主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
St@fell
  • Adolygiad Carys Mair Davies o St@fell gan Meleri Wyn James. Cyfres Whap, Gwasg Gomer. 拢4.99



  • Mae st@fell yn llyfryn perffaith ar gyfer darllen sydyn. Ni chymerodd ond awr a hanner i mi ei ddarllen.

    Mae'r stori'n troi o amgylch ystafelloedd sgwrsio ar y rhyngrwyd ac yn ymwenud 芒 thair ffrind, C锚t, Heledd a Siwsi.

    Clawr y llyfr Er bod y cymeriadau hyn mor flaenllaw 芒'i gilydd yn y stori rhoddir mwy o sylw i Heledd - yn enwedig digwyddiad erchyll pan oedd yn blentyn.

    Mae'r tair ohonynt yn cysylltu 芒'i gilydd fin nos mewn ystafell sgwrsio hollol breifat y gwnaeth tad Heledd, Prif Arolygydd Heddlu Gorllewin Cymru, ei chreu ar eu cyfer.

    Felly, sut ar y ddaear y llwyddodd 'V' i hacio i'r ystafell sgwrsio hollol breifat hon a bygwth Heledd?

    Pan ymunodd 'V' 芒'r stori credais taw bwriad yr awdur oedd amlygu'r problemau a'r peryglon sy'n gysylltiedig 芒 siarad efo pobl ddieithr ar y rhyngrwyd.

    Ond ni allai dim fod yn bellach oddi wrth y gwir ac mae tro sylweddol yng nghynffon y stori hon a'm gadawodd yn gegrwth.

    Stori seicolegol yw st@fell sy'n cynnwys brwydr fewnol un cymeriad a diffyg maddeuant.

    Er yn stori seml mae iddi blot llesmeiriol ond ni fuaswn yn argymell y llyfryn hwn i blant ifanc oherwydd rhegfeydd sydd ynddo.

    Ar adegau mae'r iaith yn eithaf dryslyd oherwydd y defnydd o iaith decstio megis; "Lle chn nmnd gnod?" ac "Ise 拢拢拢 i gal netwrk newy. Sdim pawb mor 拢拢拢 芒 t".

    Defnyddir gwahanol ddulliau i symud y stori yn ei blaen yn gyflym gan gynnwys ffeil ffeithiau i ddangos sut bobl yw'r tri phrif gymeriad.

    Credaf fod y pris yn ffinio ar yr ochr ddrud oherwydd ar 么l darllen y stori unwaith nid wyf yn rhagweld y byddaf yn ei darllen eto.

  • Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 主播大秀 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008

    Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy