主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Ac Yna Clywodd S诺n y M么r
Nofel well na'i chlawr!
  • Adolygiad Carys Mair Davies o Ac yna Clywodd s诺n y M么r gan Alun Jones. Gomer. 拢8.99.

    Clawr tywyll, diflas a theitl sy'n cyfleu yr un anobaith sydd i'r llyfr hwn.

    Clawr y llyfr Ni fu'r broliant ychwaith yn fodd i chwalu fy argraffiadau cyntaf - er gwaethaf canmoliaeth brenhinoedd llenyddiaeth fel Islwyn Ffowc Elis a John Rowlands.

    Felly, pam darllen y llyfr?
    Yn syml, oherwydd ei fod yn rhan orfodol o faes llafur fy arholiadau TGAU Cymraeg.

    Nid oeddwn yn disgwyl ei fwynhau o gwbwl ac mae'n rhaid cyfaddef na wnes i ganolbwyntio rhyw lawer yn y gwersi!!!

    Wedi fy nghyfareddu
    Ond wedi inni fel dosbarth ddarllen y prolog a'r penodau cyntaf ni allwn roi'r llyfr i lawr.

    Roeddwn wedi fy nghyfareddu gan hud a lledrith y plot, y cymeriadau a'r them芒u.

    Erbyn hyn, 芒'r dosbarth wedi darllen hyd at bennod chwech gallaf ddweud fod y llyfr yn haeddu sylw manwl pawb o'r dechrau i'r diwedd!

    Mae Ac Yna Clywodd S诺n y M么r gan Alun Jones yn nofel sy'n llawn dirgelwch ac antur.

    Er nad oes prif gymeriad mae'n llawn o gymeriadau cryfion sy'n hollbwysig i undod y digwyddiadau.

    Hoff gymeriad
    Fy hoff gymeriad yw Meredydd sy'n cael ei gyhuddo o dreisio Bethan Gwastad Hir.

    Er i lys ei gael yn ddieuog ni wyddom a gyflawnodd y weithred ai peidio gan fod y nofel yn dangos dwy ochr hollol wahanol i bersonoliaethau Meredydd a Bethan.

    Mae hwn yn ddirgelwch sy'n peri gofid mawr i'r darllenydd oherwydd na wyddom beth i'w wneud o Meredydd.

    Cawn ddarllen am ei helyntion ers ei brofi'n ddieuog - yn bennaf dan law Huw Gwastad Hir, brawd Bethan. Nid yw'n ymddangos y bydd ei fywyd yr un fath byth eto.

    Mae e'n anobeithio ar 么l dod allan o ganolfan gadw Risley gyda phob diwrnod yn gopi diflas o'r un cynt.

    Hynny yw, nes iddo gwrdd ag Einir.

    Yn ei chwmni hi mae amser yn hedfan ac yntau'n canfod bywyd gwerth chweil unwaith eto.

    Dyn amheus
    Ond tua'r un amser ag y mae bywyd yn troi'n felys iddo mae'n sylwi ar ddyn dieithr, amheus, yn stelcian o gwmpas ei d欧 ac yn sydyn iawn mae Meredydd yn darganfod ei hun dros ei ben a'i glustiau mewn dirgelwch sy'n ymestyn yn 么l pum mlynedd.

    Pwy yw'r dyn amheus ?
    Sut y bydd Meredydd yn delio 芒'r sefyllfa?
    Rhaid darllen campwaith Alun Jones!

    Er mai gogleddol yw tafodiaith y nofel mae'n ddigon dealladwy i hwntws hefyd. Mae symlrwydd a naturioldeb arddull yr awdur yn berffaith ar gyfer y cynnwys.

    Darlunnir cymuned glos y gall y darllenydd uniaethu 芒 hi.

    Er nad yw'r stori yn un anodd ei dilyn rhaid bod yn eithaf effro eich meddwl i gadw ar y blaen i'r rhibidir锚s o ddigwyddiadau.

    Darllen rhagor
    Mwynheais y llyfr yn fawr iawn ac rwy'n gwybod y byddaf yn darllen rhagor o waith Alun Jones yn y dyfodol agos.

    Er nad wyf yn hollol si诺r os yw'r plot yn gydnaws 芒 bywyd bob dydd mae'r cyfle i gael eich tynnu i mewn i fywyd sy'n llawn lliw a llun, antur a dirgelwch, yn brofiad llesmeiriol.

    Dwi'n argymell Ac Yna Clywodd S诺n y M么r i unrhyw un - boed yn ddeg oed neu'n ddeg ar hugain! Llyfr a hanner sy'n haeddu'r amser, y lle a'r 拢8.99 a dalais amdano.

  • Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 主播大秀 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008

    Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy