主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
O Lethrau Cefn Gwyn
Hunangofiant anhunanol
  • Adolygiad Martin Williams o, O Lethrau Cefn Gwyn gan Gwilym Lloyd Edwards. Gwasg Carreg Gwalch


  • "Cyn eiriadurwr yn cyhoeddi ei hunangofiant," oedd pennawd Y Cymro.
    Cyfle da i mi loywi fy Nghymraeg, meddyliais innau.
    A do, mor sicr a bod Mawrth yn y Grawys, fe ddysgais dipyn go lew am gyfoeth geiriol yr heniaith wrth ddarllen hunangofiant y g诺r crefyddol, Gwilym Lloyd Edwards, O Lethrau Cefn Gwyn.

    Er enghraifft; edrydd, dyfnddysg, mwyara - gwych! Ffordd arall o ddweud 'mynd i hel mwyar duon'- "a'r goreuon allan o gyrraedd!" Heb anghofio'r defnydd da o air bach pert ac unsillafog, wiw.

    Cynnig profiad difyr
    Ond profiad tu hwnt o ddiflas - arteithiol hyd yn oed - fyddai darllen geiriadur cyffredin/idiomau neu thesawrws 168 tudalen o glawr i glawr mewn tridiau.

    Nid dyma oedd fy mwriad, ac mae Gwasg Carreg Gwalch yn cynnig profiad difyrrach i unrhyw un (wel, h欧n na 30 oed efallai?) sy'n ymddiddori yn y Pethe - ac mae paragraff olaf/cyntaf tudalennau 31 a 32 yn fymryn o wybodaeth eitha diddorol, chwarae teg.

    Paham, felly, fy mod wedi mwynhau'r hunangofiant anhunanol yma mewn cyfnod byr o amser?
    'Roedd darllen y rhagarweiniad a'r bennod Dwy Ardal hefo c芒n Mim Twm Llai, Cwmorthin, yn chwarae ar repeat ar y stereo yn brofiad gwych.

    Priodas od ac anaddas i'r diddychymyg a choes ysgolheigaidd efallai. Ond na. Brogarwch, gwreiddiau, cyfoeth diwylliannol, y syniad o berthyn. Yndi:
    Mae o'n gwneud i ti sylweddoli
    Bod mwy i'r bywyd hwn
    Na Coca Cola.

    Efallai nad oes gan O Lethrau Cefn Gwyn obaith bod yn best-seller i bobl yn eu hugeiniau ond dwi hefyd yn sicr fod canran sylweddol o ffans Mim Twm Llai yn bobl ifanc. Profiad c诺l a gwefreiddiol.

    Hiwmor
    Ond dyna ddigon o geisio cymell rhai o aelodau www.maes-e.com i'w ddarllen a'i drin a thrafod yn yr adran Llyfrau Cymraeg. Be fydd y darllenwr nodweddiadol a mymryn yn h欧n yn ei fwynhau?

    Hiwmor y Cymry. Mae'r stori/joc am John Williams, Sarnau, hefo'i ambarel (tud. 104) yn eitha doniol.

    Mae geiriau/ateb "My father, sir" gan Johnny (98) yn ychwanegu mymryn bach mwy o liw.

    "Byddai pethau wedi mynd yn ffliwt!"- ar dudalen 69 (tipyn bach o ddawn dweud a ffraethineb- pam lai?!)

    Athrawon ymroddedig
    Gorau ysgol yn yr hollwlad
    I ddysgu dyn yw ysgol profiad

    Nid yw'r awdur llyfrgar yma'n swil o ddyfynnu geiriau pobl eraill ac mae'n anodd meddwl am ddyfyniad gwell i'w gynnwys mewn hunangofiant na'r Hen Bennill uchod!

    Ond 10 allan o 10 ac A*** iddo am grybwyll yr "athrawon ymroddedig, ac iddynt ruddin, a osododd esiampl..."

    Dichon nad yw neb yn anghofio athro neu athrawes dda ac mae ei farn ynghylch pwysigrwydd ysgolion cynradd ar waelod tudalen 71 yn gwneud synnwyr, am wn i.

    O Teulu Bach Nant-oer, gan Moelona ymlaen- nid yw rhywun llengar fel yr awdur yma yn mynd i hepgor y stori o gael benthyg llyfr gan Bob Owen Croesor!

    Teipiais llyfrgell bob owen a croesor i mewn i beiriant chwilio lluniau www.gwgl.com - hen dro, dim llun ysblennydd o'r llyfrgell enwog!

    Er na ddywed paragraffau agoriadol Troeon Yr Yrfa unrhyw beth gwirioneddol newydd neu dreiddgar, dwi'n si诺r y bydd nifer o bensiynwyr Cymraeg yn gallu deall ail hanner y trydydd paragraff a dirywiad bywyd y capel yn berffaith: "Y fath newid!"

    A thra fy mod ar nodyn crefyddol, mae'r sylw hael a roddir i Charles H. Clements, organydd cyflogedig capel Seilo, Aberystwyth, yn annog rhywun i ddarllen mwy am ddyn a oedd yn gallu "chwarae gwaith anodd ar gyfer yr organ, a hynny gan newid cyweirnod y copi oedd o'i flaen."
    Tipyn o gamp!

    Cefais fwy o flas ar hunangofiant Gwyn Thomas, Bywyd Bach y llynedd ond mae'r brodor o blwyf Llangywer yn yr hen Sir Feirionnydd "mor gadarn raenus ei Gymraeg" (geiriau Yr Athro Hywel Teifi Edwards ar gefn y llyfr) ac mor wybodus a diwylliedig fel na allaf ddisgwyl darllen ei gyfieithiad o nofel Gunter Grass, Katz und Maus/Cath a Llygoden.

  • Adolygiad Meg Elis i Llais Ll锚n
  • Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 主播大秀 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008

    Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Adolygiad Meg Elis

  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy