主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Llais Cenedl
Cyfrol Deyrnged John Roberts Williams
'Sefydliad nad oedd yn rhan o'r sefydliad!'
  • Adolygiad Glyn Evans o Llais Cenedl Cyfrol Deyrnged John Roberts Williams. Golygyddion: Nan Elis a Gwenno Ffrancon. Gwasg Gwynedd. 拢8.95. Tud:222 + 24 tudalen o luniau.



  • I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

    Mae 'amryw byd ohono', John Roberts Williams, yn y gyfrol hon - gan ddibynnu pwy sy'n sgrifennu amdano.

    Mae yma, er enghraifft, John Roberts Williams y golygydd papur cenedlaethol, John Roberts Williams y dyn ffilmiau, John Roberts Williams y dyn teledu, John Roberts Williams y darlledwr 芒'r llais pruddglwyfus; John Roberts Williams y tad a'r taid; John Roberts Williams y myfyriwr; John Roberts Williams y cyfaill cywir, John Roberts Williams y gyrrwr anystywallt - a John Roberts Williams y dyn drws nesaf.

    Clawr y llyfr "Fe'i cofiwn o fel dyn distaw, diymhongar, na fyddai byth yn codi ei lais, ac fel dyn 芒 chalon fawr a oedd bob amser yn barod i helpu unrhyw un a fyddai mewn trybini . . . Dyn direidus [fyddai'n] hoffi cael cwmpeini ambell noson . . . i weld g锚m b锚l-droed dros baned o de a bisged," meddai Mair Humphreys y bu hi a'i g诺r Gwynfor yn gymdogion iddo yn Llanrug am bron i 29 o flynyddoedd.

    Bu'r golygyddion yn cribo'n f芒n ac yn fanwl am gyfraniadau i'r gyfrol hon ac ni ellir beio'r rhychwant o gyfranwyr o gyfeillion bore oes fel y diweddar Ioan Mai Evans i gydweithwyr mwy diweddar.

    Yr hyn sy'n taro rhywun yn syth yw i John Roberts Williams wneud argraff ar gymaint 芒'i cyfarfu ac yn 么l tystiolaeth y gyfrol hon yr oedd honno bob amser yn argraff ffafriol.
    Ac, wrth gwrs, fyddech chi ddim yn disgwyl dim gwahanol mewn cyfrol deyrnged - a chyfrol deyrnged yn ngwir ystyr y gair yw hon. Cyfrol i edmygwyr rannu eu hedmygedd. Cyfrol fawl.

    I gyd yma
    John Roberts Williams, John Aelod Jones, Mr Williams, J么s, John - maen nhw i gyd yma.

    Hyd yn oed John Bun i gyfeillion cynnar gydag Eirwen Gwynn - yr wyddones a ddenodd i ddalennau'r Cymro - yn egluro i'r llysenw hwnnw gychwyn fel Bunny yn yr ysgol oherwydd ei glustiau mawrion.

    "Ond ni welais i un dim yn anghyffredin yn ei glustiau," ychwanega.

    At y "dau lygaid yn dweud mwy na'i dafod" y cyfeiria ei gyfaill oes a'i edmygydd mawr, Ioan Mai Evans, fodd bynnag.

    "Ein nod wrth lunio'r gyfrol oedd casglu a chywain - trwy gyfrwng teyrngedau ac anectodau - atgofion cydweithwyr, cyfeillion a theulu am y g诺r hwn a edmygid gan gynifer," eglura'r golygyddion.

    Bob yn gyfnod
    Ar gyfer hynny maen nhw wedi rhannu ei fywyd yn gyfnodau gyda'r cyfraniadau yn amrywio o benodau cyfain i bytiau o ychydig linellau gan nifer helaeth o gyfranwyr gan gynnwys pwt am ddigwyddiad y bu'r adolygydd hwn yn dyst iddo.

    Atalnodir y cyfraniadau hyn gan ddetholiadau perthnasol o waith John Roberts Williams ei hun.

    Er nad cyfrol i'w chymryd o'i chwr yw hon y mae modd tyfu gyda John Roberts Williams ynddi hi gan gychwyn gyda'i blentyndod yn Eifionydd a diwedd y daith yn edrych ar y byd dros ei sbectol yn Llanrug. Y ddau lygad yna yn cyfeiriodd Ioan Mai atyn nhw, a'r ddwy glust fawr yna, yn gweld a chlywed cymaint i'r meddwl miniog ei dreulio ar gyfer ei ysgrif radio wythnosol 芒'i gwnaeth yn sefydliad cenedlaethol flynyddoedd olaf ei oes.

    Ys dywed R Alun Evans, olynydd John Roberts Williams yn bennaeth y 主播大秀 yn y gogledd - mor daclus:

    "Fuodd o erioed yn rhan o'r Sefydliad," meddai. "Fe dyfodd i fod yn sefydliad."

    Lleferydd cliriaf
    O bosib mai cyfraniad mwyaf treiddgar y gyfrol yw un Gwilym Prys Davies. Mae ei ysgrif, Llais Cenedl, y defnyddiwyd ei theitl yn deitl y gyfrol hefyd, yn glasur o bwyso a mesur wrth iddo osod John Roberts Williams yn "lleferydd cliriaf y genedl Gymreig ar ddiwedd y ganrif ddiwethaf".

    John Roberts Williams Mae'n cloi ei ddadansoddiad gyda dyfyniad o filfed sgwrs dros ei sbectol John Roberts Williams:

    "Os holwch beth wnes i yn y chwyldro, mi roddaf ateb hen abad yn Ffrainc pan holwyd hwnnw beth wnaeth o yn y chwyldro mawr, ac a orfodwyd i ateb - 'Goroesi'," meddai. Ac meddai Gwilym Prys Davies: "'Goroesi'. Atebiad trawiadol yn dangos bod ei feddwl mor siarp ag erioed. Dyma enghraifft berffaith o'i hiwmor."

    Ac fe oroesodd dros 90 o flynyddoedd gan ddarlledu i'w wythnosau olaf ac un o'r triciau trist yna y mae bywyd mor ffond ohonyn nhw yw; mai gwendid yn y llais unigryw yna 芒'i gorfododd i dawelu yn hytrach nag unrhyw ball ar y meddwl.

    Ond os disgrifiwyd y llais fel un pruddglwyfus mae'r gyfrol hon ymhell o fod yn un brudd wrth drafod dyn yr oedd ei synnwyr digrifwch a'i ffraethineb yn gyneddfau mor werthfawr iddo fel newyddiadurwr ac yn llenor.

    Wrth y llyw
    Mae mwy nag un o'r cyfranwyr yn cyfeirio at John Roberts Williams y dreifar hefyd.
    Y s么n yw ei fod yn yrrwr anystywallt iawn a chlywais ddweud 'na fyddai John byth yn parcio ar 么l cyrraedd pen ei daith - dim ond stopio'r car a'i adael o!'.

    Y mae hanesyn hefyd - nad yw yn y gyfrol hon - am y tynnwr lluniau Geoff Charles, a oedd yn ddyn ceir o hil gerdd, yn rhoi ei wers yrru gyntaf i John Roberts Williams ddyddiau'r Cymro.

    Nid aeth pethau'n dda ac wrth gloi'r car ar 么l gorffen geiriau Geoff oedd; "Yr ydw i eisiau ichi addo un peth imi - na wnewch chi byth gyffwrdd mewn car byth eto."

    Yn un o'i gyfraniadau ef mae'r diddan Ddyfed Evans hefyd yn cyfeirio at ymwneud John Roberts Williams 芒 cheir:

    "Gwnaeth adduned unwaith na fyddai byth yn gyrru car, ond aeth ef a Gwilym R Jones ati i ddysgu tua'r un adeg, a bu ras - o fath - rhwng Golygydd Y Cymro (dan yr enw Stirling Moss) a Golygydd Y Faner (Mike Hawthorn) ar ryw faes awyr yn ochrau Wrecsam.

    "Cyn hyn, bu gan John erthygl yn y Saturday express . . . yn dechrau 芒'r geiriau: Any fool can drive a car. Many do."

    Yr enw
    Fel 'John Aelod Jones' yr oedd llawer yn adnabod John Roberts Williams - yr enw sgrifennu a dynnodd o waith Daniel Owen. Yn wir, yn ystod fy nghyfnod i gyda'r Cymro, flynyddoedd wedi iddo ef adael, wrth yr enw hwnnw y cyfeiriai sawl un o'r argraffwyr ato gan dybio mai 'John Aelod' oedd ei enw iawn.

    Mae sylw gan Meredydd Evans sydd ymhlith un o gyfraniadau olaf y gyfrol hon sy'n cyfleu naws y gyfrol i'r dim:

    "Gan gofio mai at Daniel Owen y troes John am ei enw newyddiadurol cynnar, cystal i mi gloi trwy ddyfynnu pwt o gyngor a roes Wil Bryan i Rhys Lewis: 'Mae nhw yn deyd fod y students run fath 芒'i gilydd - fel lot o postage stamps. Treia fod yn exception to the rule.' "Doedd dim rhaid i'n hen gyfaill ymdrechu i fod yn wahanol. Dichon y gwelir ei debyg: ni ddaw neb i lanw ei le," meddai.

    Dyna grynhoi ysbryd cyfrol y bydd yr edmygwyr wrth eu boddau 芒 hi ac fe gaiff y rhai nad oeddynt yn ei adnabod eu difyrru hefyd.

  • Bu R Alun Evans a Gwyn Llewelyn yn hel atgofion am John Roberts Williams ar Raglen Dei Tomos, 主播大秀 Radio Cymru, nos Sul, Hydref 12, 2008.

  • Cysylltiadau Perthnasol

  • Cyfarfod teyrnged John Roberts Williams

  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy