主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Bili Boncyrs
Nid ar ddamwain y cafodd Bili Boncyrs ei wallt coch.


A hwythau gyda gwalltiau coch eu hunain gwyddai awdur ac arlunydd Bili Boncyrs a'r Pants Hud a Bili Boncyrs a'r Cynllun Hedfan pa mor anodd y gall bywyd fod i blant gwallt coch.

A dyna pam, meddai Caryl Lewis, y penderfynodd hi a'r arlunydd Gary Evans wneud Bili yn gochyn

Neb pengoch
"Pan oeddwn i'n tyfu i fyny doeddwn i ddim yn teimlo fod gennyf lawer o gymeriadau pengoch cryf i edrych i fyny atynt," meddai.

Yn amlach na pheidio, meddai, testun sbort yw cymeriad 芒 gwallt coch mewn llenyddiaeth.

Clawr y llyfr"Roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth am hynny felly es ati i greu cymeriad positif i blant pengoch a gobeithio y bydd Bili Boncyrs yn medru bod yn arwr i unrhyw plentyn pengoch yng Nghymru," meddai.

Dywed Caryl ei bod hi'n gofidio pa mor hawdd yw hi i blant pengoch fod yn gyff gwawd.

"Dwi'n ymwybodol ohono ers yn blentyn. Gwelais fechgyn yn cael amser caled ofnadwy yn cael eu galw'n cochyn a carrot top a phob math o bethau. Roeddwn i'n teimlo drostyn nhw er na wnaeth y peth erioed beri loes mawr i mi yn bersonol gan fy mod yn gymeriad eithaf cryf," meddai.

Hwyl a difyrrwchOnd ychwanegodd mai hwyl a difyrrwch yw'r rheswm pennaf y tu 么l i lyfrau Bili Boncyrs sy'n cael eu cyhoeddi gan y Lolfa ac i'r syniad am Bili ddod iddi hi a Gary pan oedd y ddau yn gweithio gyda'i gilydd i gwmni cysylltiadau cyhoeddus.

"Ambell i ddiwrnod byddai Gary, pan yn cyrraedd y swyddfa, yn dweud 'Dwi'n teimlo'n Bili Boncyrs heddiw,' ac oddi yno y daeth yr enw," meddai Caryl.

O ran arlunio ac o ran stori a chymeriadau gwnaeth Caryl a Gary ymdrech arbennig i roi gwedd fodern i'r llyfrau.

"Mae'r dylunio a'r sefyllfa yn fodern gyda Mrs Boncyrs yn mynd allan i weithio a Mr Boncyrs yn coginio," meddai.

Yn un o'r straeon Dad, Mr Boncyrs, sy'n cael ffedog newydd drwy'tr post.

Mae gan y gyfres ei gwefan ei hun hefyd lle gellir cysylltu 芒 Charyl a Gary .

Pris Bili Boncyrs a'r Pants Hud a Bili Boncyrs a'r Cynllun Hedfan yw 拢2.95 yr un.

Cysylltiadau Perthnasol




cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy