主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Yr Anweledig
Mynd i'r afael yn go iawn 芒'r byd 么l 9/11 am y tro cyntaf yn y Gymraeg
  • Adolygiad Kate Crockett o Yr Anweledig gan Llion Iwan. Gwasg Gomer. 拢7.99.



  • Bydd unrhyw un wnaeth bori'n ofalus drwy'r Cyfansoddiadau a Beirniadaethau ar 么l yr Eisteddfod Genedlaethol fis Awst wedi clywed am y nofel hon eisoes.

    Petai un o feirniaid y Fedal Ryddiaith, Aled Islwyn, wedi cael ei ffordd, Llion Iwan ac nid Mererid Hopwood fyddai wedi sefyll ar ei draed yn y pafiliwn yng Nghaerdydd ac roedd ei ddisgrifiad o'r gwaith yn ddigon i ennyn cryn chwilfrydedd.

    Clawr y llyfr Dyma nofel, meddai, lle nad oes gan yr un cymeriad gysylltiad 芒 Chymru ac sydd wedi'i gosod yn gyfan gwbl y tu allan i Gymru.

    Tybed sut hwyl gafodd yr awdur, wedi iddo osod yr her honno iddo'i hun?

    Y gyntaf
    Mae Yr Anweledig hefyd yn nodedig am reswm arall. Efallai mai dyma'r nofel Gymraeg gyntaf i fynd i'r afael go iawn 芒'r byd 么l 9/11 ac effaith polis茂au'r gyfundrefn sydd ar fin gadael y T欧 Gwyn ar fywydau pobl mewn gwahanol rannau o'r byd.

    Mae i'r nofel ddau brif gymeriad, ac er nad yw'r ddau'n cyfarfod o gwbl, mae un digwyddiad canolog yn eu clymu wrth ei gilydd.

    Bugail ym mynyddoedd yr Hindu Kush yw Hani ac yno mae lluoedd yr Unol Daleithiau'n cynnal cyrchoedd bomio yn erbyn aelodau cudd Al Qaeda.

    Ond mae un o'r peilotiaid sy'n gollwng y bomiau yn gwybod nad terfysgwyr sy'n cael eu taro ond teuluoedd cyffredin.

    Holi pam
    Moslem yw'r Capten Jon Clark, a newidiodd ei enw o'r Mohammed gwreiddiol er mwyn osgoi cael ei fwlio pan oedd yn blentyn ysgol. Ymrestrodd yn y Gwarchodlu Cenedlaethol er mwyn cael ffordd o dalu am ei addysg, ond erbyn hyn, mae'n ei ganfod ei hun yn holi pam bod angen "ei anfon mewn awyren gwerth $30 miliwn, oedd yn defnyddio technoleg llongau gofod, er mwyn gollwng bomiau gwerth miloedd o ddoleri ar gartrefi pridd..."

    Mae Llion Iwan yn ysgrifennu'n hyderus ac yn gredadwy am fyd sy'n ddieithr i'r gynulleidfa Gymraeg: bywyd yn Awyrlu'r Unol Daleithiau, ac yn y mynyddoedd anhygyrch rhwng Pakistan ac Afghanistan.

    Golygfeydd cofiadwy
    Mae nifer fawr o olygfeydd cofiadwy yn y nofel, gan gynnwys y frwydr rhwng y sgorpion a'r ci yn y gwersyll milwrol (delwedd bwerus o'r rhyfel ei hun), a chyfnod Jon/Mohammed yn byw gyda theulu nomadig.

    Nid yw'n swil o ddisgrifio effeithiau'r cyrchoedd bomio ac mae sawl golygfa sy'n peri i'r darllenydd wingo.

    Fel darlithydd newyddiaduraeth efallai nad yw'r syndod bod gan Llion Iwan ddiddordeb arbennig yn y ffordd mae'r ddwy ochr yn defnyddio propaganda rhyfel:
    ar y naill law mae'r gwrthryfelwyr yn mynd ati'n fwriadol i ffilmio pob manylyn erchyll o'r dioddefaint, ac ar y llaw arall mae lluoedd yr Unol Daleithiau'n ffugio ac yn twyllo er mwyn creu naratif rhyfel sy'n ateb eu dibenion nhw.

    Cafodd y nofel hon ei llunio'n gelfydd, gyda'r gwahanol olygfeydd yn plethu i'w gilydd yn gynnil.

    Cip sydyn
    Nofel gymharol fer yw hi, a chip sydyn sy'n cael ei ganiat谩u ar fywydau'r rhan fwyaf o'r cymeriadau heblaw am Jon Clark ond mae Llion Iwan wedi gwneud rhywbeth pwysig drwy ddod 芒'r bobl "anweledig" hynny, chwedl y teitl - unpeople a defnyddio term y newyddiadurwr John Pilger - yn fyw ar dudalennau nofel Gymraeg, er y pellter daearyddol sydd rhyngom.

    Byddai dweud fy mod wedi mwynhau'r nofel hon yn creu camargraff - nid yw'n hawdd ei darllen gan ei bod yn rhoi darlun mor effeithiol o'r anghyfiawnderau sy'n bodoli yn ein byd ni heddiw, ac o'r ffordd y mae pobl ddiniwed ym mhob cwr o'r byd yn dioddef oherwydd penderfyniadau a wnaed ymhell i ffwrdd.

    Codi calon
    Ond eto cododd y nofel fy nghalon am ddau reswm.
    Yn gyntaf, am fod Llion Iwan yn gweld y daioni mewn pobl yn ogystal 芒'r drygioni: er gwaetha'r cyfan, mae'r nofel yn gorffen ar nodyn gobeithiol.

    Ac yn ail, am ddangos y gall llenyddiaeth Gymraeg fod yn uchelgeisiol o ran testunau, a tharo deuddeg.

    Cysylltiadau Perthnasol
  • Holi Llion Iwan

  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy