主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Drych y Prif Oesoedd
Gwneud i ffrwyth dychymyg ymddangos fel Hanes

  • Glyn Jones yn dweud beth sy'n gwneud Drych y Prif Oesoedd yn llyfr mor arbenniog


  • Cyhoeddwyd Drych y Prif Oesoedd gyntaf yn 1716, a fersiwn arall wedyn yn 1740.

    Daeth y llyfr yn un poblogaidd yn syth yn bennaf am mai dyneiddiwr yn anad dim oedd yr awdur, Theophilus Evans.

    Creu epig
    Nid sgrifennu llyfr hanes oedd ei fwriad ond epig Gymreig fel yr Iliad neu'r Oddysey mewn rhyddiaith.

    Ceisiodd wneud hyn drwy gyflwyno dwy stori i'w genedl; stori'r Cymry a stori Protestaniaeth.

    Y gyntaf yn trafod hanes y genedl o'i tharddiad ym Mabel hyd at ei chwymp gyda llofruddiaeth Llywelyn.

    Byddai'r ail yn trafod cyflwyno Cristnogaeth i'r ynysoedd hyn yn ddilwgr gan Joseff o Arimatheia, bod Eglwysi yn bodoli yn annibynnol o Rufain, a bod y ddau destament ar gael yn Gymraeg.

    Yr hyn sy'n rhyfeddol am yr awdur yw iddo lwyddo i argyhoeddi darllenwyr ei ddydd, a darllenwyr am genedlaethau wedyn, bod yr hyn a ddywedai yn wir bob gair.

    Bron iawn ein bod yn ei gredu yn awr gan fod cymaint o hyder mewn gosodiadau fel:
    "Pa hawl oedd gan y naill na'r llall i awdurdodi yma? Cewch glywed."

    Creu perthynas
    Hefyd, mae'r cwestiynau rhethregol yr oedd Theophilus Evans mor hoff o'u defnyddio yn sefydlu perthynas rhyngom ni ac yntau.
    Perthynas o ddisgybl ufudd ac athro gwybodus.

    Ymhellach, mae'r awdur yn cefnogi popeth a ddywed yn null y gwir hanesydd. Er enghraifft, pan ddywed mai'r Cymry a ddarganfu America dywed:
    "Fod amryw eiriau Cymraeg gan bobl y parthau hynny hyd y dydd heddyw, lle y gwladychodd y Cymry gyntaf . . . Pengwyn yw enw aderyn 芒 phen gwyn iddo; Coch y D诺r yw enw aderyn arall."

    Y Penguin a'r Cockatoo a olygai ond mae'r modd y sylwodd yr awdur ar yr enwau Saesneg a'u haddasu i'r Gymraeg yn ein perswadio mai fel arall yr oedd ond mae'n dystiolaeth i'w ddawn fel awdur.

    Dwy ochr
    Eto, fel gwir hanesydd mae'n edrych ar ddwy ochr dadl.
    Gwyddai fod beirniadaeth hallt ar Historia Sieffre o Fynwy gan haneswyr Seisnig a gallai ddychanu'r rhain yn orchestol gan alw llyfr Gwylim bach yn:
    "sothach o gelwyddau haerllug yn erbyn y Cymry."

    Wedi codi gw锚n i'n hwynebau 芒 chynnau fflam wladgarol yn ein mynwes, aiff ati i brofi ei honiadau gan fynnu bod llawer o'r dystiolaeth a gefnogai Historia Sieffre wedi ei llosgi ac mae'n enwi cyfnod erledigaeth Diochestian fel adeg benodol er mwyn argyhoeddi.

    Dywed wedyn fod llawer eto'n aros yn y llawysgrifau Cymraeg a chan na allai haneswyr Saesneg eu deall bod eu barn felly'n annilys.

    Wedyn, wrth s么n am Frad y Cyllyll Hirion dywed:
    "Fe ddamweiniodd i mi weled un o'r cyllill hirion hynny"
    A thrwy hynny droi chwedl yn dystiolaeth hanesyddol.

    Rebel o ddyneiddiwr
    Er mai dawn Theophilus Evans fel hanesydd sy'n rhannol gyfrifol am lwyddiant Drych y Prif Oesoedd rhaid cofio bod gwedd lenyddol i'r gwaith hefyd ac mai rebel o ddyneiddiwr oedd yr awdur.

    Gwrthryfelai'n chwyrn yn erbyn rhethreg flodeuog awduron ei gyfnod gan fynnu:
    "lles cyffredin mewn iaith eglur a deallgar."

    Dyma rinwedd pennaf y Drych.

    Lliwgar - a gwallus
    Er bod yr iaith yn druenus o wallus mae hefyd yn rhyfeddol o liwgar gyda'r bennod Eilundod Amryw Genhedloedd lle mae'n mynd gam ymhellach na'r hanesydd drwy roi tafodiaith ffraeth Castellnewydd Emlyn yng ngheg ei gymeriadau wrth ddisgrifio'r Chineaid yn addoli delwau.

    Try ddarlun hanesyddol yn un byw.
    "'Tydi gorgi cas," ebe hwy, "ai dyma fel y cawn ein trin gennych? Nad ystyriech, y lluman, yma fath deml wych y dodasom chwi; mor hardd y gwisgasom chwi ag aur a meini gwerthfawr; a maint o aberthau a laddasom i chwi! A pha gydnabod sydd gennych chwi, yr ysgerbwd brwnt! Am hyn oll?'"

    At hyn ychwanegodd yr awdur nifer o nodweddion llenyddiaeth epig gyda chyffelybiaethau estynedig hynod debyg i rai Fyrsil.

    Dyma'r gymhariaeth o ddwy fyddin yn ymladd :
    "megis Dau Darw gwyllt yn ymgornio, ac yn gadael heibio dros ychydig."

    Drwy gymharu rhywbeth anghyfarwydd 芒 rhywbeth cyfarwydd lliwia'r awdur ddarlun cliriach ym meddwl ei ddarllenydd.

    Areithiau arwrol
    Yna, mae'r areithiau epig, fel araith Buddug i'r Brythoniaid, yn anfarwoli'r cymeriadau ac yn rhoi naws arwrol i'r darn hefyd.

    Cyfoethogodd yr awdur ei destun ymhellach drwy ddyfynnu'n helaeth o'r hen farddoniaeth a'r cywyddau ac mae o hefyd wrth ei fodd yn plethu diarhebion i'r gwaith yn null y drasiedi glasurol.
    "Gelyn i ddyn yw ei dda," meddai yn un lle.

    Gyda doethineb yr oesoedd dengys inni hefyd pa mor ffol oedd y Brytaniaid a thrwy hynny wneud i golled ein cyndadau swnio'n fwy trasig.
    Petaent ond wedi dysgu'r hen ymadroddion . . .

    Ond y mae'n llyfr arbennig; yn gasgliad cryno o'n chwedlau cenedlaethol, oll mewn cyd-destun ac yn nhrefn amser.

    Yn bwysicach, mae'n dangos ymdrech dyn i lunio epig i'w genedl a llwyddo i'n diddanu wrth wneud hynny a hefyd argyhoeddi cenedlaethau bod chwedlau'r Drych yn hanes go iawn.

  • Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 主播大秀 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008

    Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi


  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy