主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Ffenestri Tua'r Gwyll
'Nofel aflwyddiannus' Islwyn Ffowc Elis
  • Sylwadau Glyn Jones ar Ffenestri Tua'r Gwyll gan Islwyn Ffowc Elis. Gomer. 拢8.95.


  • "Fy nofel aflwyddiannus," oedd disgrifiad Islwyn Ffowc Elis o'r nofel hon ac, yn wir, pan y'i cyhoeddwyd yn 1955 fe'i beirniadwyd yn hallt am ei chymeriadau oeraidd a'i stori artiffisial.

    Ond nid bai'r awdur mo hynny gan na chredaf i gynulleidfa'r cyfnod werthfawrogi newydd-deb y nofel na gweld ei rhinweddau.

    Dewisodd yr awdur droi ei gefn ar y gymdeithas draddodiadol Gymraeg a s么n yn hytrach am gymdeithas drahaus o artistiaid a llenorion.

    O safbwynt Ceridwen Morgan
    Canolbwynt y cyfan yw Ceridwen Morgan ac er mai yn y trydydd person yr ysgrifennwyd y nofel, o'i safbwynt hi y'i hadroddir:

    "Trwy ffenestri ffr芒m bictiwr Trem-y-Gorwel y gwelai Ceridwen Morgan y byd. . . Yr oedd y rhai a adwaenai lai o bobol na hi yn eu hadnabod yn llwyrach, a'r rhai 芒 chanddynt lai o bethau na hi yn ymserchu ynddynt yn fwy. Ond yr un faint oedd ei byd hi 芒'u byd hwythau. Yr un faint yw byd pawb. Yr un faint 芒'i feddwl."

    Dangos ffordd Ceridwen o feddwl y mae'r awdur yma.

    Saif yn hunanfoddhaol yn ffenest ei phlasty, newydd ddarganfod rhyw wirionedd cudd am fywyd.

    Clawr y llyfr Ac eto, nid yw hi'n ran o'r bywyd hwnnw. Y mae 'ffenestri ffr芒m bictiwr' rhyngddi 芒 gweddill y byd. Nid yw'n ddim mwy na dol yn y plasty mawr a gododd ei g诺r iddi.

    Sylwer yn arbennig ar deitl y nofel. Ni chododd ei g诺r y t欧 gyda Ffenestri tua'r Wawr ond yn hytrach, gyda Ffenestri tua'r Gwyll.

    Trwy ei ddefnydd celfydd o iaith a delweddau, llwydda'r awdur i ddangos mai tywyllu fydd hanes bywyd Ceridwen, a hynny o ganlyniad i'w g诺r.

    Nid Kate Roberts
    Nid un o ferched stoicaidd Kate Roberts mo hon ond un o ferched trasig y dosbarth canol. Mae tebygrwydd rhyfeddol rhyngddi 芒 merched y dramodydd Norwyaidd Henrik Ibsen, yn enwedig Hedda Gabler, a Nora yn T欧 Dol. Fel nhw, y mae'n troedio'r ffin denau rhwng syrffed a gwallgofrwydd nes i rywbeth ei gorfodi i weithredu.

    I Ceridwen, y 'rhywbeth' hwn yw gormes ei g诺r ymadawedig ac, yn wir, er bod Ceredig yn ei fedd ers rhai blynyddoedd, mae ei bresenoldeb yn parhau.

    Gellid yn hawdd ddadlau mai ef yw prif gymeriad y nofel.
    Gwan ac ystrydebol yw pawb arall ond mae cyfalafiaeth ddigyfaddawd Ceredig yn llyffetheirio dawn greadigol ei weddw a hynny o'r tu hwnt i'r bedd.

    Yn ddi-os, y mae'r berthynas rhwng y materol a'r ysbrydol, rhwng cyfalafiaeth a chelfyddyd yn un o themau'r nofel.

    Brwydr barhaus
    Mae Ceridwen mewn brwydr barhaus 芒'r ddeubeth hyn; yn dyheu am gael bod yn un o hil etholedig yr artistiaid ond yr addewidion a wnaeth i'w g诺r ar ei wely angau yn ei rhwystro.

    Mae'n gwrthod mynd i'r byd perfformio er ei bod yn giamstar ar y piano ac mae'n gwrthod cariad Idris Jenkins, er mai hynny yw'r peth y mae'n dyheu amdano fwyaf.

    Daw ei deus ex machina, neu yr hyn a gred sy'n achubiaeth iddi, ar ffurf y bardd ifanc, Alfan Ellis. Ynddo ef, gw锚l y gall gael yr un peth hwnnw yr amddifadwyd hi ohono gan ei g诺r.

    "Ni chafodd erioed fod yn fam. Ond petai hi'n fam i'r llanc a safai'n awr rhyngddi a'r golau . . . fe fyddai wedi'i ddisgyblu i beidio 芒 dweud pethau fel a ddwedodd yn awr. Ac fe fyddai'n rhoi cydymdeimlad iddo hefyd."

    Gall fod yn fam iddo, ac yn fam 'artistig' i'r gelfyddyd 芒 gynhyrcha. Trwyddo ef yn unig y gall drechu Ceredig. Gwaria ffortiwn ar ddodrefnu stiwdio iddo, fel y gall lenydda yn llawn amser, a llwydda i'w wahanu ef a'i gariad a'i gael i chwarae rhan yn ei drama swreal.

    Fodd bynnag, nid yw ymateb Alfan hanner mor llwyddiannus.
    Derbyn y cyfan a wnaiff ef er y byddai unrhyw un call wedi rhedeg milltiroedd.

    Croesawu gwallgofrwydd
    Nid yw'n sylweddoli nad yw Ceridwen yn ei iawn bwyll tan ddiwedd y nofel.
    Fel y darllenydd, y mae'n oeri drwyddo am na all amgyffred ffordd Ceridwen o feddwl. Try fel merlen am y mynydd gan daflu d诺r oer dros unig obaith Ceridwen o hapusrwydd. Yn lle brwydro ymhellach, y mae'n ildio i'w g诺r, ac yn croesawu gwallgofrwydd:

    "Rwyt ti yma o hyd, y syrffed. Ddoe. Heddiw. Am byth. . . . Mae pawb wedi 'ngadael i. Pawb ond ti. Cymer fi gan fod arnat ti gymaint o f'isio i. . . . cymer fi . . . cymer fi . . "

    Pan drown i'r dudalen nesaf y mae Ceridwen wedi gwallgofi ac arddull y nofel wedi newid gyda hi. Sgrifennir yn y person cyntaf yn awr, y penodau'n fyr a'r brawddegau'n stacato i adlewyrchu llif ei meddwl gwallgof.

    "Deffro. Agor llygaid. Golau dydd. Rhywun wrth y drws. Dau. Martha a Jim. Martha'n cythru amdana'i."

    Y diwedd yw iddi gael ei hanfon i ysbyty meddwl a hithau, druan, yn credu ei bod ar ei ffordd i'w phriodas.

    Ac er mai cenawes benfalch grachfonheddig ydyw, yr wyf yn tosturio drosti - yn enwedig pan fo un o'i chyfeillion yn ein hatgoffa, "Fe ellid fod wedi rhwystro hyn." Achubwyd gwaeth pobl na Cheridwen Morgan!

    Ydyw, mae'n stori artiffisial - ond, onid artiffisial yw pob celfyddyd?

    Ydynt, mae'r cymeriadau'n oer ac atgas - ond y maent hefyd yn fflach ecsentrig o liw mewn llenyddiaeth sydd wedi'i boddi 芒 Mary Lewisus a Janes Gruffudd.

    Bu condemnio'r nofel yn golled i'n llenyddiaeth. Gorfu i Islwyn Ffowc Elis ddychwelyd at 'y nofel boblogaidd' yn lle mynd rhagddo i arbrofi a gwthio'r ffiniau ymhellach.

  • Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 主播大秀 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008

    Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy