen, er mwyn chwynnu camdeipiadau a llythrennau coll. A hynny er mwyn gwneud cyfiawnder 芒'r cynnwys disglair.

    Mae R.S.Thomas a'i Gerddi yn gyfraniad gwerthfawr iawn i faes astudiaethau R S Thomas, ac yn darparu deunydd ar gyfer astudiaethau pellach.

    Y mae'n glod i sylwgarwch a chraffter yr awdur amryddawn hwn o Rosllannerchrugog.
    A chan frodor o Goedpoeth, dyna ddweud mawr.


    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy