主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Ffydd Gobaith Cariad
Nofel gwerth dyfalbarhau a hi

  • Adolygiad Carys Mair Davies o Ffydd Gobaith Cariad gan Llwyd Owen. Lolfa. 拢7.95.
  • Dyma nofel lesmeiriol wedi'i hysgrifennu gan blot feistr heb ei ail!!

    Mae Alun Brady, dyn ar drothwy ei 30 oed, wedi byw bywyd tawel, di-nod a chysgodol yng nghartref crand ei rieni yn un o faestrefi mwyaf cefnog Caerdydd.

    Ond, pan ddaw Patrick, ei dad-cu direidus, i fyw - ac i farw - yng nghartref Alun a'i rieni dyma ddechrau newidiadau enfawr ym mywyd y dyn ifanc.

    Mae Ffydd, Gobaith, Cariad gan Llwyd Owen yn llawn cymeriadau lliwgar, plotio gwreiddiol a diweddglo cofiadwy - sylfaen pob nofel rymus.

    Mae hefyd yn esblygiad naturiol o nofel gyntaf yr awdur, Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau. Wedi ei hysgrifennu yn gyfan gwbl trwy lygaid Alun Brady, mae'r nofel yn ddirdynnol gyda datblygiadau annisgwyl ac anhygoel. Yn archwilio them芒u cyfoes mae'n nofel am undonedd bywyd a'r pethau bach - a mawr - sy'n tarfu ar y tawelwch.

    Er bod y cymeriadau sydd i'w canfod yn y nofel yn rhai lliwgar a chofiadwy nid yw yr un ohonynt yn hoffus iawn; ond pe byddwn yn gorfod dewis hoff gymeriad, buaswn yn dewis rhieni Alun Brady.

    Dewisaf hwy am iddynt neilltuo eu bywydau i ofalu am dad-cu'r nofel; gweithred hollol anhunanol sy'n amlygu'r ffaith eu bod yn Gristnogion sy'n dilyn Gair Duw.

    Nid oes lle blaenllaw iddynt yn natblygiad plot y nofel - ond mae eu cymeriadau llym hwy yn rhoi syniad i'r darllenwr sut mae magwraeth Alun wedi effeithio ar ei bresennol a'i ddyfodol.

    Dim ond un gwendid sydd yna, a hynny ar y dechrau gyda'r agoriad yn llawer rhy dreiddgar ac felly mewn peryg o wneud i'r darllenwyr roi'r gorau iddi heb gyrraedd yr ail bennod.

    Dyna wnes i a bu'n agos i flwyddyn cyn imi ailgydio - ac rwy'n sobor o falch imi wneud hynny!

    Ni fuaswn yn argymell y nofel hon i bobl o dan 14 oed oherwydd ei iaith anweddus - ar bron bob dalen.

    Ni fuaswn yn ei hargymell ychwaith ond i bobl sy'n gwir fwynhau darllen deunydd Cymraeg gan fod angen treiddio'n ddwfn a darllen llawer rhwng y llinellau.

    Bu'n rhaid i mi yn 16 oed roi dau gynnig ar ei darllen i'w deall yn iawn.

    Ond rwy'n erfyn arnoch i ddarllen y nofel sy'n haeddiannol o bob canmoliaeth ac yn un o'r nofelau gorau yn y Gymraeg!

    Edrychaf ymlaen yn awr at ddarllen nofel gyntaf Llwyd Owen, Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau.

  • Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 主播大秀 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008

    Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Adolygiad arall


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy