主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Gwirioni
Helyntion cariad cyntaf
  • Adolygiad Carys Mair Davies o Gwirioni gan Shoned Wyn Jones. Lolfa. 拢4.95.


  • Nofel emosiynol a threiddgar yw Gwirioni gan awdures ddawnus a phrofiadol.

    Ceir ynddi ddarlun triw a thrist iawn o berthynas sy'n chwalu a throi o fod yn freuddwyd i hunllef.

    Mae'r stori wedi'i gosod yn y flwyddyn 1980. Gwenan yw prif gymeriad y nofel, merch gall, weithgar, sy'n ufuddhau i ddymuniadau ei rhieni bob amser.

    Clawr y llyfr Mae hi ynghanol ei arholiadau TGAU ac yn eiddgar edrych ymlaen at y gwyliau lle na fydd unrhyw bwysau o gwbwl ar ei hysgwyddau.

    Mae ar ben ei digon un bore gan fod yr arholiadau wedi gorffen, y gwyliau hir ddisgwyliedig yn nesau ac ar ben hynny mae ei golygon wedi'u gosod ar Dyfan Hughes, y rebel golygus sy'n ei phasio bob bore ar ei feic modur wrth iddi gerdded i gyfarfod y bws ysgol.

    Nid syndod oedd hi felly, iddi ruthro i gerdded i'r orsaf bws y bore hwnnw, a llai o syndod fyth pan dderbyniodd hi wahoddiad Dyfan am bas i'r ysgol ar ei feic.

    Nid oedd hi wedi bwriadu mynd efo fe ar y beic y tro cyntaf hwnnw - dim ond eisiau ei weld e'n pasio pen y l么n oedd hi ond 'roedd y syniad o gau ei breichiau am ei ganol cyhyrog yn ormod o demtasiwn iddi.

    O'r bore hwnnw ymlaen, fe ddaeth yn arferiad iddi gael pas i'r ysgol ar ei feic ac wedi ychydig o amser fe ddatblygodd perthynas ddyfnach rhyngddynt er bod hyn yn groes i ewyllys ei rhieni.

    Ar ei meddwl
    'Roedd Dyfan ar feddwl Gwenan bob awr o'r dydd - 'roedd hi'n ei garu. Felly beth oedd o'i le ar golli ei gwyryfdod i'r bachgen 'roedd hi'n ei garu ac, yn wir, ei chariad cyntaf?

    Ond ni wireddwyd breuddwyd o golli ei gwyryfdod mewn man hudolus, mewn gwely anferth 芒 cherddoriaeth dyner yn chwarae yn y cefndir.

    O na! Collodd ei gwyryfdod mewn ffordd cwbl wahanol ond nid oedd wahaniaeth am hynny ychwaith gan ei bod yn caru Dyfan.

    Ond ers i'r ddau ddod yn gariadon bu sawl storm yn eu perthynas baradwysaidd a Gwenan yn gweld ochr arall cwbwl wahanol i Dyfan . . .

    Pan aeth Gwenan i'r coleg 'roedd gadael Dyfan yn loes calon iddi ond fe drefnwyd ei fod yn treulio pob penwythnos efo hi ym Mangor.

    Poenai ffrindiau Gwenan amdani gan ei bod yn ymddieithrio 芒 hwy ac yn cwympo n么l fwy a mwy 芒'i gwaith.

    Yfed a mwynhau
    Un penwythnos, ni allai Dyfan ymweld 芒 hi yn y coleg felly aeth hithau allan gyda'i ffrindiau i ymlacio ar 么l cryn dipyn o berswadio ar ran ei ffrindiau.

    Ond yn ddi-rybudd fe ymddangosodd Dyfan yn y dafarn a mynd yn wyllt pan welodd Gwenan yn yfed a mwynhau 芒'r gorau.

    Pan welodd Gwenan ymateb Dyfan penderfynodd bod eu perthynas drosodd ond torrodd ei chalon pan ynganodd Dyfan y tri gair nas ynganodd o'r blaen: "Fi'n caru ti".

    Gadawodd Gwenan y coleg yn fuan wedi hynny a phriodi Dyfan.

    Bu'r cwpwl yn byw yn yr Hafod gan ymdrybaeddu yn y ffaith eu bod yn briod.

    'Roedd misoedd cyntaf eu priodas yn fisoedd hapus, hyfryd ac fe ategwyd hyn pan syrthiodd Gwenan yn feichiog. 'Roedd y p芒r yn feddw gan hapusrwydd pan ddarganfyddont fod yna fabi Hughes ar y ffordd.

    Ond buan iawn y sobrwyd y ddau ac fe ddechreuodd Dyfan weithio yn hwyr i berfeddion y nos tra a Gwenan adref yn poeni yn ei gylch.

    Un noson, a Dyfan wedi cyrraedd yn hwyr adref eto fe hysbysebodd Gwenan ef am ei apwyntiad 芒'r doctor. Fe wylltiodd Dyfan yn gacwn a'i tharo. 'Roedd hyn yn sioc o'r mwyaf i Gwenan ac ni allai gredu i'w Dyfan hi wneud y ffasiwn beth.

    Llaw ar ei boch
    Aeth bywyd yn ei flaen yr wythnosau nesaf ond fe ddaeth hi'n arferiad i Dyfan deimlo llaw ei g诺r ar ei boch. 'Roedd hi'n byw mewn ofn ac nid oedd hi'n gallu ymddiried yn neb er mwyn rhannu'r faich. 'Roedd ond gweld Dyfan yn gwneud iddi deimlo'n swp s芒l.

    Penderfynodd adael Dyfan a mynd i fyw 芒'i rhieni eto ond pan gyrhaeddodd Dyfan yn 么l o'r gwaith yn gynnar a'i gweld yn cydio yn ei ch锚s fe aeth yn wallgof. Gwallgofrwydd 芒 ddiweddodd mewn dau gorff marw . . .

    Mae Gwirioni wedi cael ei hysgrifennu yn nhafodiaith y gogledd a'r iaith yn syml a phlaen. Mae hi'n ddealladwy i bawb o bedwar ban byd ac yn berffaith ar gyfer ychydig o ddarllen ysgafn!

    Cefais fy nenu ati gan y clawr sydd, er yn glawr du a gwyn, yn hudolus yn ei symylrwydd.

    Ni ystyriaf "Gwirioni" yn un o'r llyfrau gorau imi ei ddarllen ond mi awn 芒 hi ar fy ngwyliau er mwyn darllen stori bleserus a hawdd ac rwyf yn bendant yn mynd i ddarllen rhagor o waith Shoned Wyn Jones.

  • Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 主播大秀 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008

    Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy