主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Llyfr y Tri Aderyn
Glyn Jones yn trafod clasur sy'n siarad 芒 phob oes
  • Cyhoeddir Llyfr y Tri Aderyn gan Wasg Prifysgol Cymru. 拢5.99.

    Disgrifiodd neb llai na Syr Thomas Parry Lyfr y Tri Aderyn fel un o brif glasuron y Gymraeg ac yr oedd yn llygaid ei le.

    Er mai llyfr crefyddol ydi o ni ddylai hyn eich dychryn.
    Yn gyntaf, mae'n ddiddorol am ei fod yn pregetha wirioneddau y byddai eglwysi Cymru yn yr unfed ganrif ar hugain yn eu galw'n heresi hyd yn oed.

    Yn bennaf, nad oes angen na phulpud na phregethwr na chymaint 芒 thudalen o'r Ysgrythur l芒n i glywed gair Duw gan Ei fod yn preswylio yn ystafell ddirgel y galon.

    Ar ffurf ymddiddan rhwng tri aderyn y mae'r awdur, Morgan Llwyd, yn trafod hyn - a thri aderyn hynod ddiddorol ydyn nhw.

    Y Gigfran
    Dyna'r Gigfran - cymeriad gorau'r llyfr:
    "Crawc. Beth a wna'r Golomen ff么l yma yn siarad ni 诺yr hi beth, o'th flaen di, O Eryr Boneddigaidd?"

    Er yn gymeriad amhleserus ni allwn beidio ag edmygu ei chyfrwystra.

    Sylwer hefyd ar y gair 'Crawc.' sydd yn gyntaf oll yn ddarluniad realistig o'r Gigfran ond ag iddo hefyd ystyr symbolaidd.

    Er bod ganddi lawer o bwyntiau dilys, mae ei rhesymeg bob hyn a hyn yn dadfeilio i ddim ond crawcian, gan atgoffa'r darllenydd mai ysglyfaethwr cyfrwys yw hi ac na ddylai gymryd yr hyn a ddywed o ddifri.

    Yn alegori
    Ond mae Llyfr y Tri Aderyn yn llawer mwy na thri aderyn yn dadlau ond yn alegori lle mae popeth yn cynrychioli rhywbeth arall.

    Er enghraifft, symbol o'r Offeiriad yw'r Gigfran a'i phlu yn ddu fel eu dillad hwy.

    Yr un modd ag y mae'r Gigfran yn bwyta cyrff y meirw mae'r Offeiriaid hwythau yn pesgi ar bres y degwm.

    Ond mae Morgan Llwyd yn rhy glyfar i'w lambastio. Trwy ei geiriau mae'r Gigfran yn ei chondemnio hi'i hun.

    Yr Eryr
    Nid yw'r Eryr yn gymeriad mor llwyddiannus 芒'r ddau arall gan nad yw ond yn gyfrwng gofyn cwestiynau. Cynrychiola brenin yr adar rym y wladwriaeth ac, o bosib, Oliver Cromwell ei hun, ac o ystyried hyn, mae Llyfr y Tri Aderyn yn llyfr hynod o feiddgar, yn enwedig pan wnaiff sylwadau fel hyn:

    "Eryr: Ond yr wyt ti yn bwyta cig y meirwon, ac yn ymborth ar y budreddi annaturiol?
    Cigfran: Felly yr wyt tithau (O Eryr) weithiau, er dy fod yn falch, ac megis yn frenin."

    Condemniad cynnil o Cromwell, neu unrhyw brif weinidog arall o ran hynny, sydd i fod yn esiamplau ond sy'n gloddesta mewn llygredigaeth 'weithiau'.

    Y Golomen
    Dyna'r golomen wedyn, yr aderyn a ddaeth yn ei h么l i Arch Noa gyda deilen olewydd yn ei phig.

    Mae hi'n cynrychioli ddysgedigaethau Morgan Llwyd a gafodd ei gorddi i ragfynegi dyfodiad, yn 1666, y byd newydd!

    A dyma ni, bron i 350 o flynyddoedd wedyn yn dal i ddisgwyl. A dyna ran fawr o ap锚l y llyfr. G诺r oedd mor sicr, ac eto mor anghywir, yn llwyddo i drafod ac egluro dirgelwch yr Ysbryd Gl芒n sy'n rhywbeth perthnasol i bob oes, yn enwedig Cymru gyfalafol yr unfed ganrif ar hugain.

    Egluro'r annegluradwy
    Eto, nid hyn sy'n gwneud y gwaith yn glasur. Y mae toreth o lyfrau diwinyddol sy'n dehongli dirgelion y ffydd yn pydru yn ein llyfrgelloedd, llawer yn sychach na'r Sahara.

    Yr hyn sy'n gwneud Llyfr y Tri Aderyn yn well na'r rhain ydi dull Morgan Llwyd o gyflwyno. Yr oedd yn awdur a wyddai fod yn rhaid iddo egluro'r annegluradwy ac a wynebai'r peryg o golli'i ddarllenydd mewn niwloedd diwinyddol.

    Ei ddull o osgoi hyn oedd troi haniaeth yn ddiriaeth trwy osod llun yn ein meddwl.

    Edrychwch:
    "Colomen: Ped faent yn gwybod pwy sy'n aros ynddynt, ni ch芒i chwant a phechod mo'r dyfod i mewn i blas y galon, lle y mae boneddigion nefol yn swperu.
    Eryr: Ond pwy sy'n aros y rhai drwg?
    Colomen: Ysbryd anufudd-dod (Diafol a Lwsiffer) yn cadw llys agored i'r holl chwantau drwg . . . Ac fel mae pob calon fudr yn grochan i'r cythrel ar d芒n uffern, felly mae efe yn ofalus i gadw tanwydd dano."

    Er na wn i fawr am ddiffiniadau diwinyddol o bechod gwn gyda sicrwydd y byddai'n well i'm calon fod yn blasty i 'foneddigion nefol' nac 'yn grochan i'r cythrel' a thrwy gyferbynnu eithafion mae'n dangos i'r darllenydd ei gyflwr fel ei fod yn ymateb ac yn deall bod rhaid iddo wahodd Crist i'w galon a throi'r diafol ymaith.

    Dyna'r iaith wedyn - fel yn yr ymgom ganlynol:

    "Cigfran: Mi welaf dy fod ti fyth yn ffafrio'r colomennod. Oni wyddost ti eu bod yn ymlusgo i deiau, ac yn gwneuthur drygioni gyda'i gilydd?
    Eryr: A fuos ti erioed yn eu mysg hwy . . ?"

    Tafodiaith firain
    Nid iaith y Beibl ond tafodiaith firain, ffraeth Ardudwy.

    Dyna ateb bendigedig yr Eryr wedyn; yn graff ac er yn gofnod o fwrlwm crefyddol yr ail ganrif ar bymtheg mae'n ateb sy'n siarad 芒 phob oes.

    Fel y Gigfran, rydym wrth ein boddau yn edliw eraill, yn barnu heb wybod, ac yn derbyn dehongliadau ein ffrindiau heb feddwl ddwywaith ynghylch y peth.

    Y gallu hwn i droi propaganda grefyddol ei gyfnod yn rhyddiaith gain oesol sy'n teilyngu lle ar y silff lyfrau i Llyfr y Tri Aderyn.

  • Darparwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd tan 31 Ionawr 2008 rhwng 主播大秀 Cymru'r Byd ac Antur Teifi.


  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy