主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Hen Ffordd Gymreig o Fyw
Trysorfa o luniau Cymru'r oes o'r blaen
  • Adolygiad Glyn Evans o Hen Ffordd Gymreig o Fyw - A Welsh way of Life. Ffotograffau John Thomas. Golygydd Iwan Meical Jones. Lolfa a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. 拢14.95. Tud. 191.


    Mae yna lun yn y llyfr Hen Ffordd Gymreig o Fyw sy'n rhyw led atgoffa rhywun o olygfa heriol mewn ffilm gowboi!

    Rhes o bobl yn sefyll ar draws stryd ym Mhenrhyndeudraeth yn edrych tuag at, a thu draw, i'r camera yn union fel rhywrai yn disgwyl trwbl ac y barod i'w wrthsefyll.

    Mae rhywun yn dyfalu bod diwrnod ymweliad y ffotograffydd yn 1875 yn un cofiadwy i'r trigolion.

    Ar y stryd ym Mhenrhyndeudraeth Yr oedd cryn waith trefnu ar y llun - gosod y bobl a'u cael i sefyll fel delwau heb symud am rai eiliadau achos nid ar amrantiad, fel heddiw, y byddai camera yn cofnodi golygfa yr adeg honno.

    Ac yn nyddiau cynnar ffotograffiaeth yr oedd yn rhaid cwblhau'r cyfan yn y fan 芒'r lle - paratoi a phrosesu'r negyddion pl芒t gwlyb - a'r tynnwr lluniau yn gorfod helcid nid yn unig ei offer ond ei gemegau gydag ef - "pump o botelau llawn o wahanol gyffuriau, Bath trwm tua chwe phwys, gwydrau a lliain i wneud lle tywyll, heblaw y Camera a'r Lens a'r Stand, yr oedd yn rhaid cael cymorth dyn, mul, ceffyl, cerbyd neu rywbeth i'ch cludo".

    Y tynnwr lluniau a aeth i gymaint o drafferth ym Mhenrhydeudraeth, fel ag yr aeth mewn degau o leoedd eraill ar hyd a lled Cymru, oedd John Thomas - dyn sy'n cael ei ddisgrifio fel "ffotograffydd Cymreig pwysicaf oes Fictoria" ac "un o ffotograffwyr mawr y byd" gan awdurHen Ffordd Gymreig o Fyw, Iwan Meical Jones, pennaeth Gofal Casgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth.

    Mae'r llyfr yn cynnwys detholiad helaeth o luniau John Thomas gyda disgrifiad ohonynt yn y Saesneg yn ogystal 芒'r Gymraeg.

    Eglura Iwan Meical Jones mai un o Gellan, Ceredigion, oedd John Thomas, ac iddo fod yn tynnu lluniau ar hyd a lled Cymru yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg ar 么l dechrau trwy wahodd nifer o bregethwyr adnabyddus i eistedd iddo.

    Bu mor llwyddiannus 芒 sefydlu ei fusnes ei hun yn 1867 The Cambrian Gallery gan deithio drwy'r rhan fwyaf o Gymru am 40 mlynedd yn tynnu lluniau o olygfeydd a phobl.

    Dadorchuddio cofeb Henry Richards yn Nhregaron Y trobwynt yn ei fywyd a arweiniodd at yr yrfa arloesol hon oedd gadael ei gartref yn bymtheg oed i weithio'n ddilledydd yn Lerpwl lle daeth "yn un o ddinasyddion parchus a llewyrchus" y ddinas ac yno yr ymddiddofodd gyntaf mewn ffotograffiaeth a chyfuno hynny 芒'i ymlyniad triw i Gymreictod a'i gariad at gefn gwlad.

    Ei daith dynnu lluniau gyntaf i Gymru oedd yn 1867 a bu sawl ymweliad wedi hynny.

    Wedi iddo roi'r gorau i'w fusnes wedi gyrfa lewyrchus - a gwerthfawr i ni heddiw - prynwyd casgliad o dros 3,000 o'i negyddion gorau gan O M Edwards ar gyfer y cylchgrawn Cymru ac erbyn heddiw y mae'r negyddion hynny yn y Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

    Mae'r casgliad o luniau sydd newydd ei gyhoeddi, a chyflwyniad Iwan Meical Jones yn y Gymraeg a'r Saesneg yn ffenestr wych i gyfnod yn ein hanes. Mae'n gyfrol ag oriau o graffu yn perthyn iddi hi ac y mae hefyd yr unig gasgliad sylweddol o luniau John Thomas.

    "Yng ngwaith John Thomas mae gennym gofnod sydd yn bersonol, yn emosiynol ac yn llawn bywyd. Nid yn unig y mae'n ffotograffydd Cymreig o bwys, ond y mae'n un o ffotograffwyr mwya'r byd," meddai Iwan Meical Jones.

    Un o'r pethau sy'n gwneud lluniau John Thomas mor werthfawr yw iddo dynnu lluniau o'r bobl fel ag yr oeddent gan gynnig inni olwg wahanol i'r hyn 芒 gynigir gan y portreadau arferol.

    "Mewn oes pan oedd pawb yn galw am bortreadau oedd yn eu dangos fel pobl barchus, roedd John Thomas yn eithriad oherwydd ei fod yn dewis tynnu lluniau gweithwyr cyffredin, a hyd yn oed gardotwyr a phobl feddw," meddai Iwan Meical Jones.

    Cryddion Mae'r detholiad o luniau yn y gyfrol wedi eu rhannu rhwng tair adran; Llefydd, Pobl a Portreadau ac yn ogystal a lluniau o bobl, rhai yn nodedig fel David Lloyd-George yn gyfreithiwr ifanc tua 1890, y mae lluniau o gymeriadau gyda llysenwau lliwgar fel Arglwydd Penmachno, Jeni Fach, Wil y Felin, Nansi'r Coed, Si么n Sodom, Si芒n y Pabwyr, Mali'r Cwrw, Morris Bab诺n, Elis Wirion, Robin Busnes ac ati.

    O ran lleoedd ymhlith y rhai diddorol y mae lluniau dwbl o'r un lleoedd, un ar ddiwrnod tawel, arferol, a'r llall ar ddiwrnod ffair neu farchnad. trwy ei luniau o'r ffeiriau a'r porthladdoedd, yn ogystal 芒'r capeli a'r golygfeydd, ceir golwg newydd, arloesol ar Gymru a Chymry'r cyfnod.

  • Cysylltiadau Perthnasol

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy