主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Cymraeg ar y we
Yn y rhith fro
Sion Jobbins yn dod o hyd i fro Gymraeg ar y We
Os oedd 2004 yn flwyddyn lwyddiannus i'r we Gymraeg, mae un o brif wefeistri Cymru yn darogan y bydd 2005 yn un well byth.

Yn 么l Nic Dafis, gwefeistr y fforwm drafod eiconig, , bu'r ddwy flynedd, diwethaf - a'r llynedd yn enwedig - yn llwyddiant mawr ond mae dal llawer o waith i'w wneud.

Pobl y gwrando
Ac ymysg y rhwydwaith ar-lein ifanc, mae barn Nic Dafis yn farn mae pobl yn gwrando arni.

Nid gormodiaeth fyddai dweud i maes-e fod yn sbardun ar gyfer creu s卯n gwe Gymraeg, ac i nifer o we-borwyr ifainc Cymraeg, maes-e yw prif ffocws y Rhith-fro.

Mae gan maes-e dros 1,200 o aelodau.

Maes E Dydy hi ddim yn costio ceiniog i ymaelodi 芒'r fforwm nac i anfon neges a dim ond i rywun beidio ag enllibio neu sarhau yna caiff fwy neu lai unrhyw neges ei harddangos ar y maes.

Ac mae'r negeseuon yno'n amrywiol a'r pynciau'n ymestyn o fwyd a diod i'r S卯n Roc Gymraeg, o chwaraeon i adolygiadau llyfrau a rhaglenni teledu gan ennyn trafodaeth frwd a di-flewyn-ar-dafod - rhinwedd sydd mor brin yn y Gymru Gymraeg.

Dyfeisgarwch a hiwmor
Ac os yw unrhyw un yn meddwl fod traddodiad llysenwau Cymreig wedi marw gyda'r ceffyl gwedd, yna does ond eisiau bwrw golwg ar enwau rhai o'r cyfranwyr i weld fod dyfeisgarwch a hiwmor (heb s么n am destun doethuriaeth gyfan ar ystyr Freudaidd rhai ohonynt) yn fyw ac yn iach.

Cymaint yw llwyddiant maes-e ers ei sefydlu yn Awst 2002 fel bod bellach dros 135,000 o negeseuon yno.

Ond mae s么n am bwysigrwydd maes-e yn unig fel fforwm drafod fel s么n am bwysigrwydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn unig oherwydd seremoniau'r coroni a'r cadeirio.


Gwir lwyddiant maes-e yw ei fod yn fan cwrdd ar gyfer cenhedlaeth gyfan o bobl ifanc (a ddim cweit mor ifanc) i greu gwe fannau uniaith Gymraeg heb na sybsidi na sensoriaeth. Dyma a olygir gan y Rhith-fro neu'r S卯n We Gymraeg.

Unwaith eto, mae Nic Dafis ymhlith yr arloeswyr neu 'drist-ddynion', chwedl yntau, sydd wedi mynd ati i gyfieithu systemau gwe ac i greu mudiad cyffrous, hwyliog, diddorol ac optimistaidd yn y Gymraeg.

Does dim sefydliad fel y cyfryw ond rhwydwaith o flogiau, fforymau a gwefannau annibynnol gyda'r ddolen o fod yn uniaith Gymraeg.

I nifer o'r gwefanwyr, mae unieithrwydd ar-lein yn hollbwysig ac mae'r cynnyrch yn chwa o awyr iach.

Blogiau gorau
Fel pe na byddai bugeilio maes-e yn ddigon o waith, mae Nic Dafis hefyd yn gyfrifol am un o'r blogiau Cymraeg gorau (os nad Y blog gorau yn y Gymraeg) sef .

Math o ddyddiadur, neu lyfr lloffion personol, yw blog a chyfle i'r awdur daro ar y sgrin unrhyw beth sy'n codi ei ffansi. Mae myfyrdodau morfablog yn amrywio o ffilmiau i ieithoedd, tra bo yn rhoi gogwydd Iddewig a Llundeinig yn y Gymraeg a bellach (yn rhannol am fod Nic Dafis wedi cyfieithu testun meddalwedd rhydd blog phpBB i'r Gymraeg) mae dwsinau o flogiau Cymraeg o'u cymharu 芒 llond dwrn flwyddyn yn 么l.

'Mae 600,000 o siaradwyr Cymraeg, ac mae ganddo ni rhyw 50 o flogiau Cymraeg, sy'n wych o beth. Ond mae 300,000 o siaradwyr Islandeg ac mae ganddyn nhw rhyw 5,000 o flogiau. Dyw pobl ddim yn sylweddoli pa mor hawdd yw sefydlu gwefan neu flog.

Dy'n ni wedi profi nad oes angen mynd drwy'r hwpiau arferol o sicrhau cyllid cyn dechrau gwefan Gymraeg. Yr unig beth sy'n stopio rhywun ydy chi eich hun,' meddai'r dyn sydd yn ei ffurf gig a gwaed yn byw yn Llangrannog yng Ngheredigion.

Iach a blasus
O'r gwe fannau uniaith Gymraeg newydd sydd wedi eu sefydlu dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf mae'r amrywiaeth yn iach a blasus. Mae yn trafod y S卯n Roc Gymraeg gyda'r hiwmor a'r difrifoldeb mae'n ei haeddu tra bo yn fforwm ar gyfer rhai sy'n magu plant (ac am rannu'r pleser a'r boen). Gwefan Pishyn

Mae yn cynnig taith o bentrefi'r fro honno, tra bo yn dod 芒 Chymry cariadus at ei gilydd, a'r yn eu gwahanu.

Ac un o'r datblygiadau mwyaf uchelgeisiol diweddar yw sefydlu fersiwn Cymraeg o'r gwyddoniadur rhydd ar-lein, - cyfle i bobl ddarllen a chyfrannu erthyglau ar unrhyw bwnc dan haul.

'Ewch ati i greu . . .'
Neges y dyn a sefydlodd faes-e a morfablog er mwyn gwella ei Gymraeg yw; 'Ewch ati i greu eich gwefan eich hun - mae'n haws nag a fyddech yn disgwyl.'

Hoff wefannau Cymraeg Nic Dafis:


Hoff flogiau Cymraeg Nic Dafis:




Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy