主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Brwydr y Preselau
Trigolion yn herio'r Swyddfa Ryfel
  • Adolygiad Gwyn Griffiths o Brwydr y Preselau gan Hefin Wyn. Clychau Clochog. 拢6.95.



  • Mwynhad arbennig fu darllen Brwydr y Preselau gan Hefin Wyn - hanes ymdrech pobol yr ardal unigryw honno i achub 60,000 erw o diroedd rhag eu cipio gan y Swyddfa Ryfel.
    Brwydr a barhaodd o 1946 hyd 1948.

    Clawr y llyfr Gwyddom am yr hyn a ddigwyddodd i Epynt a'r modd y dinistriwyd ardal Gymraeg ei hiaith ac y symudwyd teuluoedd lawer o'u cartrefi.

    Ond ni wyddom hanes y frwydr i achub calon Gogledd Sir Benfro, hwyrach oherwydd - yn wahanol i Epynt a Thryweryn - mai 'ni' enillodd yn yr achos hwn!

    Ymladdodd preswylwyr y Preselau frwydr gyfrwys ddigyfaddawd yn erbyn holl rym ac adnoddau y Swyddfa Ryfel.

    Fel y sgrifennodd Waldo Williams yn ei gerdd Preseli ar y pryd: "Mae rhu, mae rhaib drwy'r fforest ddiffenestr,
    Cadwn y mur rhag y bwystfil, cadwn y ffynnon rhag y baw."

    Bu ymateb chwim a phendant y trigolion i'r newydd fod y Swyddfa Ryfel yn llygadu mynyddoedd y Preseli yn arwyddocaol yn yr hanes cynhyrfus hwn.

    Taranu yn erbyn
    Trannoeth i'r stori ymddangos yn y Western Mail yr oedd y Cynghorydd Mathias Davies, gweinidog Capel y Gelli, Llawhaden, a Horeb, Maenclochog, ar ei draed yn taranu yn erbyn cynllun yng Nghyngor Sir Benfro gan sicrhau gwrthwynebiad ei gyd-aelodau.

    Ymhen dim o dro yr oedd Pwyllgor Diogelu'r Preselau wedi ei ffurfio gyda Mathias Davies, yn enedigol o Solfach, yn gadeirydd.

    Diddorol gweld cynifer o weinidogion ar flaen y gad - dynion fel y Bedyddiwr R Parri Roberts, Bethel, Mynachlog-ddu, cenedlaetholwr a heddychwr gwargam, tanbaid o Fodedern.

    Un arall oedd y Parch Joseph James, gweinidog gyda'r Annibynwyr ym Methesda, Llawhaden, a Phisgah, Llandysilio, ond yn frodor o Ddowlais.

    Yn ogystal 芒 bod yn 'bregethwyr mawr' roedd y tri hyn yn arweinyddion yn eu cylchoedd hefyd; yn ddynion a digon o hyder i ymladd y frwydr ar eu tir ar eu telerau nhw eu hunain - nid ar dir y gelyn.

    Gweddi
    Adroddir y stori, sy'n rhan o chwedloniaeth y fro, am gynrychiolwyr y Swyddfa Ryfel yn dod i gyfarfod 芒'r trigolion ym Maenclochog.

    Ac wrth i un o'r swyddogion milwrol ddechrau ar ei ffregod torrodd Joseph James ar ei draws gyda'r geiriau, "Gadewch i ni wedd茂o ..." a galw ar Parri Roberts i arwain.

    Yn 么l yr hanes bu'r weithred seml hon - mewn iaith oedd yn ddieithr iddynt - yn fodd i fwrw cynrychiolwyr y Swyddfa Ryfel oddi ar eu hechel.

    A phan ddechreuodd y swyddogion milwrol ddadlau mai tir s芒l oedd dan sylw yr oedd Parri Roberts yn ei dro yn annog Joseph James i ddweud wrthyn nhw mai "magu eneidiau" oedden nhw'n wneud ar lechweddau'r Preseli.

    Ar bob ffrynt
    Ymladdwyd y frwydr ar bob ffrynt posib - y perygl o ddifwyno'r cronfeydd d诺r oedd yn diwallu trefi Hwlffordd ac Aberdaugleddau; y cyfoeth henebion a chysylltiadau'r fro gyda Ch么r y Cewri, y Mabinogi a chwedlau Arthur; y bywyd gwyllt; y ffaith fod cynllun ar droed i roi statws Parc Cenedlaethol i'r ardal; yr iaith a'r diwylliant; Dewi a'r seintiau a'r cysylltiadau 芒 Thyddewi ...

    Cadwyd y storm i fynd gyda llythyron ac erthyglau i'r wasg ac yn 么l Hefin Wyn y cyntaf i ymateb i'r newydd oedd D J Williams, Abergwaun, un o'r tri roes d芒n i'r ysgol fomio ym Mhenyberth.

    Mewn llythyron yn y Western Mail a'r papurau lleol galwodd am am ddefnyddio "bob dull moesol ac ysbrydol" i ymladd.

    Dywed Hefin Wyn i DJ fod yn procio'n ddyfal ar y cyrrau ond heb fod yn or-amlwg .

    Yr oedd yr hen gadno'n gyfrwys iawn, oherwydd er ei fod yn annwyl iawn yng ngolwg llawer o'i gyd Gymry nid pawb yng nghyffiniau Abergwaun edrychai arno fel arwr cenedl.

    Ac os oedd yna garfan sylweddol o weinidogion oedd yn bopeth yn ardaloedd y Preselau, roedd y prifathrawon lleol yn amlwg yn y frwydr - neb yn fwy na Titus Lewis, Maenclochog, ddewiswyd yn ysgrifennydd y Pwyllgor Diogelu.

    Papurau lleol
    Clywais fod Hefin Wyn yn gofidio iddo droi'n hwyr yn y dydd at y pwnc hwn a bod nifer fawr o'r rhai brofodd ferw'r frwydr wedi marw cyn iddo gael y cyfle i'w holi ond y mae yna ddywediad Saesneg i'r perwyl mai "newyddiaduraeth yw drafft cyntaf hanes" a chafodd yntau gloddfa werthfawr o wybodaeth mewn papurau lleol fel y County Echo, Abergwaun, y Tivyside and District Advertizer yn Aberteifi, y Western Telegraph yn Hwlffordd ac uwchlaw pobun, y Narberth, Whitland and Clynderwen Weekly News, argraffiad o'r West Wales Weekly Observer, Dinbych-y -pysgod.

    Mae'n amlwg bod y golygydd, Glyn Walters, yn ogystal 芒 gohebwyr eraill y Weekly News gant y cant y tu cefn i frwydr trigolion y Preselau i gadw'u hetifeddiaeth.

    Er, yn rhyfedd braidd, ni cheir yn y gyfrol gyfeiriad o gwbl at bapur arall tref Hwlffordd, y West Wales Guardian.

    Gwelwn fod diddordeb mawr gan Y Cymro yn y frwydr yn ogystal 芒 Baner ac Amserau Cymru lle bu Saunders Lewis a Kate Roberts yn annog a chefnogi.

    Ffynonellau eraill y gwaith clodwiw hwn yw dogfennau swyddogol y Llywodraeth a chofnodion y Pwyllgor Amddiffyn a ddiogelwyd gan deulu Titus Lewis.

    Darlun o gymdeithas
    Wrth gloddio yn y papurau lleol, gwelir bod Hefin Wyn wedi'i hudo gan straeon eraill yn y papurau, adroddiadau am achosion llys, eira mawr 1947, cyfarfodydd cystadleuol, eisteddfodau, dram芒u, Cymanfaoedd Canu ac ati ac ar un olwg gellid tybio eu bod yno i besgi rhywfaint ar y gyfrol ond maent hwythau yn cyfrannu at greu darlun o gymdeithas wledig, ddiwylliedig, ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, yn ddibynnol ar ei hadnoddau ei hun am ddifyrrwch.

    Yn ystod cyfnod byr yn gweithio yn yr ardal, cefais gyfarfod amryw o'r bobol y cyfeirir atynt yn y gyfrol - yn arbennig Parri Roberts a Titus Lewis.

    Hefyd y cyn Arolygwr Ysgolion, Caleb Rees, un arall o arweinwyr y Pwyllgor Amddiffyn, g诺r a aned yn Esgairordd, ger Crymych, ond a oedd erbyn hynny wedi ymddeol i Dalacharn, ac yr oeddwn yn adnabod y prifathrawon a enwir bob un.

    Stori gyffrous
    Melys, hefyd, yw gweld enwau nifer o bobol ifanc y deuthum i'w hadnabod yn dda ddechrau'r Chwedegau - a gwerth nodi fod gan y Parch Parri Roberts un ferch ychwanegol i'r rhestr o'i blant yn y gyfrol, sef Morfudd.

    Cofiaf y tro diwethaf i mi i'w chyfarfod mewn Cymanfa Ganu yn un o gapeli Cymraeg Llundain tua 1971.

    Dyma, yn wir, stori i gynhyrfu'r gwaed y dylem fel cenedl ymfalch茂o ynddi.


    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy