主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Pam Fi, Duw, Pam Fi?
Pam Fi Eto, Duw?

Stori dda mewn iaith bob dydd
  • Adolygiad Carys Mair Davies o Pam Fi, Duw, Pam Fi? a Pam Fi Eto, Duw? gan John Owen. Lolfa. 拢5.95 yr un.


  • Y nofel Pam Fi, Duw, Pam Fi? oedd yn sail i'r gyfres deledu hynod boblogaidd am Ysgol Gyfun Glynrhedyn - Pam Fi, Duw?

    Cawn yn y nofel hon ddarlun byw iawn o fywyd mewn ysgol gyfun ddwyieithog, a hynny trwy lygaid Rhys, un o'r disgyblion.

    Er bod bwrlwm o hwyl ar bob tudalen mae Rhys hefyd yn arddel teimladau dwysach fel serch, tristwch a dicter ac mae'n eu mynegi mewn iaith na welwyd o fewn cloriau llyfr Cymraeg o'r blaen!!

    Ar 么l gweld y gyfres deledu y darllenais i'r llyfr a hynny heb fod yn si诺r a fuasai'r llyfr yn un gwerth ei darllen gan i mi deimlo ar y pryd fod y deunydd yn gweddu'n well ar gyfer sgr卯n.

    Cefais fy siomi o'r ochr orau gan fod stori'r nofel mor fyw fel y gallwn ddychmygu'r sefyllfaoedd yn fy meddwl ac ar brydiau cefais fy hun yn chwerthin yn uchel.

    Droeon eraill teimlwn ddagrau yn llosgi fy llygaid.

    Croesawu dyddiadur bachgen
    Rhaid dweud hefyd ei bod hi'n braf, o safbwynt merch, cael nofel ar ffurf dyddiadur bachgen am newid gan fod yr holl nofelau Cymraeg ar ffurf dyddiaduron merched.

    Fy hoff gymeriad yw tad Rhys, sef Dereck - cymeriad sy'n ysgafnhau pob amgylchiad gyda'i sylwadau difyr.

    Yn fy marn i, mae John Owen yn trosglwyddo neges bwysig iawn drwy'r cymeriad yma; er nad yw Dereck yn medru'r Gymraeg drwy gydol y nofel mae'n benderfynol y bydd ei blant yn cael addysg a bywyd Cymraeg.

    Y neges gan John Owen yw bod yr iaith yn bwysig iawn i'r genedl sydd ohoni heddiw gan ei bod yn rhoi gwreiddiau ac yn agor drysau.

    Mae cryn dipyn o iaith anweddus yn y nofel felly nid wyf yn credu ei bod hi'n addas ar gyfer plant ifanc iawn.

    Mae yma hefyd gryn dipyn o gymysgedd iaith gyda'r nofel yn symud o'r Saesneg i'r Gymraeg gydag ychydig frawddegau o Ffrangeg a Lladin hefyd!!!

    Ond er bod hyn yn swnio'n gymysglyd, mae'r nofel yn hollol ddealladwy mewn iaith bob dydd.

  • Dilyniant

  • Daeth dilyniant i'r nofel ar ffurf Pam Fi Eto, Duw? lle mae Rhys yn mynd i bob math o drafferthion ym mlwyddyn 12 wrth i gyfrifoldebau a phroblemau newydd ddod iddo fel un o ddisgyblion h欧n yr ysgol.

    Ond trwy sefyll ar ei draed ei hun a cheisio gwneud yr hyn sy'n iawn mae'n siomi ei rieni, pechu ei athrawon a difetha enw da yr ysgol!

    Ceir ymateb gonest Rhys i'w holl broblemau yn yr un iaith fywiog a darllenadwy 芒'r nofel gyntaf ac yntau heb guddio dim mewn dyddiadur personol sy'n llawn emosiynau a chynyrfiadau bachgen sy'n tyfu.

    Gwell na'r gyntaf
    Yn bersonol, mae'n well gen i'r nofel hon na'r gyntaf gan ei bod yn ymdrin 芒 materion dwysach.

    Mae hi yr union nofel i fechgyn yn eu harddegau hwyr a hithau'n ymdrin 芒 phroblemau fel serch a chyfiawnder.

    Credaf ei bod hi'n hollbwysig darllen Pam Fi, Duw, Pam Fi? cyn darllen hon neu bydd rhai digwyddiadau yn annelwig.

  • Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 主播大秀 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008

    Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Holi rhai o actorionm y gyfres deledu


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy