主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Bore Newydd
Teitl gobeithiol - ac wedyn . . .?
  • Adolygiad Meg Elis o Bore Newydd gan Myrddin ap Dafydd. Carreg Gwalch. 拢6.50.



  • Bore newydd - a llyfr newydd o gerddi.
    Ai llun machlud sydd ar y clawr?
    Mae mor grefftus, mae'n anodd dweud, felly rwy'n rhydd i f'argyhoeddi fy hun y gallai fod yn wawr.

    Clawr y llyfr Wedyn rwy'n agor y gyfrol, a gweld lluniau.
    Disgwyl hynny, a chofio gyda blas sut y mae ambell i fardd cyfoes yn cyfuno lluniau a cherddi yn gelfydd graff. Y lluniau cychwynnol - lluniau o adfeilion. Ac felly hefyd ymlaen trwy'r gyfrol. Maen nhw'n ffotograffau da - ond...?

    Crefftus a chywrain
    Ond tydw i ddim yn feirniad lluniau.
    Felly dwi'n troi at y cerddi.
    Ac yn 么l fy arfer, darllen ar hap, plymio i mewn i ganol y gyfrol - a dau farnwnad, neu gerddi cof yw'r rhai cyntaf a welaf.

    Maen nhw'n grefftus, yn gywrain fel y gellid disgwyl gan y bardd hwn, a gellir canmol yr un rhinweddau yn y moliant i'r 'cenedlaethol' (Gwyn Erfyl) a'r 'lleol' (Gwyn Elis, Llithfaen).

    Ydw, rydw i'n cael yr un blas wrth eu darllen . Ac i fod yn hollol deg, nid marwnadau yw popeth - mae darllen y gerdd i gyfarch Gwyn Thomas yn llonni calon unrhyw un, fel y mae'r gwrthrych ei hun bob tro.

    Ydi, mae Myrddin ap Dafydd yn llawn ymwybodol o swyddogaeth y pencerdd: mae'n moli ac yn marwnadu.
    Cymreig iawn.

    Ennill rhai brwydrau
    Ond erbyn hyn, dwi'n dechrau meddwl - diawch, mi ddaru ni ennill rhai brwydrau, 'ndo? Mae 'na fuddugoliaethau i orbwyso Catraeth, does bosib?

    Ac yn union wedi hynny, darllen un o gerddi gorau'r gyfrol, Llafnau, a'r is-deitl Rhan o'r dorf mewn angladd llanc, sydd yn wrthnysig yn profi fod modd i fardd celfydd eithriadol chwythu anadl einioes i'r hen hanes hwn o hyd.
    Damia fo.

    Ond er gwaethaf hynny, ac er gwaethaf crefft ddiamheuol y gwaith hwn o'r clawr i'r cefn - dwi'n dal i feddwl mai'r peth mwyaf gobeithiol am y gyfrol ydi'r teitl.

    Mae'r cynnwys tu mewn i'r cloriau yn atgofus, hiraethus, besimistaidd.

    Rown i'n darllen cerddi atgofus, hiraethus, pesimistaidd pan oeddwn i yn fy arddegau - a bryd hynny yn tybio bod yn rhaid bob 'na rywbeth gwell na hyn.

    Ac mae 'na.
    Mae 'na fyd newydd, Cymru newydd - a dwi'n rhyw synhwyro nad ydi'r bardd yn or-hoff o hyn, er gwaetha'r broliant sy'n crybwyll "cyfle newydd a "nos ar yr hen syniadaeth".

    O'r hyn wela'i yn Bore Newydd, mae cerddi fel Urddas, Adrodd yr Hanes ac Agoriad Swyddogol yn gogor-droi yn ormodol o gwmpas yr hen syniadaeth; ond mai'n hen syniadaeth ni ydi hi.

    Lle mae'r bore newydd?
    O gadwch i ni alarnadu am Dryweryn, o, och a gwae mae'r pyllau wedi cau....... Lle mae'r bore newydd?

    Ac yn bwysicach fyth, lle mae'r beirdd sy'n canu am y newydd-deb hwn?

    Maen nhw yno, ac y mae eu lleisiau i'w clywed.

    Anaml, er hynny, y mae'r lleisiau newydd yn canu mor grefftus ag y gwna Myrddin ap Dafydd yn y llyfr hwn.
    Dyna'r piti.
    Oherwydd mae'n well gen i eu neges nhw - ac os ydw i, yn ganol oed a mwy, yn dweud hynny - beth am y cynulleidfaoedd nesaf, sydd yn perthyn go-iawn i fore newydd y genedl?


    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy