主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Gweledigaetheu y Bardd Cwsc
Benthyg o ieithoedd eraill i greu clasur gwir Gymreig
  • Glyn Jones yn cael ei swyno gan iaith a darluniau Gweledigaethau y Bardd Cwsc

    Aeth dros dri chan mlynedd heibio ers cyhoeddi Gweledigaetheu y Bardd Cwsc gan Ellis Wynne.

    A 30 o argraffiadau wedyn ac mae'r llyfr yn dal i'n rhyfeddu gymaint fel yr enillodd le iddo'i hun ymysg clasuron ein ll锚n.

    Er hyn, clasur o natur wahanol i'r arfer yw'r Gweledigaethau, am i Ellis Wynne fenthyg yn helaeth o weithiau eriall.

    Eto, llwyddodd i wisgo'r llyfr gyda'r brethyn Cymreiciaf un.

    O'r Sbaeneg
    Man cychwyn Gweledigaetheu y Bardd Cwsc yw Los Suenos y Sbaenwr Quevado, saith gweledigaeth a ymddangosodd rhwng 1606 ac 1627 a'u cyfieithu i nifer o ieithoedd.

    Er mai at gyfieithiad Saesneg Roger L'Estrange y trodd Ellis Wynne nid eu cyfieithu i'r Gymraeg a wnaeth ond darllen y cwbl, dethol yr hyn a hoffai a'u hasio ynghyd i ffurfio tair gweledigaeth newydd sbon.

    Trodd yr awdur at awduron eraill hefyd am ysbrydoliaeth:
  • Daw'r 'Parliment Uffernol' o Paradise Lost Milton.
  • A dichon y daw cynllun y Ddinas Ddihenydd o 'Ffair Wagedd' Taith y Pererin.

    Ond er mai clasur a wnaed o glasuron yw'r Gweledigaetheu Ellis Wynne ei hun yw'r pensaer a'r Gweledigaethau felly'n waith gwreiddiol.

    Cymreigio'r gwaith
    Mae'n ddifyr gweld sut y Cymreigiodd Ellis Wynne y gwaith.

    Dyna'r teitl. Nid Sbaenwr oedd y Bardd Cwsg, na Sais ychwaith, ond Cymro a drigai yn y ddeuddegfed neu'r drydedd ganrif ar ddeg a phriodolir llawer o broffwydoliaethau iddo.

    Yng Nghymru y gosodir y gwaith hefyd: " . . . pan oedd hi'n llawer twymnach yng nghegin Glynn-cywarch nac ar ben Cadair Idris," meddai yn Gweledigaeth Angeu.

    A math o Annwfn Celtaidd yw gwlad angau lle mae'r darllenydd yn cyfarfod tri o'n beirdd pwysicaf, Merddyn, y Bardd Cwsc go iawn a Taliesin Ben Beirdd.

    O gofio bod y chwedlau yn dweud bod Taliesin yn anfarwol, ac yn atgyfodi ym mhob oes mae hyn yn arwyddocaol gan fod Ellis Wynne yn rhoi diwedd ar y celwydd trwy fwrw Taliesin i wlad yr angau.

    Rhaid gofyn hefyd ai dychan beirdd y cyfnod - a gredent eu bod cystal 芒'r hen feirdd pan nad oeddent mewn gwirionedd yn ddim ond beirdd ffug - trwy gael dau fardd cwsg, yr un go iawn ac awdur y stori.

    Yn ddiddorol, er llid yr awdur yn erbyn "pob rhyw gerdd faswedd, dafod a thant" dewisa Ellis Wynne asio ei dair gweledigaeth ynghyd gyda'r union bethau hynny - cerdd dafod a cherdd dant, pob un o'r cerddi ar d么n adnabyddus, fel pe'n disgwyl iddynt gael eu canu.

    Mae fel pe'n ymrafael yn erbyn dwy safon, y traddodiad llenyddol Cymraeg a chanonau'r Eglwys Anglicanaidd.

    Cymhelliad moesol
    Fel Quevado, cymhelliad moesol a barodd i Ellis Wynne ysgrifennu'r Gweledigaetheu ac mae'r disgrifiad o'r plasty adfeiliedig yn 'Cwrs y Byd' yn adlewyrchu'r hyn a ddigwyddai yng Nghymru Ellis Wynne lle'r oedd uchelwyr yn Seisnigo ac yn troi o fod yn w欧r "lusengar, daionus" i fod yn drahaus.

    Mae'n eu dychan drwy ddefnyddio'i brif arf - codi drych i wyneb cymdeithas.

    Dichon fod y darlun o'r pendefig; "mewn Dr欧ch yn dyscu chwerthin yn gymwys heb ddangos i'w Gariad ormod o'i ddannedd" yn ategu hyn.

    Agwedd eithafol
    Yn yr un ffordd mae'n dangos ei agwedd eithafol a dilornus at sectau crefyddol gan ddisgrifio fel "Gyrr o Gwaceriaid" y Crynwyr ac mae'n galw'r Piwritaniaid yn "dylwyth y sgubor" gan alw arnynt i "chwydu peth o'r gwaed breiniol".

    Mae'r darluniau hyn yn rhan fawr o ap锚l y Gweledigaethau.

    Llafar a llenyddol
    Sylwer hefyd ar ddawn yr awdur i amrywio ei ffordd o ddweud fel ei bod yn gweddu i'r cynnwys.

    Dechreuir pob gweledigaeth yn y byd go iawn a'r brawddegau yn gyfuniad o geinder Yr Ymarfer o Dduwioldeb a rhethreg Ciceronaidd:

    "Felly o hir drafaelio 芒'm llygad, ac wedi 芒'm meddwl daeth blinder, ac ynghysgod Blinder daeth fy Meistr Cwsc yn lledradaidd i'm rhwymo; ac 芒'i goriadeu plwm fe gloes ffenestri fy Llygaid a'm holl Synhwyreu eraill yn dynn ddiogel."

    Brawddeg sy'n dawnsio fel sgidiau'r crydd ac yn hudolus wrth iddo bersonoli cwsg a darlunio'r cyflwr rhwng cwsg ac effro.
    Brawddeg sy'n cystadlu'n hawdd 芒 rhai Fyrsil a 主播大秀r.

    Ond wedi ennill ein diddordeb, rhaid i'r awdur yn awr ei chadw ac mae'n gwneud hynny gyda iaith liwgar Ardudwy yng ngenau'i gymeriadau.
    "Yn wir, parch mawr . . . oddiwrth y f芒th bembwl a hwn.," meddai Taliesin Ben Beirdd. Nid yn unig mae'n iaith sy'n berwi o briod-ddulliau Cymraeg ond mae hefyd yn iaith nas gwelwyd erioed o'r blaen mewn llenyddiaeth Gymraeg.

    Parodd Ellis Wynne iddi sefyll yn dalsyth ochr yn ochr 芒'r iaith lenyddol a'r ddwy mewn harmoni 芒'i gilydd.

    Hyn - 芒'r darluniau cofiadwy - sy'n gwneud Gweledigaetheu y Bardd Cwsc yn llyfr mor arbennig.

  • Cyhoeddir Gweledigaethau y Bardd Cwsc gan Wasg Prifysgol Cymru. 拢8.99.

  • Mae'r adolygiad hwn yn rhan o gynllun cyfrannu i bapurau bro a ddaeth i ben Ionawr 2008 rhwng 主播大秀 Cymru ac Antur Teifi.

    Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi


  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy