主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Tonnau tryweryn
Golchi dros y blynyddoedd
Adolygiad Glyn Evans o Tonnau Tryweryn gan Martin Davis. Y Lolfa. 拢8.95.


Ni ellir ond canmol y syniad o sgrifennu nofel gyda boddi Cwm Tryweryn yn golchi drosti.
Mae'n syniad mor dda y mae rhywun yn synnu na wnaed y peth gan rywun arall cyn hyn.

Clawr y llyfr Y peryg yw, wrth gwrs, o beidio 芒'i wneud yn iawn eich bod yn difetha'r peth ar gyfer rhywun arall. Yn hynny o beth yr oedd Martin Davis yn ysgwyddo cyfrifoldeb mawr.

Yr oedd ganddo hefyd ddwy nofel arall dan ei felt a'r croeso a gafodd y rheini yn si诺r o fod wedi rhoi iddo'r hyder i ymgymryd 芒'r barchus arswydus dasg hon.

Wedi'r cyfan y mae i Dryweryn le arbennig iawn yn seici'r Cymry er nad yw, efallai, ond enw ac ambell i graffiti i'r cenedlaethau hynny a anwyd wedi'r cyfnod.

Yr arwyddion yn dda
I'r darpar ddarllenydd mae'r arwyddion yn dda. Dewiswyd Tonnau Tryweryn nid yn unig yn Nofel y Mis gan Gyngor Llyfrau Cymru ond ar gyfer "Silff Lyfrau 2008-09" Cyfnewidfa L锚n Cymru.
A welwn ni hi ar restr hir Llyfr y Flwyddyn hefyd pan ddaw honno? Cawn weld.

Fy hun, rwy'n amau mai unfed ar ddeg fydd hi ar fy rhestr bersonol i o ddeg llyfr gorau'r flwyddyn. Er yn ddifyr a darllenadwy ddigon afaelodd hi ddim fel yr oeddwn wedi disgwyl.

Rwy'n amau i'r awdur gymryd gormod o goflaid trwy geisio cynnwys gormod o wahanol elfennau.

Er ei theitl nid nofel uniongyrchol am foddi Tryweryn mo hon.
Nid mynd i'r afael 芒 gwewyr trigolion Capel Celyn y mae. Ei maes yw effaith y digwyddiad ar wahanol gymeriadau a hynny, debyg, yn gynrychioliadol o wahanol effeithiau'r boddi hwnnw ar Gymru.

A yw'n llwyddo i gyfleu dwyster y cyfnod i rai nad ydynt yn ei gofio mae'n anodd i rywun o'm hoed i, sydd yn cofio, ddweud gan i'r cof hwnnw fod yn elfen bwysig o'r mwynhad.

Tri chymeriad
Canolbwynt ein diddordeb yw ymwneud tri phrif gymeriad a'i gilydd.

Mae'r nofel yn gymysgedd o stori garu, o saga deuluaidd ac elfennau digon tywyll a sinistr y 'thriller' draddodiadol gyda'r awdur yn gwnio i'w frodwaith elfennau fel terfysgaeth yr IRA a gweithredu uniongyrchol gwladgarwyr Cymreig y llwydnos.

Mae yna gymeriadau annelwig y cysgodion fel Twm 'ond nad dyna ei enw iawn'.

Mae yma wewyr, rhwygiadau, tyndra a siomiant serch ymhlith golygfeydd gwirioneddol megis digwyddiadau diwrnod ymddangosiad Emyr Llewelyn gerbron llys yn dilyn ei brotest.

Cymaint o elfennau, yn wir, mae rhywun yn ofni weithiau bod gormod ohonyn nhw nes gwneud y nofel yn anhylaw.

Ond yn ei hanfod, troi y mae'r nofel o amgylch Mefina ac Emlyn genedlaetholgar a'i wreiddiau yng Nghapel Celyn sy'n cychwyn yn gariadon a Des O'Farrell, Gwyddel gweriniaethol y mae Mefina yn syrthio mewn cariad ag ef pan aiff i ffwrdd yn nyrs mewn ysbyty yn - wel ymhle arall ond Lerpwl sychedig - a'i hymadawiad yno yn rhoi ei pherthynas ag Emlyn dan straen a'i difetha.

Byddai mynd i fanylion am y stori yn difetha'r nofel a digon yw dweud mewn adolygiad bod cysgod Tryweryn yn cael ei daflu'n bell dros y nofel wrth i'r stori ymestyn dros gyfnod o hanner can mlynedd i gyd.
Hynny sy'n dod a'r elfen o saga deuluaidd iddi hi.

Edrych yn 么l
Dewisodd yr awdur strwythur difyr ar gyfer dweud y stori gyda chadwyn o olygfeydd sy'n edrych yn 么l yn hytrach na chymryd yr hanes o'i gwr.

Mae hynny'n gweithio'n foddhaol ddigon ac heb beri unrhyw anhwylustod i'r darllenydd er gallwn ddychmygu ei bod yn broses digon cymhleth o safbwynt yr ysgrifennwr ei hun.

Anystwyth
Drwyddo draw mae'r sgrifennu'n uniongyrchol a di-lol er bod weithiau sgyrsiau anystwyth a rhai disgrifiadau yn ymylu ar y melodramatig megis s么n am "olwynion chwyrndroellog" cerbyd a gw锚n "ddymunol a amlygai ddwy res o ddannedd iachus eu golwg".

Gellid elwa o fod wedi ffrwyno ambell i drosiad hefyd - yn enwedig pan fod hynny'n arwain at gymysgu delweddau fel ag yn y ddau baragraff yma sy'n dilyn ei gilydd:

"Ac yn sydyn teimlai Mefina fod y planedau wedi ailgychwyn ar eu rhod a'r clip ar haul eu cyfeillgarwch gynt wedi cilio unwaith ac am byth.

"Ac wedyn roedd y nos wedi'i lyncu a Mefina'n wynebu unigrwydd y t欧 drachefn, ond roedd pethau wedi symud a'r d诺r eisoes yn llifo o'r newydd o dan y bont."

Weithiau, ond nid yn aml, gwall gramadeg sy'n tarfu ar lyfnder brawddeg. Ddwywaith, dair, cyfeirir at fenyw wrth y ffurf wrywaidd "peth bach" ac fel "hwran bach".

Er nad yn wallus efallai, dydi disgrifio merch fel "slebog hyll" ddim yn gweddu rhywsut ychwaith.

Ond yn y diwedd perthyn mwy o bleser nag o siom i Tonnau Tryweryn. Er weithiau'n anystwyth maen afaelgar a'r awdur yn ddeheuig iawn yn gosod abwyd i gadw'n chwilfrydedd yn effro a chyda 270 o dalennau mae mwy o afael ynddi na nifer o nofelau Cymraeg eraill.


Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy