主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Bedwen Lyfrau
Cyffro Barcelona ar lannau'r Fenai
Bydd 12 o lyfrau sydd newydd eu cyhoeddi yn cael sylw mewn g诺yl lyfrau fawr yng Nghaernarfon ddydd Sadwrn, Mai 5.

Mae'r 诺yl yn dilyn llwyddiant g诺yl arall debyg y llynedd, Bedwen Lyfrau, ac fe fydd yn gymysgedd o bob math o weithgareddau yn ymwneud 芒 llyfrau a darllen ar batrwm gwyliau tebyg mewn gwledydd tramor.

Fe'i trefnir gan Gwlwm Cyhoeddwyr Cymru a bydd yn cynnwys sesiynau a pherfformiadau gan blant, cystadleuaeth deud j么c i blant, helfa drysor lenyddol, cwis tafarn llenyddol, sesiynau holi a thrafod gydag awduron adnabyddus fel Gwyn Thomas ac Eigra Lewis Roberts.

Bydd y rhan fwyaf o'r digwyddiadau yn Galeri (01286 685222)

Dyma ddetholiad o'r prif ddigwyddiadau ddydd Sadwrn:
  • 10.00 - DJ a Valentine -holi Emyr Hywel ac Arwel Vittle
  • 11.00 - Dylan Iorwerth yn holi Gwyn Thomas ac Eigra Lewis Roberts am bwysigrwydd y syniad o le yn eu gwaith
  • 12.00 - Lansio cyfrol ddiweddaraf Caryl Lewis, - Y Gemydd
  • 1.00 - Holi Dylan Iorwerth am ei hunangofiant, Nabod y Teip
  • 2.00 - Cofio 69 - Lansio Yr Arwisgo -Sonia Edwards
  • 3.00 - 'Tywysogion' - Sgwrs gan Spencer Smith am y gyfrol a'r gyfres deledu

    STIWDIO 2:
  • 11.00 - Sesiwn Gemau Atebol
  • 12.00 - Hen Longau Sir Gaernarfon - Sgwrs a sleidiau gan Robin Evans, Moelfre, ar gyfrol David Thomas
  • 1.00 - Llyfrgell Genedlaethol Cymru - 'Cyhoeddi ar y We. - Datblygiadau cyffrous'
  • 2.00 - Twm Elias yn rhoi cyflwyniad powerpoint ar Smyglwyr Cymru.
  • 11.00 - Lansio pedair cyfrol ddefosiynol gan Gyhoeddiadau'r Gair - (Yr Enw Mwyaf Mawr, Emynau Ffydd 2, Geiriau Ffydd, Adlais.
  • 1.00 - 'Morwr Tir Sych' - J. Geraint Jenkins, cyn-guradur Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan. Sgwrs a sleidiau ar ei hunangofiant
  • 3.00 - Lansio Merched Gwyllt Cymru gan Wasg Gwynedd
  • 7.00 - 8.30 Nos Sadwrn - Dathliad o Lenyddiaeth plant gyda Gwyneth Glyn, Bethan Gwanas, Myrddin ap Dafydd yn cyflwyno nifer o artistiaid amrywiol.

    BAR DOC
  • Y Cymro - dathliad 75 mlynedd
  • 4.00 - Gwobr Cyfraniad Oes Bedwen Lyfrau - Cyflwynir gan Gwyn Thomas, Bardd Cenedlaethol
  • 4.30 - Alun Jones yn Holi Llwyd Owen
  • Helfa Drysor Lenyddol o amgylch tref Caernarfon ar fore Sadwrn -dan ofal Siop Palas Print
  • Cwis Tafarn Llenyddol (Undeb yr Ysgrifenwyr) 9.00 yn Nhafarn y Prince of Wales - cwisfeistr: Geraint Lovgreen.

    I'r plant lleiaf
    Plant hy藛n
  • 11.00 - Sach Stori
  • 12.00 - Gweithdy Morgan Tomos (Cyfres Alun yr Arth)
  • 1.00 - Lliwio efo Sam T芒n
  • 2.00 - Sach Stori
  • 3.00 - Gweithdy crefft (Morgan Tomos)
    DYDD SADWRN, 10.00-5.00)
  • Sgwadiau Sgwennu 10.00 - Gwen Lasarus 12.00 - Iwan Llwyd 2.00 - Caryl Lewis
  • 12.00 - Cystadleuaeth Joc y Dydd efo Geraint Lovgreen
  • 3.45 - Darlleniadau'r Sgwadiau Sgwennu
  • 2.00 - 'Cofio 69' - Lansio Yr Arwisgo - Sonia Edwards
  • 11.00 Sesiwn Gemau Cymraeg

    Erbyn hyn yn rhan swyddogol o weithgarwch Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru syniad y prifardd a'r cyhoeddwr Myrddin ap Dafydd oedd g诺yl o'r fath yn y lle cyntaf wedi ei ysbrydoli gan 诺yl debyg yn Barcelona.

    Myrddin ap Dafydd O'r cychwyn cyntaf bu'n freuddwyd ganddo weld g诺yl lyfrau debyg yng Nghymru

    "Yno, roedd stondinau ar y Ramblas, roedd hi fel Steddfod ym mhob sgw芒r, roedd awduron a bandiau, grwpiau canu a chyhoeddwyr wrthi drwy'r dydd a theuluoedd yn mwynhau'r cyfan ac yn prynu llond sachau o lyfrau," meddai.

    "Roedd y pwyslais ar adloniant a gwerthu gyda 12.5% o holl lyfrau'r flwyddyn yn cael eu gwerthu ar yr un diwrnod hwnnw yn Barcelona," meddai.

    Dan ormes
    Mae'n ddiddorol sylwi mai g诺yl a sefydlwyd yn dilyn cyfnod pan waharddwyd Catalaneg yn yr ysgolion dan lywodraeth Franco.

    "Pan fu farw Franco yng nghanol y Saithdegau, codwyd y gwaharddiadau ar yr iaith. Gyda'u hysbryd ar d芒n, penderfynwyd ailddysgu'r cenedlaethau coll i ddarllen llyfrau yn eu hiaith eu hunain a rhan o'r ymgyrch bwysig honno oedd cael 'diwrnod prynu llyfrau Catalaneg' ar eu diwrnod cenedlaethol, Ebrill 23.

    Tyfodd honno i fod yn gyfuniad cyffrous o lyfrau newydd, adloniant torfol a gwerthu a mwynhau mawr.

    "Gobaith Cwlwm Cyhoeddwyr yw y bydd Bedwen Lyfrau yn gychwyn ar ddathliadau tebyg yn y byd cyhoeddi Cymraeg y gwanwyn hwn," meddai Myrddin ap Dafydd.

  • Cysylltiadau Perthnasol




    cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy